Blog

Sustrans-Cymru-On-The-Importance-Of-Active-Travel-Beyond-The-Pandemic

Sustrans Cymru yn trafod… rôl teithio llesol yn ystod y pandemig ac wedi hynny

12 Mai 2021

Wrth i’n ffyrdd dawelu yn ystod y pandemig Covid-19, gwnaeth llawer ohonom gynnwys dulliau teithio llesol yn rhan o’n trefn arferol o ddydd i ddydd. Er mwyn archwilio pwysigrwydd annog pobl i gerdded, beicio a defnyddio dulliau teithio cynaliadwy eraill wedi’r pandemig, rydym wedi ymuno â hen gyfaill i Traveline Cymru, Sustrans Cymru, i greu cyfres o erthyglau blog gan gyfrannwr gwadd. Mae’r gwaith hwn yn hollbwysig wrth i ni wynebu’r argyfwng hinsawdd parhaus ac ystyried y rôl y bydd teithio llesol a theithio aml-ddull yn ei chwarae yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod.

Mae Sustrans Cymru am weld byd lle caiff pobl eu cysylltu trwy drafnidiaeth gynaliadwy a dulliau teithio llesol, a lle nad yw bod heb gar yn effeithio ar eich gallu i fod yn rhan o gymdeithas.

Pan ddigwyddodd y pandemig Covid-19 a phan ddechreuodd y cyfnod clo yng Nghymru, gofynnwyd i ni aros gartref, osgoi trafnidiaeth gyhoeddus a theithio at ddibenion hanfodol yn unig. Dangosodd y newid mawr hwn i’n bywydau mor bwysig yw cael cysylltiadau da yn ein cymunedau a chymaint yr ydym yn dibynnu ar gael mynediad hwylus i siopau a gwasanaethau hanfodol.

 

Effaith gadarnhaol Covid-19 ar deithio llesol

Rhannu lle â thraffig yw un o’r rhwystrau mwyaf y bydd pobl yn ei wynebu wrth feicio. Pan ddiflannodd ceir o’n ffyrdd dros nos, trawsnewidiwyd y modd yr oedd pobl yn teithio o amgylch eu cymunedau. Gwelsom drosom ein hunain sut yr oedd ffyrdd heb lawer o draffig yn agor y drws i bobl fwynhau cerdded a beicio yn rhan o’u trefn arferol o ddydd i ddydd. Roedd pobl yn teimlo eu bod wedi’u grymuso i gerdded a beicio o amgylch eu cymdogaethau, eu trefi a’u dinasoedd.

Arweiniodd y cyfnodau clo at ailystyried gwerth mannau gwyrdd fel adnodd sy’n hanfodol i iechyd a lles pobl, a chydnabuwyd bod treulio amser ynghanol byd natur yn hybu imiwnedd ac yn gwella iechyd meddwl. Fodd bynnag, er i ni weld nifer o bobl yn addasu eu ffordd o fyw a’u harferion gweithio a theithio mewn modd na ellid bod wedi’i ddychmygu o’r blaen, cafodd yr argyfwng effaith anghymesur ar lawer o bobl eraill.

 

Effaith anghymesur Covid-19 ar grwpiau difreintiedig

Mae effeithiau’r pandemig o safbwynt iechyd ac o safbwynt economaidd wedi bod yn anghymesur ar bobl o leiafrifoedd ethnig, pobl ag anableddau a phobl ar incwm is. Y rhain yw’r bobl sydd eisoes yn dioddef yn anghymesur oherwydd llygredd aer, effeithiau’r newid yn yr hinsawdd, a diffyg mynediad i fannau gwyrdd a dulliau teithio cynaliadwy.

Roedd effaith y cyfnodau clo ar lawer o bobl agored i niwed mewn cymdeithas yn cynnwys arwahanrwydd, diffyg mynediad i wasanaethau hanfodol a phrinder mannau gwyrdd. Yn awr yn fwy nag erioed, rydym yn deall pwysigrwydd cael cymunedau â chysylltiadau da a thir cyhoeddus o safon.

