Blog

Beth sydd ymlaen yng Nghymru yn ystod gwyliau hanner tymor Chwefror?

Beth sydd ymlaen yng Nghymru yn ystod gwyliau hanner tymor Chwefror?

12 Chwefror 2020

Mae gwyliau hanner tymor Chwefror yn gyfle perffaith i chi a’r plant wisgo’n gynnes, mentro allan i’r awyr iach a chymryd rhan yn rhai o’r gweithgareddau gwych a gwahanol sy’n digwydd ledled Cymru.

Beth am deithio’n ôl mewn amser i achub casgliad gwerthfawr o wyau deinosor yn y Bathdy Brenhinol; astudio’r awyr dywyll uwchlaw Castell Penrhyn; neu gymryd rhan ym Mhencampwriaeth Neidio mewn Pyllau Cymru yn Llanelli? Gallwch gael digon o hwyl ar stepen eich drws! Cymerwch olwg ar rai o’r gweithgareddau y gallwch gymryd rhan ynddynt yn ystod y gwyliau hanner tymor…

 

1. Gŵyl Awyr Dywyll Castell Penrhyn, Gwynedd

Dyma wahoddiad i bawb sy’n hoffi syllu ar y sêr! Mae Castell Penrhyn wedi ymuno â Pharc Cenedlaethol Eryri i gynnal digwyddiad heb ei ail dros gyfnod o 4 diwrnod (o 20 Chwefror tan 23 Chwefror) er mwyn dathlu statws y mae’r Parc newydd ei ennill, sef statws Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol.

Gall ymwelwyr astudio rhyfeddodau’r awyr dywyll a dysgu am ein perthynas â’r planedau a chlystyrau o sêr, a hynny’n ystod rhaglen 4 diwrnod o weithgareddau sy’n addas i’r teulu cyfan. Bydd y gweithgareddau’n cynnwys noson o amgylch tân gwersyll yn gwrando ar straeon am yr awyr dywyll; cyfle i ddysgu mwy am ffenestri lliw rhyfeddol y neuadd fawr, sy’n seiliedig ar arwyddion y sidydd; a chyfle i fynd am dro ar hyd tir y Castell i syllu ar y sêr.

Yn rhan o brosiect cydweithredol arbennig gyda Techniquest Glyndŵr, bydd yr awyr dywyll i’w gweld dan do hefyd mewn planetariwm 5 metr, 360 gradd StarDome. Mae’r sesiynau tywysedig rhyngweithiol hyn yn addas i bawb o bob oed ac maent yn gyfle i ymwelwyr ddysgu am ranbarth awyr dywyll Parc Cenedlaethol Eryri.

Gallwch gael gwybod mwy am y gweithgareddau hyn a chadw eich lleoedd yma.

 

2. Hanner tymor i’r teulu yng Ngardd Bodnant, Conwy ym mis Chwefror

Ewch am dro ar hyd tiroedd hyfryd Gardd Bodnant i fwynhau holl hud a harddwch y dirwedd hon yn y gaeaf.

O 15 Chwefror tan 1 Mawrth, gall ymwelwyr ddilyn llwybr yr ardd o’r Pen Pellaf i Goed a Gweirglodd y Ffwrnais. Wrth wneud hynny, gwnewch yn siŵr eich bod yn chwilio am y tai tylwyth teg sydd ynghudd yng nghanol y coed! O fynd i’r ardd rhwng 19 Chwefror a 23 Chwefror, gallwch alw heibio i’r Hen Felin a chreu eich tylwythen deg eich hun ar ffurf eirlys.

At hynny, bydd garddwyr a gwirfoddolwyr Bodnant yn plannu eirlysiau ar hyd y llwybr rhwng 17 Chwefror a 20 Chwefror. Mae croeso mawr i ymwelwyr ymuno; galwch heibio ac ychwanegwch eich eirlys chi at y casgliad a fydd yn tyfu am flynyddoedd i ddod (caiff y planhigion a’r offer i gyd eu darparu). Gallwch fwynhau’r gweithgareddau hyn yn rhad ac am ddim ond bydd angen i chi dalu’r tâl mynediad arferol i’r ardd.

Ewch i wefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i weld yr ystod lawn o weithgareddau hanner tymor a fydd yn cael eu cynnal yng Ngardd Bodnant.

