Blog

Impact-of-Covid19-on-Public-Transport-Industry-Traveline-Cymru-Managing-Director-Jo-Foxall

Jo Foxall, Rheolwr Gyfarwyddwr Traveline Cymru, yn sôn am...Effaith Covid-19 ar y Diwydiant Trafnidiaeth

02 Tachwedd 2020

Heb os, mae effaith Covid-19 wedi arwain at lawer o heriau unigryw a pharhaus i’r diwydiant trafnidiaeth. Wrth i weithredwyr orfod lleihau eu darpariaeth o ran gwasanaethau, wrth i amserlenni gael eu newid yn sylweddol, wrth i fesurau diogelwch newydd gael eu cyflwyno ac wrth i arferion teithio pobl newid, mae’r diwydiant wedi gorfod addasu’n sydyn ac yn effeithiol.

Mae gan Jo Foxall, Rheolwr Gyfarwyddwr Traveline Cymru, dros 17 mlynedd o brofiad o weithio yn y sector ac enillodd y wobr ‘Menywod ym maes Trafnidiaeth yn ddiweddar yng Ngwobrau Trafnidiaeth Cymru 2020. Mae ei phrofiad helaeth yn golygu ei bod yn gallu taflu goleuni gwerthfawr ar y problemau y mae’r diwydiant yn eu hwynebu ar hyn o bryd, yn ogystal â’r effeithiau hirdymor y gallai’r pandemig eu hachosi.

Isod, mae Jo yn sôn yn fanwl am effeithiau parhaus Covid-19, sut y mae’r diwydiant wedi ymateb a sut y mae hi wedi addasu’r ffordd y mae Traveline Cymru (a PTI Cymru, ein sefydliad ymbarél) yn gweithredu:

 

Pa effaith y mae COVID-19 wedi’i chael ar y diwydiant trafnidiaeth gyhoeddus?

Yn anffodus, mae COVID-19 wedi cael effaith ddinistriol ar y diwydiant trafnidiaeth gyhoeddus. Oherwydd y cyfnod clo cenedlaethol a’r neges wedyn ynghylch ‘teithiau hanfodol yn unig’, bu’n rhaid i weithredwyr leihau eu fflyd yn helaeth gan barhau ar yr un pryd i ddarparu dulliau diogel a hanfodol o deithio ar gyfer gweithwyr allweddol. Ac er nad yw’r neges ynghylch teithiau hanfodol yn bodoli mwyach, mae cyfyngiadau lleol mewn grym erbyn hyn sy’n cyfyngu ar deithio ac mae llawer o bobl yn dal i weithio gartref ac yn teithio i’w hardaloedd lleol yn unig. Mae’n debygol y bydd arferion teithio pobl yn parhau’n wahanol am amser hir i ddod, ac mae’r diwydiant yn gorfod addasu er mwyn goroesi.

 

Sut yr ydych chi wedi gorfod addasu i’r newid yn PTI Cymru (Traveline Cymru)?

Ymatebodd ein sefydliad yn sydyn ac yn gadarnhaol i’r newidiadau sydd wedi digwydd oherwydd COVID. Fel sefydliad sy’n ymfalchïo mewn bod yn hyblyg bu modd i ni drefnu bod y tîm cyfan, gan gynnwys staff ein canolfan gyswllt, yn gallu gweithio’n ddiogel gartref cyn pen ychydig ddiwrnodau ar ôl y cyhoeddiad am y cyfnod clo. Er gwaetha’r newidiadau sylweddol i’n trefniadau gweithio, rydym wedi parhau i ddarparu gwasanaeth o safon uchel i’n cwsmeriaid ac i’r sawl y mae gennym gontractau â nhw. Gwnaethom hyd yn oed lwyddo i helpu rhai o’n deiliaid contract i ymdrin â galwadau ychwanegol wrth i’w busnesau nhw wynebau eu heriau eu hunain. Mae’r tîm yn dal yn gadarnhaol ac yn obeithiol, ac rydym wedi gweithio’n galed i godi calon pawb drwy gynnal cwis bob wythnos a chynnal gweithgareddau nad ydynt yn gysylltiedig â gwaith, er mwyn gwneud yn siŵr bod pawb yn dal i gyfathrebu â’i gilydd. Rydym yn dal i weithio gartref, a byddwn yn gwneud hynny tan o leiaf y flwyddyn newydd.

 

Ydych chi wedi gweld unrhyw beth tebyg erioed o’r blaen?

