Blog

10 gweithgaredd gorau i’w mwynhau yng Nghymru yn ystod gwyliau hanner tymor mis Mai yn siŵr o’ch ysbrydoli!

10 gweithgaredd gorau i’w mwynhau yng Nghymru yn ystod gwyliau hanner tymor mis Mai yn siŵr o’ch ysbrydoli!

22 Mai 2019

Mae diwedd y flwyddyn academaidd yn agosáu (o’r diwedd!) gydag un ymdrech olaf i oroesi ail hanner tymor yr haf cyn cael 6 wythnos o wyliau i’w mwynhau. Mae hanner tymor y Sulgwyn yn gyfle perffaith i ymlacio, bwrw’ch blinder a threulio amser gyda’ch teulu cyn i holl anhrefn yr hanner tymor nesaf gychwyn!

Rydym wedi llunio rhestr o weithgareddau rhyngweithiol a diddorol i chi a’ch teulu eu mwynhau, ac mae’n wir bod yma rywbeth at ddant pawb. O’r celfyddydau a diwylliant, i weithgareddau antur, anifeiliaid a llawer mwy. Mae’r gweithgareddau hyn hefyd yn rhad, sy’n golygu y gallwch ddal i gynilo eich arian ar gyfer gwyliau’r haf. Beth am adael i bob aelod o’ch teulu gymryd ei dro i ddewis ei hoff weithgaredd yn ystod yr wythnos hanner tymor?

Bydd ein rhestr o’r 10 gweithgaredd gorau i’w mwynhau yng Nghymru yn ystod gwyliau hanner tymor mis Mai yn siŵr o’ch ysbrydoli!

 

1. Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Dewch i Amgueddfa Caerdydd a chamu’n ôl i’r gorffennol pell er mwyn darganfod sut le oedd ein byd dros 300 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Cyn bod deinosoriaid yn crwydro’r ddaear, roedd cors drofannol helaeth yn gorchuddio’r tir sydd bellach yn gartref i ni ac yn cael ei hadnabod fel Cymru! Roedd y Gors Ffosiliau yn llawn pryfed enfawr a phlanhigion anferth a byddai’n cael ei tharo’n aml gan stormydd mellt a tharanau trawiadol a llifogydd.

Dewch i weld drosoch eich hun y ffosiliau sydd wedi’u cadw mor ofalus ac sy’n cyfleu hinsawdd, creaduriaid ac amgylchedd y gwlyptiroedd trofannol hynny. Gallwch weld seren y sioe hefyd, sef y Stigmaria. Mae’r ffosil 3D anferth hwn wedi’i roi ar fenthyg i’r amgueddfa gan safle treftadaeth Brymbo, sy’n safle o’r radd flaenaf.

Nid oes yn rhaid talu i weld yr arddangosfa hon nac i fynychu’r gweithdai celf i’r teulu, a gynhelir rhwng 28 a 31 Mai (12:00-16:00). Bydd cyfle i’r plant arddangos eu doniau creadigol wrth iddynt greu, lliwio a phaentio eu gwaith celf eu hunain, wedi’u hysbrydoli gan waith yr artist David Nash. 

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yng nghanol y ddinas, ac mae modd ei chyrraedd yn hawdd ar drafnidiaeth gyhoeddus. O Orsaf Fysiau Ganolog Caerdydd, ewch ar fws rhif 53 neu 85 i’r amgueddfa. O Fae Caerdydd, ewch yno ar fws baycar rhif 6. Yr orsaf drenau agosaf yw gorsaf Cathays, sydd tua 5 munud o waith cerdded o’r amgueddfa. Mae’r amgueddfa ryw 20 munud o waith cerdded o Orsaf Reilffordd Caerdydd Canolog.

 

 

2. Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Bae Caerdydd

Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yw un o wyliau ieuenctid teithiol mwyaf Ewrop, ac fe’i cynhelir mewn lleoliad gwahanol yng Nghymru bob blwyddyn. Eleni, bydd dros 10,000 o ymwelwyr a 15,000 o gystadleuwyr ifanc yn heidio i Fae Caerdydd rhwng 27 Mai ac 1 Mehefin!

Bydd Pafiliwn Bae Caerdydd, sydd â 1,800 o seddau, yn gartref i gystadlaethau’r Eisteddfod a bydd y Maes wedi’i leoli o amgylch Plas Roald Dahl; bydd yn cynnwys Canolfan y Mileniwm a’r Senedd. Bydd yno gannoedd o stondinau gyda gweithgareddau i’r teulu cyfan eu mwynhau.

