Blog

Living-Streets-International-Walk-To-School-Month-Traveline-Cymru

Ymunwch â Mis Rhyngwladol Cerdded i’r Ysgol ym mis Hydref eleni!

12 Hydref 2020

Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni sut hwyl y byddwch chi a’ch teulu yn ei chael arni wrth gymryd rhan ym Mis Rhyngwladol Cerdded i’r Ysgol eleni. Gallwch ein tagio mewn lluniau a fideos ohonoch yn cerdded i’r ysgol (@TravelineCymru ar Twitter a Facebook).

 

Beth yw Mis Rhyngwladol Cerdded i’r Ysgol?

Bob mis Hydref, mae Living Streets (elusen yn y DU sy’n hybu cerdded bob dydd) yn gofyn i blant a’u rhieni ledled y byd gymryd rhan ym Mis Rhyngwladol Cerdded i’r Ysgol. Cenhadaeth Living Streets yw sicrhau amgylchedd gwell ar gyfer cerdded, ac ysbrydoli pobl i gerdded mwy. Mae mentrau megis Mis Rhyngwladol Cerdded i’r Ysgol yn ffordd wych o annog pobl i brofi manteision cerdded i’r ysgol, o safbwynt amgylcheddol a chymdeithasol ac o safbwynt iechyd corfforol ac iechyd meddwl. Mae’n ffordd wych hefyd o roi sylw i’r newidiadau ehangach o ran polisi, a fydd yn sicrhau ei bod mor ddiogel ag sy’n bosibl i blant gerdded i’r ysgol.

 

Pam y mae’n bwysig?

Mae Living Streets am wrthdroi’r gostyngiad a fu yn nifer y plant sy’n cerdded i’r ysgol, ac mae eisoes wedi argyhoeddi’r llywodraeth i fabwysiadu amcan sy’n seiliedig ar gynyddu i 55% erbyn 2025 gyfran y plant 5-10 oed sy’n cerdded i’r ysgol. Ar hyn o bryd, dim ond 44% o ddisgyblion ysgolion cynradd yng Nghymru sy’n cerdded i’r ysgol. Dyma rai o’r rhesymau pam y mae Mis Rhyngwladol Cerdded i’r Ysgol (ac annog newid tymor hwy mewn ymddygiad) mor bwysig*:

  • Mae gwyddonwyr wedi profi bod plant sy’n gwneud rhyw fath o ymarfer corff, yn enwedig cerdded cyn bod yr ysgol yn dechrau, yn perfformio’n well yn yr ystafell ddosbarth. Y rheswm am hynny yw eu bod, wrth gyrraedd yr ysgol, yn teimlo’n barod i ddysgu ac yn llawn bywyd ac egni ar gyfer y diwrnod.
  • Gall rhieni weld effaith gadarnhaol cerdded i’r ysgol yn y ffaith bod eu plant mewn hwyliau gwell a’u bod yn ymddwyn yn well.
  • Gall cerdded leihau straen a gorbryder, a bydd 71% o bobl yn teimlo’n llai isel ar ôl bod allan am dro.
  • Yn ystod oriau brig y bore, mae 1 o bob 5 o’r ceir sydd ar ein ffyrdd yn mynd â phlant i’r ysgol. Mae hynny’n cyfrannu at dagfeydd traffig, llygredd aer ac allyriadau carbon. 
  • Caiff ½ miliwn o dunelli o CO2 y flwyddyn eu cynhyrchu gan gerbydau sy’n cludo plant yn ôl ac ymlaen i’r ysgol yn unig (mae hynny’n uwch na’r holl CO2 y mae rhai gwledydd bach yn ei gynhyrchu mewn blwyddyn!). Mae 2 o bob 5 o rieni plant ysgolion cynradd wedi dweud eu bod yn poeni am y lefelau uchel o lygredd sydd o amgylch ysgol eu plentyn.
  • Mae llai o dagfeydd traffig yn arwain at gynnydd yn nifer y bobl sy’n ymweld â busnesau lleol. Felly, mae’n rhywbeth sydd o fantais i’r gymuned gyfan.
  • Pellter, amser a phryderon am ddiogelwch yw’r prif rwystrau sy’n atal plant rhag cerdded i’r ysgol. Mae mentrau megis Mis Rhyngwladol Cerdded i’r Ysgol yn hollbwysig er mwyn annog llywodraethau cenedlaethol, awdurdodau lleol ac ysgolion i gydweithio â’i gilydd a galluogi plant i gerdded yn ddiogel i’r ysgol.