Dydw i ddim wedi gweld unrhyw beth tebyg i hwn erioed o’r blaen yn ystod fy ngyrfa yn y diwydiant. Rhaid mai’r peth tebycaf a welsom o’r blaen, o safbwynt yr holl darfu ar wasanaethau a’r llwyth gwaith enfawr wrth geisio ymdopi â newidiadau i drafnidiaeth gyhoeddus ac wrth geisio rhannu gwybodaeth amdanynt, yw’r cyfnodau estynedig o dywydd garw yr ydym wedi’u cael, megis y Bwystfil o’r Dwyrain yn 2018. Rydym yn gwybod o brofiad mai yn ystod cyfnodau o ansicrwydd megis tywydd garw neu streic, neu bandemig byd-eang hyd yn oed, y mae ar bobl fwyaf o angen cymorth gan ein gwasanaethau a’n tîm.

 

Sut y mae’r diwydiant yn dod ato ei hun ers y cyfnod clo cyntaf?

Mae’r diwydiant yn dechrau dod ato ei hun ac rydym yn gweld llawer o wasanaethau a gafodd eu canslo neu’u cwtogi yn ystod dechrau’r cyfnod clo yn cael eu hailgyflwyno, sy’n wych i’w weld ond sydd wrth gwrs yn golygu llawer o waith ar gyfer fy nhîm. Yn anffodus, rwy’n credu ei bod yn anochel y bydd cyfyngiadau lleol a’r cyfyngiadau sy’n parhau yn effeithio ar y diwydiant am beth amser i ddod.

 

Beth fydd effaith hirdymor y pandemig ar y diwydiant, yn eich barn chi?

Mae’r diwydiant yn gorfod addasu ac arallgyfeirio er mwyn goroesi yn y tymor hir, a bydd yn parhau i orfod gwneud hynny. Rydym yn gweld cynlluniau newydd megis gwasanaeth Fflecsi Trafnidiaeth Cymru, a mwy o ddibyniaeth ar wasanaethau a chludiant cymunedol megis Bwcabus yn y gorllewin. Mae’n debygol y bydd arferion teithio pobl yn parhau’n wahanol yn y tymor hir, a bydd angen i’r diwydiant barhau i wrando ar anghenion cwsmeriaid ac addasu er mwyn eu diwallu.

 

Mae COVID-19 wedi effeithio’n fawr ar batrymau gweithio. Sut yr ydych yn gweld hynny’n effeithio ar bethau yn y tymor hir?

Yn fy marn i, un o agweddau cadarnhaol y pandemig yw’r modd y mae trefniadau gweithio gartref a gweithio’n hyblyg wedi gorfod cael sylw er mwyn cynorthwyo busnesau a’r economi i oroesi. Mae ein sefydliad bob amser wedi arddel ethos cryf o safbwynt gweithio’n hyblyg, ac mae llawer o aelodau ein tîm yn gweithio gartref naill ai’n barhaol neu’n rhan-amser. Rwy’n credu bod cyflogwyr wedi gweld bod pobl yn gallu gweithio gartref a gweithio’n hyblyg, gan barhau i gyflawni popeth y mae angen iddynt ei gyflawni, a mwy na hynny’n aml. Rwy’n obeithiol y bydd hynny’n golygu mwy o hyblygrwydd i fwy o fusnesau yn y dyfodol, gan fod yr arfer yn fanteisiol i gymaint o bobl – nid yn unig i fenywod neu bobl sydd â chyfrifoldebau gofalu ond i bawb sy’n chwilio am gydbwysedd gwell rhwng bywyd a gwaith. I fi, mae bod gartref i fwyta swper gyda fy nheulu bob nos yn rhywbeth yr oeddwn yn ei wneud yn anaml iawn o’r blaen ond yn rhywbeth yr wyf yn awyddus iddo barhau ar ôl y pandemig.

 

Beth yw eich dyheadau ar gyfer y dyfodol?

Mae fy nyheadau ar gyfer y dyfodol yn cynnwys parhau i lywio’r busnes drwy’r heriau parhaus sy’n gysylltiedig â COVID; sicrhau bod gwasanaeth gwybodaeth am drafnidiaeth, sy’n wasanaeth cydlynus o safon, yn parhau er mwyn cynorthwyo’r cwsmeriaid y mae arnynt angen y gwasanaeth; a chynorthwyo’r diwydiant ac annog mwy o bobl i ddefnyddio dulliau amgen o deithio. Rwy’n awyddus i barhau i weithio gyda’n cwsmeriaid a’n tîm talentog i ehangu ein darpariaeth a chyflwyno mwy o amrywiaeth i’r wybodaeth yr ydym yn ei darparu, fel ei bod yn cynnwys mwy o wybodaeth amser real a gwybodaeth am wahanol ddulliau o deithio, ac rwy’n awyddus i ychwanegu’n gyffredinol at yr hyn y gallwn ei wneud. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi’i sefydlu ac mae llawer o brosiectau cyffrous ac arloesol yn cael eu datblygu, felly mae’r diwydiant trafnidiaeth yn lle heriol ond hefyd yn lle cyffrous tu hwnt i fod ynddo ar hyn o bryd.
 

Pob blog Rhannwch y neges hon