P’un a ydych am roi cynnig ar feicio, dringo neu gamp newydd a chyffrous arall, mwynhau perfformiadau’r bandiau byw, cael ychydig o hwyl yn y ffair neu adael i’r plant gwrdd â rhai o’u hoff gymeriadau teledu, byddwch chi a’r teulu yn siŵr o gael diwrnod gwych allan! 

Ewch i’n tudalen Digwyddiadau ac i wefan yr Urdd i gael mwy o wybodaeth am yr Eisteddfod a chael gwybod ble y gallwch brynu eich tocynnau.

Mae Gorsaf Bae Caerdydd o fewn pellter cerdded byr i Faes yr Eisteddfod. Mae trenau Trafnidiaeth Cymru yn rhedeg bob 12 munud rhwng Gorsaf Bae Caerdydd a Gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd, sydd â chysylltiadau da â gwasanaethau o bob rhan o Gymru. Mae gwasanaethau rhif 6 ac 8 Bws Caerdydd a gwasanaeth X8 New Adventure Travel yn teithio’n ôl ac ymlaen rhwng canol y ddinas a Bae Caerdydd.

 

 

3. Parc Fferm Cefn Mably, Casnewydd

Mae Parc Fferm Cefn Mably, sydd mewn ardal o gefn gwlad prydferth rhwng Caerdydd a Chasnewydd, yn cynnig diwrnod gwych allan i’r teulu cyfan. Gall rhieni fwynhau paned a darn o gacen a wnaed gartref, tra bydd y plant yn mwynhau eu hanturiaethau eu hunain yn y sgubor chwarae meddal. Gall y sawl sy’n hoffi mentro roi cynnig ar wib-gertio neu ddangos eu doniau wrth drin y jac codi baw! Cofiwch alw heibio i’r siop fferm a’r cigydd cyn gadael, er mwyn prynu danteithion blasus o’r ardal leol.

Mae tocyn i oedolyn a phlentyn yn ystod gwyliau’r ysgol yn £7 yr un. Ewch i wefan Parc Fferm Cefn Mably i gael mwy o wybodaeth am brisiau tocynnau.

Gall ymwelwyr fynd ar y bws i gyrion Caerdydd (er enghraifft, gwasanaeth X59) a cherdded i Barc Fferm Cefn Mably; bydd hynny’n cymryd rhyw 25 munud ac mae’n ffordd wych o gael ychydig o awyr iach a chynyddu nifer y camau yr ydych yn eu cymryd!

 

 

4. Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe

Wrth i Abertawe ddathlu hanner canrif ers dod yn ddinas, mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn myfyrio ynghylch y rhyngweithio pwerus ac effeithiol sy’n digwydd rhyngddi hi a’r gymuned leol, yn yr arddangosfa ‘POBL’. Dewch i weld sut y mae’r gymuned leol wedi helpu i lunio’r gwaith celf, y diwylliant a’r wybodaeth amrywiol sydd i’w gweld yn yr Amgueddfa wrth iddi barhau i ddatblygu yn lle croesawgar a chynhwysol. Nid oes yn rhaid talu i weld yr arddangosfa, felly ewch draw i fwynhau’r dathliad arbennig hwn o amrywiaeth a chynhwysiant!

Tra byddwch yno, cofiwch gymryd rhan yn llwybr ‘Ble mae’r Wyneb?’ yr Amgueddfa. Edrychwch yn ofalus ar ddarluniau’r oriel er mwyn dod o hyd i rai wynebau anarferol na fyddwch wedi eu gweld o’r blaen efallai! A pha ffordd well o ymlacio ar ôl yr holl waith chwilio na thrwy wylio ffilm sy’n cael ei dangos yn arbennig ar gyfer y gwyliau hanner tymor? Gallwch ddewis rhwng Sherlock Gnomes ar 26 Mai a Christopher Robin ar 2 Mehefin.

Mae Gorsaf Reilffordd Abertawe yng nghanol y ddinas ac mae nifer o wasanaethau trên yn mynd iddi. Mae’r orsaf 15 munud o waith cerdded o Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Yn ogystal, mae’r Amgueddfa 4 munud o waith cerdded o Sainsbury’s lle mae nifer o fysiau’n aros. 

