Blog

Danteithion y Pasg o’ch stryd fawr leol!

Danteithion y Pasg o’ch stryd fawr leol!

15 Ebrill 2019

Beth am daro draw i’ch stryd fawr leol i brynu anrheg unigryw a blasus i’ch ffrindiau a’ch teulu (neu i chi eich hun) dros gyfnod y Pasg eleni!

Os ydych yn chwilio am anrheg ychydig yn wahanol i’r arfer ar gyfer y Pasg, nid oes angen i chi fynd ymhellach na rhai o’r busnesau annibynnol gwych sydd i’w cael ar y stryd fawr yn rhai o drefi a dinasoedd Cymru. O wyau siocled prydferth a wnaed â llaw i siocledi a ddyluniwyd yn gywrain gan grefftwyr medrus, a hamperi a baratowyd yn ofalus ac sy’n llawn dop o ddanteithion o Gymru. Mae’r cyfan ar stepen eich drws!

Rydym wedi llunio rhestr o rai o’r trysorau cudd hyn i chi chwilio amdanynt, er mwyn dathlu’r gorau o’r hyn sydd gan y stryd fawr yn ein trefi a’n dinasoedd i’w gynnig. Beth am gefnogi eich stryd fawr a #siopanlleol gyda Traveline Cymru y Pasg hwn?

 

Heavenly, Llandeilo

Agorodd Paul a Tracy Kindred eu siop Heavenly yng nghanol Llandeilo bron 14 blynedd yn ôl. Gall ymwelwyr â’u siop ddewis o blith amrywiaeth o siocledi moethus a wneir â llaw ar y safle, neu ddewis o blith siocledi dethol a wnaed gan rai o gynhyrchwyr gorau’r byd.

Caiff eu blychau magnetig hardd – sy’n cael eu leinio â defnydd aur a’u cau â rhuban prydferth – eu llenwi â detholiad o’u siocledi Heavenly enwog, a gall eu calonnau siocled gael eu haddurno â delwedd neu destun o’ch dewis chi! Dyma anrheg bersonol berffaith i un o’ch anwyliaid y Pasg hwn.

Os bydd awydd bwyd arnoch tra byddwch yn siopa am anrheg ar gyfer y Pasg, beth am brynu hufen iâ moethus i chi eich hun a wnaed o laeth a hufen organig o Gymru? Mae’r gwahanol flasau sydd ar gael yn cynnwys pwdin taffi sticlyd, cacennau jaffa, a theisennau brau moethus...bydd gennych fwy na digon i ddewis o’u plith!

 

Siop Siocledi Maisie, Llandudno

Agorwyd Siop Siocledi Maisie yn 2012 ac mae’n fusnes teuluol nad yw’n bell o lan y môr yn Llandudno. Ochr yn ochr â’r bariau cyffug hallt tywyll Johnny Doodle, sef y cynnyrch mwyaf poblogaidd, mae siop Maisie hefyd yn gwerthu rhai o’r siocledi gorau a wneir gan grefftwyr o bob rhan o Gymru, y DU, yr Iseldiroedd a Gwlad Belg.

Gallwch greu eich blwch eich hun o siocledi, gan ddewis o blith dros 40 o wahanol fathau sy’n cynnwys peli siocled moethus a bonbons blasus, ac mae’n siŵr y byddai eich ffrindiau a’ch teulu wrth eu bodd â rhodd o’r fath. Os ydych yn chwilio am anrheg ychydig yn wahanol i’r arfer ar gyfer y Pasg, ceir ystod eang o licris blasus o’r Iseldiroedd sy’n dod mewn pob math o wahanol siapiau a meintiau.

Galwch heibio i’r siop i weld yr ystod lawn o gynnyrch sydd ar gael, sy’n cynnwys hamperi unigryw ar gyfer achlysuron arbennig. Byddwch yn siŵr o weld rhywbeth sydd at eich dant!

 

Siop Siocledi Sarah Bunton, Aberystwyth

Mae Sarah Bunton yn wneuthurwr siocledi medrus sy’n gweithio yn ei siop siocledi ym Mhontarfynach ym Mynyddoedd Cambria yn y canolbarth. Mae’r siop gyferbyn â gorsaf Rheilffordd Cwm Rheidol ac yn un o atyniadau mwyaf poblogaidd Pontarfynach.

Mae Sarah a’i thîm yn cynhyrchu ystod fendigedig o siocledi a pheli siocled a wneir â llaw, anrhegion tymhorol, bariau siocled a nwyddau unigryw. Mae llawer o’r rhain yn cynnwys cynhwysion arbennig o Gymru gan gynnwys gwirod Merlyn a mêl Cymreig.

Gallwch wylio aelodau’r tîm yn gwneud eu siocledi arobryn trwy’r ffenestr bwrpasol sydd yn y siop siocledi, ac yno hefyd gallwch ddod o hyd i’ch anrheg Gymreig berffaith ar gyfer y Pasg (a rhywbeth i chi eich hun efallai yn y caban têc-awe cyfagos!).