 

3. Gweithgareddau hanner tymor yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol yn Sir Gaerfyrddin

Thema’r Ardd Fotaneg Genedlaethol ar gyfer y gwyliau hanner tymor fydd adar!

Bydd ystod eang o weithgareddau ar gael i’r teulu cyfan eu mwynhau – gweithgareddau a fydd yn eich helpu i ddod i wybod mwy am fyd natur a’r rhywogaethau bywyd gwyllt sy’n ffynnu ac yn byw yn yr Ardd a’r cyffiniau. Mae’r gweithgareddau hynny’n cynnwys:

  • Creu teclynnau bwydo adar
  • Adnabod cân adar
  • Caelcyngorynghylch y fforddorau o fwydo’radarsydd yn eichgardd
  • Mynd am dro i wylio adar a sgwrsio amdanynt
  • Gwneud gweithgareddau celf a chrefft sy’n ymwneud ag adar
  • Mwynhau sesiwn o blannu hedyn blodyn haul er budd adar (gallwch fynd â’r hyn y byddwch wedi’i blannu adre gyda chi er mwyn ei weld yn tyfu!)
  • Mwynhau arddangosfeydd hedfan yng Nghanolfan Adar Ysglyfaethus Prydain

A llawer mwy!

Mae tâl mynediad i’r Ardd yn £10.45 i oedolion ac yn £5 i blant. Mae tocyn teulu (ar gyfer 2 oedolyn a hyd at 4 plentyn) yn costio £30. Ewch i wefan yr Ardd Fotaneg Genedlaethol i gael gwybod mwy.

 

4. Gwyliau hanner tymor Chwefror yng Nghanolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon

Teithiwch yn ôl mewn amser ar Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon i weld drosoch eich hun sut yr oedd pobl yn byw yn y 19eg ganrif a’r 20fed ganrif. Yn ystod y gwyliau hanner tymor, bydd llwyth o weithgareddau celf a chrefft ar gael i’r plant eu mwynhau:

  • Dydd Mawrth 18 Chwefror – Cyfle i greu anrheg unigryw y bydd mam a dad yn siŵr o’i hoffi, yn y gweithdy creu mwg. Bydd pob mwg yn costio £2.
  • Dydd Mercher 19 Chwefror a dydd Iau 20 Chwefror – Cyfle i ddathlu Awr Ddaear 2020 pan fydd gweithgareddau celf a chrefft ar gael am ddim!
  • Dydd Iau 20 Chwefror – Cyfle i fynd i’r llyfrgell a chymryd rhan mewn gweithgareddau adrodd stori a gwneud celf a chrefft o 2:30pm ymlaen.

Gallwch hefyd fwynhau lluniaeth blasus yn Ystafelloedd Te’r Ganolfan Treftadaeth!

Ewch i wefan Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon i gael gwybod mwy.

 

5. Pencampwriaeth Neidio mewn Pyllau Cymru yn Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir, Llanelli

Chwiliwch am eich welingtons ac ewch allan i’r awyr iach i fwynhau Pencampwriaeth Neidio mewn Pyllau Cymru yn Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir, Llanelli yn ystod y gwyliau hanner tymor!

O 15 Chwefror tan 23 Chwefror, gall plant (ac oedolion!) anghofio am straen eu bywyd o ddydd i ddydd a mwynhau ychydig o hwyl hen ffasiwn ynghanol y gwlyptir, beth bynnag fo’r tywydd. Gall y plant herio’r oedolion er mwyn gweld pwy all greu’r sblash mwyaf, a gallant herio cystadleuwyr eraill er mwyn ceisio bod yn Bencampwr Neidio mewn Pyllau Cymru 2020. Bydd enillwyr i’w cael bob dydd hefyd, felly ewch ati i ddechrau ymarfer!

Bydd llawer o weithgareddau difyr eraill yn cael eu cynnal er mwyn cadw’r plant yn brysur drwy gydol yr wythnos, a bydd y gweithgareddau hynny’n cynnwys creu cuddfan, gwylio adar gyda’r teulu, gwneud gweithgareddau crefft a mynd am dro yn y mwd.

Ewch i wefan Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir i weld y rhestr lawn o ddigwyddiadau a chadw eich lle.

