Blog

New-Kids-Activity-Book-For-Coronavirus-Lockdown-Traveline-Cymru

Angen syniadau am weithgareddau i’ch plant yn ystod y cyfnod clo? Ewch ati’n awr i lawrlwytho Llyfr Gweithgareddau i Blant Traveline Cymru, sy’n newydd sbon!

04 Chwefror 2021

Yn ogystal â sicrhau bod gennych y wybodaeth hanfodol y mae arnoch ei hangen am drafnidiaeth gyhoeddus, mae tîm Traveline Cymru yn awyddus iawn i gynorthwyo ein cwsmeriaid, ein ffrindiau a’n cydweithwyr mewn ffyrdd eraill hefyd yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Gan ei bod yn Wythnos Iechyd Meddwl Plant a bod y gwyliau hanner tymor yn agosáu, rydym wedi creu ‘Llyfr Gweithgareddau i Blant Traveline Cymru’ sy’n newydd sbon ac sy’n llawn o gemau, gweithgareddau, ryseitiau a llawer o bethau eraill a fydd, gobeithio, yn eich difyrru chi a’ch teulu yn ystod yr wythnosau a’r misoedd sydd i ddod.

Rydym hefyd yn deall bod addysgu plant gartref a cheisio cyflawni eich cyfrifoldebau eraill o ddydd i ddydd yn gallu bod yn wirioneddol anodd. Ar ddiwedd y llyfr, fe welwch chi restr o adnoddau defnyddiol a allai (ochr yn ochr â’r holl weithgareddau yr ydym wedi’u crynhoi at ei gilydd) eich helpu i gefnogi eich plentyn wrth iddo ddysgu.

Dyma ragflas i chi o gynnwys y llyfr!

  • Fy rhestr wirio wrth fynd am dro bob dydd
  • Beth sy’n wahanol?
  • Lliwio llun
  • Ysgrifennu stori
  • Mathemateg a thrafnidiaeth
  • Darllen amserlenni bws
  • Ryseitiau ar gyfercwcissiocledhynod o hawdd, cebabsffrwythaulliwiau’renfys, a fflapjacsffrwythauffantastig
  • Adnoddau defnyddiol i oedolion

Gallwch glicio ar y botymau isod i lawrlwytho ac argraffu eich llyfr gweithgareddau chi!

KAP Colour Button Welsh

KAP B&W Button Welsh

Byddem wrth ein bodd pe baech yn rhannu manylion a lluniau â ni ar gyfryngau cymdeithasol, sy’n dangos sut hwyl rydych chi a’ch teulu yn ei chael gyda’n llyfr gweithgareddau. Gallwch ein tagio ni yn eich lluniau ar Twitter ac Facebook @TravelineCymru

 

Gobeithio y gwnewch chi fwynhau!

 

Os oes angen i chi deithio at ddibenion hanfodol, ewch i’n tudalen ‘Coronafeirws – Y wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau trafnidiaeth’ cyn i chi deithio er mwyn gweld y newidiadau diweddaraf gan weithredwyr i amserlenni.

Pob blog Rhannwch y neges hon