 

So Cocoa, Abertawe

So Cocoa yw’r unig siop siocledi annibynnol yn ardal Abertawe, ac mae o’r golwg yng nghornel Dunns Lane yn y Mwmbwls. Mae’r perchennog, Lizzie Greenaway, yn prynu ei siocled moethus o bob cwr o’r DU, Ewrop a De America ac mae’n cynnig ychydig bach o bopeth, o anrhegion siocled unigryw i ddanteithion a wneir yn grefftus â llaw.

Pa anrheg well adeg y Pasg na blwch wedi’i greu yn bersonol sy’n llawn o ddanteithion siocled a wnaed â llaw. Gallwch ddewis o blith y siocled fanila bendigedig gyda ffa coco mâl, rhosod ffondant, neu’r kirsch ceirios tywyll…i enwi dim ond rhai! Beth am lew neu deigr siocled i’r plant, neu flociau adeiladu o siocled hyd yn oed?

Gyda siocledi i feganiaid, a siocledi nad ydynt yn cynnwys cynnyrch llaeth na glwten, mae So Cocoa yn un o berlau gwirioneddol y dref lan môr gyfareddol hon.

 

Caffi, Siop Lyfrau a Deli The Hours, Aberhonddu

Mae Caffi, Siop Lyfrau a Deli The Hours yn drysor cudd yng ngwir ystyr y gair, a gellir dod o hyd iddo yn nhref farchnad hanesyddol Aberhonddu. Mae’r siop mewn adeilad hynod o oes y Tuduriaid ar Heol y Defaid, a gall ymwelwyr chwilio trwy’r silffoedd am eu llyfr delfrydol yn y siop lyfrau cyn cael tamaid i ginio yn y caffi.

Wedi i chi flasu’r amrywiaeth bendigedig o gawl, brechdanau a phwdinau blasus ffres, ewch drws nesaf i’r deli. Mae’r deli yn gwerthu ystod eang o gynnyrch lleol o Gymru gan gynnwys caws, jin, bara a chynnyrch wedi’i bobi, sydd wedi’u dewis a’u dethol yn ofalus i ddangos y gorau o’r hyn sydd gan Gymru i’w gynnig. Mae staff gwych y deli wrth law hefyd i’ch helpu i greu hamper unigryw a fydd yn anrheg ddelfrydol ac ychydig yn wahanol ar gyfer y Pasg, sy’n siŵr o greu argraff ar eich ffrindiau a’ch teulu.

 

Wickedly Welsh, Sir Benfro

Mae’r busnes teuluol hwn ychydig oddi ar yr A40 i mewn i Hwlffordd, lai na munud o faes y sioe yn Llwynhelyg. Y perchnogion, Karen a Mark, a’u tîm talentog sy’n creu llawer o’r anrhegion siocled hynod a wneir â llaw, gan ddefnyddio cynhwysion o Gymru a’r ardal leol.

Mae’r blychau enfawr o siocledi cymysg yn cynnwys 44 neu 88 o siocledi unigol – yr anrheg berffaith i unrhyw un sy’n dwlu ar siocled, i’w rhannu (neu beidio!). Os hoffech gael rhywbeth ychydig yn wahanol, beth am far o siocled blas marmalêd oren neu far o siocled blas halen y môr Sir Benfro a charamel i dynnu dŵr o’ch dannedd?

Os ydych chi neu’r plant am fod fel Willy Wonka, gallwch gymryd rhan yn un o arddangosiadau siocled Wickedly Welsh o 8 Ebrill i 26 Ebrill. Bydd yr arddangosiadau yn para 50 munud a byddant yn gyfle i chi weld beth sy’n digwydd y tu ôl i ddrysau’r ffatri!

 

Hoffech chi ymweld â’r siopau hyn? Gadewch i ni eich helpu i gyrraedd yno!

 

Trafnidiaeth gyhoeddus

Os ydych am deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, defnyddiwch ein Cynlluniwr Taith i ddod o hyd i’r llwybr mwyaf cyfleus, manylion y gwasanaethau sy’n rhedeg a’u hamseroedd.

Os hoffech ddod o hyd i amserlen fysiau, ewch i’n tudalen Amserlenni. Yma, gallwch chwilio am lwybr bysiau penodol neu’ch lleoliad er mwyn gweld amserlenni gwasanaethau yn eich ardal. Yn ogystal, byddwch yn gallu argraffu’r amserlen er mwyn mynd â hi gyda chi ar eich taith.

 

Cerdded a beicio

Gallwch hefyd ddefnyddio ein cynlluniwr taith i ddod o hyd i lwybrau cerdded a beicio er  mwyn cyrraedd eich digwyddiad. Os ydych yn byw’n agos, gall cerdded fod yn ffordd wych o weld y golygfeydd a mwynhau’r awyrgylch cyn y digwyddiad!

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen Beicio a Cherdded.

Pob blog Rhannwch y neges hon