 

6. Teithwyr Arwrol mewn Amser yn y Bathdy Brenhinol, Llantrisant

Mae’r Bathdy Brenhinol yn adnabyddus am ei ddigwyddiadau arbennig drwy gydol y flwyddyn, sy’n cael eu cynnal ochr yn ochr â’i arddangosfeydd a’i deithiau poblogaidd. Y thema ar gyfer eich plant yn ystod gwyliau hanner tymor Chwefror fydd… deinosoriaid! 

Drwy gydol y gwyliau hanner tymor, gallwch gamu’n ôl mewn amser gyda’ch tywysydd personol, Dinosaur Dean, ac ymweld â Dinosauria yn y byd cynhanesyddol. Er mwyn achub yr wyau deinosor gwerthfawr, bydd yn rhaid i bawb sy’n teithio mewn amser drechu’r deinosoriaid â gwaywffyn arbennig (y gellir eu defnyddio’n ddiogel dan do!); darllen map er mwyn dod o hyd i’r wyau deinosor; achub yr wyau rhag y deinosor drwg ei dymer; a dod o hyd i’w ffordd yn ôl i’r dyfodol ym mheiriant amser Dinosaur Dean. Ond does dim angen i rieni boeni – bydd y plant yn ôl mewn pryd ar gyfer eu swper!

Mae’r gweithgaredd hwn yn addas i blant dros 5 oed ac mae’n para tua 45 munud. Mae’r tocynnau yn costio £5 y plentyn neu maent am ddim os ydych yn talu am daith!

At hynny, gall y plant ddysgu sut mae tynnu llun o ddeinosor a dod â’r creaduriaid trawiadol hyn yn fyw unwaith eto ar bapur. Bydd yr artist Robert Nicholls yn arwain dau weithdy ar 17 Chwefror a 21 Chwefror i blant 7 oed a hŷn. Mae’r tocynnau yn costio £8 y plentyn neu £4 os ydych yn cadw lle wrth dalu am daith.

 

7. Hanner tymor Chwefror yng Ngwaith Tun a Rhaeadr Aberdulais, Castell-nedd Port Talbot

Mae yna rywbeth i bawb ei fwynhau yng Ngwaith Tun a Rhaeadr Aberdulais wrth i chi gamu yn ôl i’r gorffennol a darganfod sut yr oedd pobl yn byw yn oes Fictoria.

Gall y plant wisgo i fyny fel gweithwyr tunplat yn oes Fictoria ac eistedd yn yr ystafell de yn yr Hen Ysgoldy fel y byddai plant eu hoed nhw wedi gwneud dros ganrif yn ôl! Bydd digon o fywyd gwyllt i’w weld hefyd a digon o weithgareddau celf a chrefft o oes Fictoria i gymryd rhan ynddynt.

Dewch draw i fwynhau ychydig o awyr iach ac i ddarganfod apêl yr awyr agored. Byddwch wedi cael ail wynt ar ôl bod am dro i’r rhaeadr hardd, a gallwch roi cynnig ar greu llwy garu neu galon grog o glai.

Gallwch gael gwybod mwy am Waith Tun a Rhaeadr Aberdulais yma.

 

8. Antur â’r Anifeiliaid yng Nghastell Caerdydd

Byddwch yn barod ar gyfer y bywyd gwyllt a fydd yng Nghastell Caerdydd yn ystod gwyliau hanner tymor Chwefror, pan fydd cyfle i chi gwrdd â rhai creaduriaid ecsotig o bob cwr o’r byd.

Bydd 4 sesiwn y dydd yn cael eu cynnal ar 18 ac 19 Chwefror, a bydd y plant yn cael eu haddysgu’n ogystal â’u diddanu wrth iddynt gael gwybod mwy am gynefinoedd ac ymddygiad yr anifeiliaid rhyfeddol hyn a fydd o fewn cyrraedd iddynt. Os ydynt yn ddigon dewr, gall y plant geisio cyffwrdd neu ddal yr anifeiliaid hyn sy’n gallu cerdded, cropian, ymlusgo a hyd yn oed hedfan!

Mae’r tocynnau yn costio £5 y plentyn a gellir eu prynu ar wefan Castell Caerdydd.

 

Pob blog Rhannwch y neges hon