 

Sut y galla’ i gymryd rhan?

Mae ystadegau newydd gan Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU wedi dangos cynnydd o 39% yn nifer y bobl a fuodd yn cerdded mwy rhwng mis Mai a mis Gorffennaf 2020. Mewn ymgais i gynnal y newid hwnnw mewn ymddygiad, a ddigwyddodd o ganlyniad i Covid-19, a helpu i drawsnewid taith pob plentyn ar droed i’r ysgol, dyma rai o’r ffyrdd y gallwch gefnogi Mis Rhyngwladol Cerdded i’r Ysgol:

1. Gadewch y car gartref a cherddwch i’r ysgol (neu ewch ar y beic neu’r sgwter)! Ydy – mae mor syml â hynny. Mae cerdded i’r ysgol yn esgor ar lwyth o fanteision i blant ysgolion cynradd ac uwchradd. Gallwch gynllunio eich llwybr mwyaf hwylus ar gyfer cerdded i’r ysgol drwy ddefnyddio ein Cynlluniwr Taith, a gallwch weld ambell air o gyngor gennym ynghylch cerdded yn ddiogel i’r ysgol (yn enwedig wrth i’r boreau a’r nosweithiau fynd yn dywyllach!) yma.

2. Adnodd WOW ar gyfer tracio teithiau: Menter a arweinir gan ddisgyblion yw WOW, lle bydd plant yn nodi sut y maent yn teithio i’r ysgol bob dydd drwy ddefnyddio adnodd rhyngweithiol WOW ar gyfer tracio teithiau. Os byddant yn defnyddio dull cynaliadwy o deithio (er enghraifft, yn cerdded neu’n mynd ar eu beic neu’u sgwter) unwaith yr wythnos am fis, byddant yn cael bathodyn. Gofynnwch i’ch ysgol gofrestru heddiw gyda menter WOW!

3. Digwyddiad ‘Esgidiau Hapus’: Gall eich ysgol gofrestru i gymryd rhan yn nigwyddiad ‘Esgidiau Hapus’ Living Streets, sef digwyddiad codi arian i greu strydoedd mwy diogel ar gyfer pawb. Gall ysgolion gynnal y digwyddiad ar unrhyw ddiwrnod drwy gydol mis Hydref. Ar y diwrnod dan sylw, bydd y plant yn cerdded i’r ysgol yn eu hesgidiau hapus ac yn rhoi swm a awgrymir o £1 i Living Streets.

4. Lawrlwytho Pecyn Cerdded i’r Ysgol Living Streets ar gyfer y Teulu: Mae’n llawn cyngor ynghylch sut y gall cerdded i’r ysgol weithio i’ch teulu chi a sut y gallwch ymgyrchu dros lwybrau cerdded gwell yn eich ardal.

5. Ymuno â weminar ‘School Streets’: Ar 22 Hydref, bydd Living Streets Cymru yn cynnal digwyddiad rhithwir i ddangos beth yw manteision cael gwared â cheir o’r strydoedd sydd o amgylch ein hysgolion, ac i roi i chi’r sgiliau a’r wybodaeth i gyflwyno ‘School Streets’ yn eich ardal chi (cynllun yw ‘School Streets’ sy’n atal cerbydau rhag defnyddio’r ffyrdd o amgylch ysgolion yn ystod y cyfnodau prysur pan fydd plant yn cyrraedd ac yn gadael yr ysgol). Bydd y siaradwyr yn cynnwys Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, a Dafydd Trystan, Cadeirydd Bwrdd Teithio Llesol Cymru.

 

Traveline-Cymru-Team-Get-Involved-In-International-Walk-To-School-Month

 

*Cafwyd yr ystadegau drwy garedigrwydd Living Streets.

Pob blog Rhannwch y neges hon