Blog

‘Wythnos Dal y Bws’: 1-7 Gorffennaf 2019

‘Wythnos Dal y Bws’: 1-7 Gorffennaf 2019

26 Mehefin 2019

Mae’r ‘Wythnos Dal y Bws’ (a gynhelir rhwng 1 a 7 Gorffennaf) yn ddathliad ledled y DU gyfan o’r holl fanteision amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd, a’r holl fanteision o ran iechyd, sy’n gysylltiedig â defnyddio’r bws yn lle’r car. Mae’n ymgyrch flynyddol a gaiff ei chynnal gan ‘Greener Journeys’, sef mudiad sy’n hybu dewisiadau’n ymwneud â dulliau cynaliadwy o deithio, y gall pob un ohonom eu hymgorffori yn ein bywyd o ddydd i ddydd.

Eleni rydym yn gofyn i chi anfon atom eich hunlun gorau wrth deithio ar y bws, er mwyn i chi gael cyfle i ennill hamper hyfryd sy’n llawn o nwyddau diwastraff, cynaliadwy gan ein ffrindiau yn Viva Organic. Am wybod mwy? Ewch i dudalen ein cystadleuaeth!

 

Felly, beth yn union yw manteision teithio ar y bws?

 

1. Mae bysiau’n fwy caredig na cheir i’r amgylchedd

Wyddech chi y byddai 1 biliwn yn llai o siwrneiau car ar ein ffyrdd pe bai pob un ohonom yn teithio ar fws yn lle mewn car unwaith y mis? Byddai hynny’n fodd i arbed 2 filiwn o dunelli o CO2 bob blwyddyn, a fyddai’n lleihau effaith andwyol allyriadau carbon ar ein hamgylchedd ac yn lleihau’r bygythiad cynyddol sy’n gysylltiedig â chynhesu byd-eang.

Mae’r ‘Wythnos Dal y Bws’ yn gyfle perffaith i wella eich ôl troed carbon drwy ddal y bws er mwyn mynd i’r ysgol, y gwaith, y coleg neu’ch ysbyty lleol neu er mwyn cwrdd â ffrindiau. At hynny mae defnyddio’r bws yn lle’r car yn helpu i leihau tagfeydd ar y ffyrdd. Mae cael llai o geir ar y ffyrdd yn golygu bod llai o lygryddion gwenwynig yn cael eu hallyrru tra bydd gyrwyr yn eistedd mewn tagfeydd traffig gyda’u hinjans yn dal i redeg.

 

2. Gallwch arbed arian

Gall teithio ar y bws fod yn ffordd wych o arbed arian. Fydd dim rhaid i chi wario eich arian ar betrol, yswiriant car a threth car!

Fe welwch chi fod nifer o weithredwyr ledled Cymru yn cynnig tocynnau wythnos, tocynnau mis neu docynnau blwyddyn, sy’n gallu bod yn ffordd wych o arbed arian i’r rhai hynny ohonoch sy’n dewis teithio’n rheolaidd ar y bws. Ewch i’n tudalen ‘Dolenni cyswllt defnyddiol’ i ddod o hyd i’r ddolen gyswllt ar gyfer gwefan eich gweithredwr lleol chi.

Os ydych dros 60 oed, gallwch wneud cais am Gerdyn Teithio Rhatach; mae’n bosibl hefyd y byddwch yn gymwys i gael cerdyn o’r fath os ydych yn byw gydag anabledd neu’n gofalu am rywun sydd ag anabledd. Mae’r cerdyn yn rhoi hawl i chi deithio am ddim ar fysiau yng Nghymru (ac ar rai gwasanaethau sy’n croesi’r ffin â Lloegr) pan fyddwch yn dangos eich cerdyn i’r gyrrwr bws. Gallwch wneud cais am eich Cerdyn Teithio Rhatach ar wefan eich awdurdod lleol, ac mae’r dolenni cyswllt i’w cael yma.

Yn ddiweddar hefyd, ehangodd Llywodraeth Cymru yr ystod oedran ar gyfer bod yn gymwys i gael ‘Fyngherdynteithio’. Os ydych yn 16-21 oed ac yn byw yng Nghymru, mae gennych hawl i arbed 1/3 ar bris eich tocynnau bws. Felly, peidiwch ag oedi mwy! Gwnewch gais am y cerdyn nawr!

 

3. Byddwch yn helpu i roi hwb i’r economi

Mae pob £1 a gaiff ei gwario ar y seilwaith lleol ar gyfer bysiau’n gallu sicrhau gwerth dros £8 o fanteision economaidd ehangach. Gall y manteision fod yn fanteision sydd o fudd i drefi a’u prif strydoedd, y mae bysiau mor hanfodol i gludo pobl yno, neu’n fanteision ar ffurf y cannoedd o swyddi a gaiff eu creu ar gyfer gyrwyr, peirianwyr a’r timau sy’n gweithio y tu ôl i’r llenni ledled Cymru.

Mae bysiau hefyd yn cludo mwy o gymudwyr bob dydd na phob math arall o drafnidiaeth gyhoeddus gyda’i gilydd. Maent yn helpu pobl i deithio i’r gwaith yng nghanol dinasoedd prysur lle mae’n anodd parcio, neu fannau eraill sy’n anodd eu cyrraedd – pobl na fyddent fel arall yn gallu teithio i’r gwaith efallai.