Mae angen i ni weld adferiad cynaliadwy sy’n deg i bawb yng Nghymru. Mae gennym gyfle unigryw i ganolbwyntio ar gerdded, beicio a gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus sy’n gwasanaethu pob defnyddiwr yn yr un modd, gan greu gwaddol o’r radd flaenaf i genedlaethau’r dyfodol. Mae’r argyfwng hinsawdd yn mynnu ein bod yn gwneud newidiadau er mwyn cefnu ar ddefnydd helaeth o geir preifat a throi at ddulliau teithio cynaliadwy sy’n sicrhau dyfodol gwell i’n pobl a’n planed.

 

Dyfodol trafnidiaeth a theithio llesol

Passenger-Taking-Bike-On-TrainFodd bynnag, wrth i ni symud drwy’r amryw gamau ar ein ffordd allan o’r argyfwng, rydym yn wynebu’r risg go iawn o weld adferiad a gaiff ei arwain gan y car. Mae nifer y ceir sydd ar ein ffyrdd yn dringo’n raddol i’r lefelau yr oeddem yn eu gweld cyn y pandemig. Mae nifer y bobl sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn gostwng[1], ac wrth i’n ffyrdd brysuro mae pobl unwaith eto yn wynebu’r perygl o rannu lle ar y ffyrdd â thraffig.

Rhaid i ni sicrhau bod cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus yn rhatach, yn gynt ac yn fwy diogel a chyfleus na gyrru. I wneud hynny, mae arnom angen seilwaith o safon ar gyfer cerdded a beicio sydd wedi’i gysylltu â system trafnidiaeth gyhoeddus sy’n hygyrch, yn ddibynadwy ac yn fforddiadwy.

Er mwyn i hynny fod yn bosibl, mae angen i ni fynd ati ar fyrder i ddechrau sicrhau bod pobl yn cael blaenoriaeth dros geir. Yn anffodus, ers y 1950au, rydym wedi cynllunio Cymru o amgylch cerbydau modur. Mae hynny nid yn unig yn broblem o ran cyrraedd ein targedau yng nghyswllt y newid yn yr hinsawdd ond hefyd yn broblem ddifrifol o ran cydraddoldeb, o ystyried nad yw tua chwarter aelwydydd Cymru yn berchen ar gar.

Mae cynllunio ein cymunedau gan ragdybio y bydd pobl yn gyrru yn atal canran sylweddol o bobl rhag cael mynediad i wasanaethau a chyfleusterau y mae arnynt eu hangen i fyw’n dda. Yn syml, mae angen i ni roi’r gorau i adeiladu pethau na all pobl eu cyrraedd, a gweithio i leihau’r bwlch cynyddol o ran mynediad.

Dyna pam y mae holl waith Sustrans yn canolbwyntio ar ei gwneud yn haws i bobl gerdded, beicio a gwneud dewisiadau cynaliadwy wrth deithio. Rydym yn cysylltu pobl a lleoedd â’i gilydd, yn creu cymdogaethau dymunol i fyw ynddynt, yn gweddnewid y daith i’r ysgol ac yn gwneud y daith i’r gwaith yn fwy hapus ac iach. Mae Sustrans yn gweithio mewn partneriaeth, gan dynnu pobl ynghyd i ddod o hyd i’r atebion iawn. Rydym yn dadlau dros gerdded a beicio, drwy ddefnyddio tystiolaeth gadarn a dangos beth y gellir ei wneud. Mae ein gwreiddiau mewn cymunedau, a chredwn fod cefnogaeth ar lawr gwlad ynghyd ag arweiniad gwleidyddol yn gallu ysgogi newid gwirioneddol a sydyn. Gallwch ddysgu mwy am y gwaith y mae Sustrans yn ei wneud yma.

 

Yn Traveline Cymru, rydym yn frwd ynghylch hyrwyddo manteision corfforol, meddyliol ac amgylcheddol cerdded a beicio. Os hoffech gael help i gynllunio eich teithiau gan ddefnyddio dulliau teithio llesol, gallwch ddod o hyd i’r llwybrau cerdded a beicio sydd fwyaf cyfleus i chi ar ein Cynlluniwr Cerdded a’n Cynlluniwr Beicio pwrpasol.

 

Diolch i Sustrans Cymru am gyfrannu’r erthygl hon.

 

[1] Enghraifft: “Ar y dyddiad hwnnw roedd y defnydd o’r rheilffyrdd yng Nghymru tua 12-15% o’r lefelau a welwyd cyn COVID-19” Llwybr Newydd – Sylfaen Tystiolaeth: Tueddiadau Data Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru, 2020

Pob blog Rhannwch y neges hon