Blog

Pum cyngor ynghylch cadw’n ddiogel wrth deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus dros gyfnod Calan Gaeaf

Pum cyngor ynghylch cadw’n ddiogel wrth deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus dros gyfnod Calan Gaeaf

21 Hydref 2019

Mae’n nosi’n gynt, mae lliwiau oren llachar dail yr hydref yn wledd i’r llygad ac mae pob archfarchnad yn llawn dop o ddanteithion melys brawychus, gwisgoedd sy’n codi ofn a phwmpenni sy’n barod i’w cerfio. Mae tymor Calan Gaeaf ar ein gwarthaf ac felly hefyd y nosweithiau arswydus, y partïon a’r digwyddiadau dychrynllyd sy’n dod yn ei sgîl.

I helpu i sicrhau eich bod yn cael noson wych, darllenwch ein pum cyngor ynghylch cadw’n ddiogel wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i deithio’n ôl ac ymlaen i’ch dathliadau Calan Gaeaf.

 

1. Cynlluniwch ymlaen llaw!

Bydd gwybod manylion eich taith ar y bws neu’r trên cyn gadael y tŷ yn eich helpu i osgoi gorfod aros yn hir yn yr oerfel a’r tywyllwch. O ddefnyddio ein Cynlluniwr Taith, gallwch ddod o hyd i’r llwybr mwyaf hwylus ar gyfer teithio o’r naill le i’r llall ar adeg sy’n gyfleus i chi.

Gallwch newid eich gofynion hefyd gan gynnwys y dull teithio, sawl gwaith y byddwch am newid a pha mor gyflym y byddwch yn cerdded ar gyfartaledd. Bydd hynny’n helpu i sicrhau bod cynllun eich taith wedi’i deilwra’n arbennig ar gyfer eich anghenion chi.

Os ydych eisoes yn gwybod rhif y bws y mae angen i chi ei ddefnyddio, ewch draw i’n tudalen Amserlenni er mwyn gweld yr amserlen lawn (gallwch ychwanegu’r amserlen at eich ffefrynnau hefyd!). Gallwch wneud hynny ar ein gwefan neu ar yr ap, sy’n golygu y bydd yn hawdd i chi wirio’r wybodaeth eto wrth i chi deithio.

Gallwch gael gwybod mwy yma am y gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig o ran cynllunio teithiau ar drafnidiaeth gyhoeddus.

 

2. Gwiriwch a oes unrhyw broblemau teithio a allai effeithio ar eich taith

Gyda llawer o bartïon, digwyddiadau a gweithgareddau’n cael eu cynnal, mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gallu bod yn broblem adeg Calan Gaeaf. Gall y strydoedd fod yn brysur hefyd gyda phobl sy’n chwarae cast neu geiniog a’r sawl sy’n mynd allan am y nos mewn trefi a dinasoedd.

O ganlyniad, bydd rhai gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus yn newid neu’n dargyfeirio eu gwasanaethau er mwyn sicrhau diogelwch eu teithwyr a’u staff. Bydd unrhyw newidiadau o’r fath ar gael i’w gweld ar ein tudalen Problemau Teithio, felly cofiwch droi ati cyn i chi deithio er mwyn osgoi unrhyw newidiadau annisgwyl i’ch taith.

 

3. Osgowch deithio ar eich pen eich hun

Mae’n tywyllu’n gynt erbyn hyn, felly gorau oll os bydd gennych gwmni i fynd yn ôl ac ymlaen i’r arhosfan bysiau neu’r orsaf drenau ac i fynd ar y bws neu’r trên. Beth am drefnu cwrdd â ffrind sy’n mynd i’r un digwyddiad â chi, fel y gallwch deithio gyda’ch gilydd?

Os byddwch yn mynd adre’n hwyr ac os na fydd neb arall yn mynd i’r un cyfeiriad â chi, gofynnwch am gael aros gyda ffrind er mwyn rhoi tawelwch meddwl i chi, eich ffrindiau a’ch teulu. Os oes gennych dipyn o ffordd i gerdded rhwng eich cartref a’r arhosfan bysiau neu’r orsaf drenau, byddai’n syniad gofyn i ffrind neu aelod o’r teulu ddod i’ch casglu yn y car.

 

4. Byddwch yn effro ac yn ymwybodol o’r hyn sydd o’ch cwmpas

O bryd i’w gilydd rydym i gyd yn euog o wisgo’n clustffonau, gadael i’n meddwl grwydro a pheidio â chanolbwyntio ar yr hyn sy’n digwydd o’n cwmpas, yn enwedig wrth gerdded ar hyd y stryd neu deithio ar y bws neu’r trên.

Bydd gwasanaethau’n brysurach nag arfer adeg Calan Gaeaf, felly bydd yn bwysig eich bod yn ymwybodol o’r hyn sydd o’ch cwmpas a’ch bod yn cadw golwg ar y bobl sydd o’ch amgylch a’r hyn y maent yn ei wneud. Ceisiwch wisgo un clustffon yn unig (neu beidio â’u gwisgo o gwbl!) er mwyn eich helpu i fod mor effro a diogel ag sy’n bosibl wrth deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus.

 

5. Gofalwch fod ein rhif Rhadffôn wrth law gennych

Dim data ar ôl neu ddim cysylltiad WiFi, ac angen gwybod ble mae dal y bws neu’r trên? Os byddwch yn eich cael eich hun mewn sefyllfa lle nad yw’r wybodaeth am eich taith wrth law gennych, gallwch ffonio ein rhif Rhadffôn, sef 0800 464 00 00, rhwng 7am ac 8pm bob dydd.

Bydd ein cynghorwyr cyfeillgar ar gael i roi gwybod i chi pryd mae disgwyl i’r bws nesaf gyrraedd, ble mae’r orsaf drenau agosaf ac a oes unrhyw broblemau teithio a allai effeithio ar eich taith. Rydym yma i helpu i sicrhau nad oes dim yn amharu ar eich cynlluniau ar gyfer Calan Gaeaf!

 

Waeth beth yr ydych yn bwriadu ei wneud, gobeithio y cewch chi amser arswydus y Calan Gaeaf hwn. Siwrne saff i chi!

Pob blog Rhannwch y neges hon