 

 

5. Gŵyl Bwyd Da Gŵyr, Canolfan Dreftadaeth Gŵyr

Mae Gŵyl Bwyd Da Gŵyr, sy’n cael ei chynnal am y trydydd tro ac sy’n ddigwyddiad hynod boblogaidd, yn dychwelyd i Ganolfan Dreftadaeth Gŵyr rhwng 26 a 27 Mai. Dewch i flasu rhai o’r danteithion hyfryd sydd gan yr ŵyl i’w cynnig, y mae pob un ohonynt wedi’u cyrchu a’u tyfu yn fedrus gan gynhyrchwyr lleol. Bydd yno gawsiau a siytnis, cacennau cartref a bara artisan. Ond nid dyna’r cyfan!

Bydd yno hefyd gwisiau, sioeau pypedau a gweithgareddau celf a chrefft i gadw’r plant yn hapus, yn ogystal â gweithgareddau sydd wedi’u cynllunio gan drefnwyr y digwyddiad. Byddant yn cynnwys taith dywys o amgylch y felin, sesiynau bwydo anifeiliaid, arddangosiadau chwythu gwydr a gweithdai crochenwaith. Peidiwch â cholli’r digwyddiad hwn!

Mae gwasanaethau bws 117 a 118, a gaiff eu rhedeg gan New Adventure Travel, yn aros y tu allan i Ganolfan Dreftadaeth Gŵyr. Yn ogystal, gall ymwelwyr gael 50% oddi ar bris mynediad i’r Ganolfan drwy ddangos y tocyn bws a ddefnyddiwyd ganddynt ar y diwrnod!
 

 

6. Parc Antur Oakwood, Arberth 

Os ydych chi’n chwilio am ddiwrnod arbennig allan yn ystod y gwyliau hanner tymor, does un man yn well ar gyfer antur i’r teulu na Pharc Antur Oakwood yn Sir Benfro. Hwn yw’r parc antur mwyaf yng Nghymru ac mae’n siŵr o gyffroi oedolion a phlant fel ei gilydd!

Mae’r Dizzy Disk yn reid newydd ar gyfer gwanwyn 2019, a fydd yn gwneud i’ch pen droi wrth i chi lithro’n ôl ac ymlaen (a throi mewn cylchoedd ar yr un pryd!) yn y seddau sy’n wynebu tuag allan. Treetops yw un o reidiau mwyaf poblogaidd Oakwood, a hynny ers bron 30 mlynedd. Byddwch yn troi a throelli ac yn disgyn trwy ganopi’r coed wrth i chi fynd ar daith hudolus trwy goetiroedd y parc.

I’r rheini ohonoch sy’n hoff o fentro, hwyrach mai Speed yw’r reid i chi! Byddwch yn hedfan ar hyd y trac ar gyflymder anhygoel o 59 milltir yr awr ar y ffigar-êt cyntaf yn y DU i gynnwys cwymp y tu hwnt i fertigol. Daliwch yn dynn wrth i chi droi a throelli ar hyd y trac, a chofiwch godi llais os byddwch am fynd yn gyflymach!

Mae’r orsaf drenau agosaf i Oakwood yn Arberth, sydd tua 5 milltir i ffwrdd. Gall ymwelwyr gwblhau rhan gyntaf eu taith ar y trên a threfnu tacsi ar gyfer y 5 milltir sy’n weddill. Os ydych yn ymweld gyda theulu a ffrindiau, gallwch drefnu cerbyd mwy o faint a rhannu’r gost (a lleihau eich ôl troed carbon)!

 

 

7. Gŵyl Lenyddol y Gelli

Caiff gŵyl flynyddol y Gelli ei chynnal yn nhref farchnad fach y Gelli, sef Tref Lyfrau Genedlaethol Cymru. Mae’r ŵyl hon yn dathlu pob agwedd ar ddarllen, ysgrifennu ac adrodd straeon gyda chymorth dros 600 o awduron, perfformwyr ac arloeswyr amlycaf y byd.

Mae rhaglen ‘Haydays’ yr ŵyl yn llawn dop o ddigwyddiadau i blant a theuluoedd eu mwynhau gyda’i gilydd. Gallwch ddathlu 20 mlynedd ers cyhoeddi’r clasur i blant, ‘The Gruffalo’, gyda’r awdures Julia Donaldson. Gallwch ymuno â’r ddihafal Malorie Blackman, awdures y gyfres hynod boblogaidd ‘Noughts and Crosses’, wrth iddi fyfyrio ynghylch ei gyrfa anhygoel fel awdures. Gallwch hyd yn oed gwrdd â Nick Sharratt, darlunydd rhai o nofelau mwyaf poblogaidd Jacqueline Wilson, wrth iddo gyflwyno ei lyfr lluniau newydd.

Ewch i’n tudalen Digwyddiadau a gwefan Gŵyl y Gelli i gael rhagor o wybodaeth.