 

4. Mae’n ddull cyfleus o deithio sy’n lleihau straen

Does dim byd yn waeth na bod yn sownd mewn traffig – eich calon yn mynd ar ras, cyrn yn canu a phobl yn mynd yn flin. A chaiff y daith ei gwaethygu wedyn gan y frwydr ddyddiol i ddod o hyd i le parcio – y ras i geisio bachu lle ar hyd strydoedd bach lleol, yna’r ymdrech i facio’r car i mewn i’r lle parcio, ac yna’r pryd o dafod yr ydych yn siŵr o’i gael gan eich rheolwr am fod yn hwyr.

O fynd ar eich gwasanaeth bws lleol gallwch eistedd yn ôl, ymlacio a mwynhau’r daith! Defnyddiwch yr amser i ymdawelu a pharatoi ar gyfer eich diwrnod gwaith drwy ddarllen llyfr, gwrando ar eich hoff bodlediad neu wylio’r rhaglen deledu y gwnaethoch ei cholli neithiwr ar ôl mynd i gysgu ar y soffa!

A’r fantais orau – fydd dim angen i chi chwilio am le parcio! Ewch oddi ar y bws wrth yr arhosfan sydd fwyaf cyfleus i chi, a byddwch wedi cyrraedd ac yn barod i fwrw iddi.

 

5. Mae’n fodd i wella eich iechyd corfforol a’ch iechyd meddwl

Argymhellir y dylai oedolion 19 oed a throsodd wneud 150 munud o weithgarwch corfforol yr wythnos (tua 30 munud y dydd). Yng nghanol berw a holl brysurdeb bywyd o ddydd i ddydd, gall ymddangos yn anodd dod o hyd i’r amser i wneud unrhyw fath o ymarfer corff. Fodd bynnag, bydd cerdded yn sionc yn ôl ac ymlaen i’ch arhosfan bysiau bob dydd yn cyfrannu tipyn at eich 30 munud o weithgarwch corfforol. Gallech hyd yn oed fynd oddi ar y bws wrth arhosfan sydd ymhellach i ffwrdd er mwyn cerdded mwy, gwneud i’ch calon guro’n gynt a sicrhau eich bod yn gwneud mwy o weithgarwch corfforol!

Mae ymchwil newydd yn dangos nad ydym yn aml yn sylweddoli’r effaith gadarnhaol a grymus y gall siarad â phobl ddieithr ei chael ar ein lles (BBC). Mae eich gwasanaeth bws lleol yn lle delfrydol i chi sgwrsio â rhywun anghyfarwydd, gan helpu i feithrin eich ymdeimlad o gymuned a lleihau eich ymdeimlad chi neu ymdeimlad rhywun arall o fod yn unig ac ar wahân i bobl eraill. At hynny, gall mynd ar y bws eich helpu i deimlo’n fwy annibynnol wrth i chi fagu hyder i deithio ar eich pen eich hun.

 

Gallwch gymryd rhan yn yr ‘Wythnos Dal y Bws’ mewn llawer o wahanol ffyrdd:

  • Cymerwch ran yn ein cystadleuaeth tynnu hunlun ar gyfer yr ‘Wythnos Dal y Bws’.
  • Trefnwch eich cystadleuaeth eich hun yn yr ysgol neu’r gwaith neu gyda’ch ffrindiau er mwyn gweld pwy all deithio amlaf ar y bws erbyn diwedd yr wythnos.
  • Cadwch olwg ar gyfrifon eich gweithredwr bysiau lleol ar gyfryngau cymdeithasol er mwyn gweld a yw’r gweithredwr yn cynnal unrhyw ddigwyddiadau a gweithgareddau.
  • Ymunwch â’r sgwrs ar gyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio’r hashnod #CTBW a dilynwch @GreenerJourneys ar Twitter i gael y wybodaeth ddiweddaraf dryw gydol yr ymgyrch.

Ewch i wefan Greener Journeys a gwefan yr Wythnos Dal y Bws i gael rhagor o wybodaeth.

 

Oes angen help arnoch i gynllunio eich taith ar y bws?

Rydych wedi dod i’r lle iawn!

Drwy ddefnyddio ein Cynlluniwr Taith, gallwch gynllunio eich taith o A i B a chael manylion am amserau ac arosfannau bysiau. Gallwch hefyd gael map rhyngweithiol o’r daith er mwyn gweld ble’n union y mae angen i chi fynd. At hynny, gallwch ddefnyddio ein ‘Chwiliwr arosfannau bysiau’ i ddod o hyd i’ch arhosfan agosaf a’r bysiau nesaf a ddylai fod yn gadael yr arhosfan.

Ydych chi’n gwybod beth yw rhif y bws y byddwch yn ei ddal? Os felly, gall ein tudalen Amserlenni eich helpu i ddod o hyd i’r amserlen lawn y mae arnoch ei hangen ar gyfer gwasanaeth. Gallwch hefyd lawrlwytho fersiwn PDF o’r amserlen er mwyn ei hargraffu a mynd â hi gyda chi ar eich taith.

Mae’r holl wybodaeth uchod ar gael hefyd ar ap Traveline Cymru, sydd ar gael ar gyfer dyfeisiau iOS ac Android.

Yn ogystal, mae gennym linell ymholiadau y gellir ei ffonio’n rhad ac am ddim, lle bydd un o’n cynghorwyr wrth law i ateb eich ymholiadau ynghylch gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus ac i’ch helpu i gynllunio eich taith ar y bws. Gallwch ffonio’r tîm ar 0800 464 00 00 unrhyw ddiwrnod o’r wythnos rhwng 7am ac 8pm.

Pob blog Rhannwch y neges hon