Blog

Travel-to-your-Covid-vaccination-appointment-using-community-transport-Community-Transport-Association-Traveline-Cymru

Sut mae teithio i apwyntiad eich brechiad COVID-19 gan ddefnyddio cludiant cymunedol

17 Chwefror 2021

Mae cludiant cymunedol yn sicrhau bod y gymuned wrth wraidd popeth a wna, ac mae’n llenwi’r bylchau mewn systemau trafnidiaeth gyhoeddus brif ffrwd ac yn cynnig gwasanaethau cludiant hygyrch a chynhwysol.

Wrth i’r rhaglen frechu genedlaethol ar gyfer COVID-19 gael ei rhoi ar waith, mae llawer o ddarparwyr cludiant cymunedol yn ymdrechu i sicrhau bod aelodau eu cymuned yn gallu cael y brechlyn. Boed yn wasanaethau bws cymunedol, yn gynlluniau ceir gwirfoddol neu’n wasanaethau bws mini ‘deialu a theithio’ y gellir eu harchebu, mae llawer o drigolion Cymru wedi defnyddio eu cynllun cludiant cymunedol lleol i sicrhau eu bod nhw neu’u hanwyliaid yn gallu cyrraedd y feddygfa neu’r ganolfan brechu torfol agosaf.

Beth yw cludiant cymunedol?

Mae cludiant cymunedol yn sicrhau bod y gymuned wrth wraidd popeth a wna, ac mae’n llenwi’r bylchau mewn systemau trafnidiaeth gyhoeddus brif ffrwd ac yn cynnig gwasanaethau cludiant hygyrch a chynhwysol.

Fel rheol, mae cludiant cymunedol yn cynorthwyo:

  • Pobl mewn ardaloedd gwledig lle mae gwasanaethau trafnidiaeth yn brin, os ydynt ar gael o gwbl. 
  • Pobl y mae rhwystrau’n eu hatal rhag defnyddio gwasanaethau trafnidiaeth eraill, e.e. pobl hŷn, pobl anabl.
  • Pobl y mae angen iddynt deithio y tu allan i oriau brig arferol, e.e. ymwelwyr ag ysbytai, gweithwyr sifftiau.

Caiff y gwasanaethau eu rhedeg gan lu o staff a gwirfoddolwyr sy’n awyddus i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Mae’r gweithredwyr yn dod o’r gymuned, felly mae ganddynt y wybodaeth angenrheidiol am yr ardal leol i allu darparu gwasanaeth dibynadwy.

 

Community-transport-providers-help-public-travel-to-Covid-vaccination-appointments

Sut y gall cludiant cymunedol fy helpu i gael fy mrechiad?

Mae llawer o bobl yn ei chael yn anodd defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus brif ffrwd. Efallai fod yr arhosfan bysiau yn rhy bell o’ch cartref neu’ch bod yn poeni am allu mynd i mewn i’r bws o ymyl y palmant. Efallai eich bod yn byw mewn ardal lle nad oes fawr ddim bysiau’n gweithredu, os oes unrhyw fysiau o gwbl. Efallai eich bod yn defnyddio cadair olwyn ac yn poeni y gallai’r lle hygyrch mewn bws fod wedi’i gymryd yn barod gan rywun arall, neu efallai fod eich golwg neu’ch clyw wedi gwaethygu a’ch bod yn poeni am fethu â mynd allan wrth yr arhosfan cywir. Efallai nad ydych, yn syml iawn, yn gallu ymdopi â thaith lle mae gofyn i chi newid bysiau ac aros yn hir am fws.

Beth bynnag fo’r rheswm, mae gweithredwyr cludiant cymunedol yn gallu helpu’n aml, hyd yn oed os yr unig gymorth y mae arnoch ei angen yw cymorth i fynd i’ch apwyntiad i gael brechiad. Mae cludiant cymunedol yn cynnig gwasanaeth o ddrws i ddrws mewn cerbyd sydd wedi’i lanhau yn drylwyr cyn iddo eich casglu, gyda staff a gwirfoddolwyr sydd wedi’u hyfforddi i’ch cynorthwyo, sy’n gwisgo’r cyfarpar diogelu personol cywir ac sydd wedi bod yn rhan o brosesau asesu risg. Gallwch fod yn dawel eich meddwl mai eu prif flaenoriaeth yw sicrhau eich bod chi’n ddiogel ac yn gysurus a’ch bod yn gallu teithio’n ddiogel ac yn brydlon i’ch apwyntiad i gael brechiad, ac yna’n ôl adref.

Bydd eich darparwr cludiant cymunedol lleol, os byddwch yn ei ffonio, yn trefnu lifft i chi mewn cerbyd diogel o ran COVID-19, sydd â gyrrwr cymwys. Ac oherwydd bod gwasanaethau cludiant cymunedol yn wasanaethau dielw, mae’r teithiau yn aml yn gallu bod yn rhatach o lawer na thacsi. Mae rhai gweithredwyr hyd yn oed yn gallu cynnig cludiant am ddim i bobl sy’n mynd i gael eu brechu.

Mae’n bwysig nodi na ddylech deithio i’ch canolfan frechu leol oni bai bod gennych apwyntiad.

 

Sut mae dod o hyd i fy ngweithredwr cludiant cymunedol lleol?

Mae’r Gymdeithas Cludiant Cymunedol wedi bod yn gweithio gyda Traveline Cymru i gynnig rhestr lawn o weithredwyr cludiant cymunedol yng Nghymru. Mae manylion eich gweithredwr lleol chi i’w gweld yma.*

Astudiaeth achos/Enghraifft

Mae Cludiant Cymunedol Dwyrain y Fro yn darparu gwasanaethau cludiant hygyrch a chynhwysol i drigolion ym Mro Morgannwg y mae llawer ohonynt yn cael eu galw’n awr i fynychu eu hapwyntiadau i gael brechiad yn y Sblot a’r Barri. Gan mai ychydig iawn o fysiau cyhoeddus sy’n gweithredu yn yr ardal hon, a bod nifer fawr o drigolion sy’n gymwys i gael brechiad yn byw ynddi, mae bws Cludiant Cymunedol Dwyrain y Fro wedi bod yn brysur iawn yn cludo pobl i’w hapwyntiadau. Gan fod y gyrwyr yn wirfoddolwyr rheng flaen, maen nhw wedi medru cael brechiad hefyd ac mae ganddynt weithdrefnau llym ar waith ar gyfer glanhau, asesu risg a gwisgo cyfarpar diogelu personol er mwyn diogelu eu teithwyr. Felly, os ydych yn byw yn Nwyrain y Fro, gall Cludiant Cymunedol Dwyrain y Fro fod yn opsiwn diogel a rhad o ran trafnidiaeth, a all eich cludo i’ch apwyntiad i gael brechiad (awgrymir rhodd o £5).

 

Diolch i’r Gymdeithas Cludiant Cymunedol am gael defnyddio’r blog hwn.

*Mae gweithredwyr cludiant cymunedol yn sefydliadau ac yn fudiadau sy’n annibynnol ar y Gymdeithas Cludiant Cymunedol a Traveline Cymru.

Pob blog Rhannwch y neges hon