Mae gwasanaeth T14 TrawsCymru yn aros bellter byr o faes yr ŵyl. Mae’r ŵyl hefyd yn cynnig gwasanaeth parcio a theithio ac mae manylion y gwasanaeth hwnnw i’w gweld yma.

 

 

8. Parc Fferm Arfordir Ynys Aberteifi, Ceredigion

Mae Parc Fferm Arfordir Ynys Aberteifi yn warchodfa natur breifat sy’n eiddo i Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru. Mae’r Parc, sydd yn ardal ddeheuol Bae Ceredigion, yn enwog am ei olygfeydd trawiadol ar draws y môr i Ynys Aberteifi. Prin iawn yw’r mannau lle gallwch weld mochyn, lama, morlo bach a dolffin trwynbwl yn byw drws nesa i’w gilydd! Ar ôl i chi ddweud helô wrth holl anifeiliaid y fferm a’r bywyd gwyllt lleol, gall y plant ollwng ychydig o stêm yn yr ardaloedd chwarae dan do ac awyr agored, cyn i chi i gyd fwynhau tamaid blasus i’w fwyta yn y caffi! Os ydych am wneud yn fawr o’ch ymweliad, beth am aros am noson neu ddwy ar safle gwersylla’r Parc?

Mae mynediad yn £3.90 i oedolion ac yn £2.90 i blant (2-13 oed) a cheir mynediad am ddim i blant dan 2 oed. Ewch i wefan Parc Fferm Arfordir Ynys Aberteifi i gael rhagor o wybodaeth.

Mae arhosfan bysiau 5 munud i lawr y lôn o fynedfa’r Parc, ac mae bws yn aros yno ddwywaith y dydd. Mae gwestai lleol o fewn 15 munud o waith cerdded i’r Parc, ac mae Llwybr Arfordir Cymru yn rhedeg ar hyd prif fynedfa’r Parc. Mae lle i barcio beics y tu allan i’r ganolfan ymwelwyr.

 

 

9. Gardd Bodnant, Conwy

Er bod y gerddi ym Bodnant yn werth eu gweld drwy gydol y flwyddyn, mae rhywbeth arbennig iawn am y dirwedd hon pan fydd y gwanwyn yn ei anterth. Drwy gydol yr wythnos hanner tymor, gall ymwelwyr gerdded ar hyd llwybr hunandywys a chyflawni rhagor o’r gweithgareddau sydd ar eu rhestr #50obethau. Mae Gardd Bodnant yn llawn adar, a bydd cyfle i chi fynd ar daith gerdded am 5:30am ar 27 Mai er mwyn clywed Côr y Wig. Y bore piau, medden nhw!

Mae modd mwynhau’r cyfan yn ystod oriau agor estynedig yr Ardd. Ym mis Mai a Mehefin gallwch edmygu prydferthwch yr 80 erw o dir ym Modnant o 9am tan 5pm (a than 8pm ar ddydd Mercher!).

Mae bws rhif 25 o Landudno yn aros y tu allan i brif fynedfa Gardd Bodnant. Mae Gorsaf Drenau Tal-y-Cafn hefyd o fewn pellter byr i’r Ardd.

 

 

10. Plas Newydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Ynys Môn

Dewch i fwynhau’r awyr agored ym Mhlas Newydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn ystod y gwyliau hanner tymor, a gwneud yn fawr o’r tywydd braf! Ymunwch â thîm Plas Newydd rhwng 11:00 a 16:00 bob dydd ar gyfer cyfres o weithgareddau o amgylch gardd y Tŷ, sy’n siŵr o ddeffro’ch synhwyrau. O arogl hyfryd y blodau i liwiau llachar y planhigion. Dewch i brofi’r ardd mewn modd cyffrous ac unigryw.

Gall y plant fod yn greadigol gyda’u bwyd wrth iddynt greu eu creadur eu hunain allan o ffrwythau, a bom hadau gwyllt. Neu beth am fentro i’r coed gyda’r Ceidwaid Gwiwerod Coch, sy’n weithwyr gwirfoddol, i ddysgu mwy am y creaduriaid hyn sydd mewn perygl? Ni chodir tâl am fynychu’r digwyddiadau hyn, ond bydd y tâl mynediad arferol yn berthnasol.

Mae gwasanaeth 41 Gwynfor Coaches a gwasanaeth 389a Clynnog & Trefor Motor yn aros y tu allan i fynedfa Plas Newydd. Mae Gorsaf Drenau Llanfairpwll 1¾ milltir i ffwrdd.

Pob blog Rhannwch y neges hon