Blog

5-top-tips-for-effectively-communicating-with-vulnerable-customers-from-Traveline-Cymru's-specialist-communications-training-with-Hijinx-Theatre

5 cyngor ynghylch cyfathrebu’n effeithiol â chwsmeriaid agored i niwed, yn dilyn hyfforddiant cyfathrebu arbenigol Traveline Cymru gyda chwmni theatr Hijinx

18 Mai 2021

Ar 11 Mawrth 2021, buodd Traveline Cymru yn cymryd rhan mewn hyfforddiant cyfathrebu arbenigol gyda Hijinx, un o gwmnïau theatr cynhwysol mwyaf blaenllaw Ewrop.

Heb os, mae effaith COVID-19 wedi achosi llawer o heriau unigryw a pharhaus i’r diwydiant trafnidiaeth. Mae gweithredwyr wedi gorfod cwtogi eu gwasanaethau, mae newidiadau mawr wedi’u gwneud i amserlenni, mae mesurau diogelwch newydd wedi gorfod cael eu cyflwyno, ac mae’r diwydiant wedi gorfod addasu’n sylweddol oherwydd bod arferion teithio pobl wedi newid.

Gan ystyried y ffactorau hyn, buodd Traveline Cymru yn cymryd rhan ar 11 Mawrth 2021 mewn hyfforddiant cyfathrebu arbenigol gyda Hijinx, un o gwmnïau theatr cynhwysol mwyaf blaenllaw Ewrop.

Yn ogystal â darparu hyfforddiant busnes i gwmnïau fel Traveline Cymru, mae’r sefydliad cynhyrchu proffesiynol yn enwog am greu perfformiadau rhagorol ar y llwyfan a’r sgrin, i Gymru a gweddill y byd, gydag artistiaid sydd ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth.

Yn Traveline, rydym yn credu bod dyletswydd arnom i ddarparu gwasanaeth gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus – sy’n wasanaeth hanfodol – mor effeithiol ag sy’n bosibl i’n hamrywiaeth o gwsmeriaid, a dyma un o’r ffyrdd yr ydym yn buddsoddi yn ein gallu i wneud hynny.

Yn ystod yr hyfforddiant, cafodd y staff eu grymuso â sgiliau i gyfathrebu’n dda â chwsmeriaid agored i niwed, a chafodd eu canfyddiadau eu herio.

 

Cymerwch olwg ar y 5 cyngor hyn a gafwyd gan actorion Hijinx i’n helpu wrth gyfathrebu â chwsmeriaid agored i niwed:

1. “Byddwch yn amyneddgar pan fyddwn yn ateb eich cwestiynau”: Efallai y bydd angen ychydig yn rhagor o amser ar bobl sydd ag anawsterau dysgu a/neu awtistiaeth i ddeall ac i lunio ateb i’ch cwestiwn. Gadewch iddynt gael yr amser hwnnw a pheidiwch â thorri ar eu traws pan fyddant yn ymateb; gall hynny eu hypsetio, gwneud iddynt anghofio beth yr oeddent am ei ddweud, neu olygu eich bod yn methu ymdrin ag ymholiad y cwsmer yn effeithiol.

2. “Peidiwch â siarad yn rhy gyflym (nac yn rhy araf!)”: Yn gyffredinol, siarad yn glir ar gyflymder cymedrol gan ddefnyddio iaith hawdd ei deall yw’r arfer gorau wrth gyfathrebu â chwsmeriaid agored i niwed. Ond peidiwch â siarad yn rhy araf! Gall hynny swnio’n nawddoglyd i’r cwsmer. Mae anghenion cyfathrebu pawb yn unigryw, felly mae’n bwysig sgwrsio ar gyflymder y cwsmer a dilyn ei arweiniad ef.

3. “Sylwch ar iaith ein corff (a/neu dôn ein llais)”: Mae’n bosibl y bydd cwsmeriaid agored i niwed wedi meddwl am y geiriau y maent am eu defnyddio ond na fyddant bob amser yn gallu eu rhoi at ei gilydd i esbonio’r hyn y maent yn ceisio ei gyfleu. Mae bod yn ymwybodol o hynny’n bwysicach fyth ar y ffôn, pan na fyddwch yn gallu sylwi ar iaith corff y cwsmer (ac i’r gwrthwyneb). Gwrandewch ar dôn llais y cwsmer, ceisiwch sylwi ar unrhyw bryder, gofid neu rwystredigaeth, a cheisiwch ymateb gan ddangos cefnogaeth a charedigrwydd.

4. “Cymerwch eich amser a gwrandewch ar yr hyn a ddywedwyd”: Mae’n bwysig bod yn amyneddgar gyda’r cwsmer a pheidio â’i frysio, o ran y geiriau yr ydych yn eu defnyddio ac o ran tôn eich llais. Rhowch ddigon o amser iddo ofyn ei gwestiynau, defnyddiwch gwestiynau agored (yn hytrach na chwestiynau ie/nage, oherwydd gall fod yn anodd i rywun sydd ag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth brosesu ystyr cwestiynau) a gwiriwch eich bod wedi deall yn iawn yr hyn y mae wedi’i ddweud.

5. “Peidiwch ag ofni gofyn cwestiynau! Os nad ydych wedi deall yr hyn a ddywedwyd, peidiwch ag esgus eich bod wedi deall.”: Mae hynny’n wirioneddol bwysig! Os eich gwaith yw rhoi gwasanaeth i gwsmer, mae dyletswydd arnoch i wneud eich gorau glas i ddiwallu anghenion y cwsmer. Gallai esgus eich bod wedi deall yr hyn a ddywedodd y cwsmer olygu y byddwch yn rhoi gwybodaeth anghywir neu amherthnasol iddo. Peidiwch ag ofni dweud wrth y cwsmer os nad ydych wedi deall yr hyn a ddywedodd, a gofynnwch iddo ddweud wrthych eto. Efallai y bydd angen i chi geisio aralleirio’r cwestiwn, a defnyddio geiriau sy’n haws eu deall.

 

Drwy weithio’n uniongyrchol gydag actorion sydd ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth, y mae gallu a dewisiadau pob un ohonynt o ran cyfathrebu’n wahanol i’w gilydd, medrodd staff tîm Traveline ddeall anghenion y cwsmeriaid hynny er mwyn sicrhau eu bod yn darparu’r wybodaeth fwyaf buddiol i bawb.

Dyma farn ein hasiantiaid am y diwrnod hyfforddi:

  • Diolch o galon am eich hyfforddiant gwerthfawr dros ben. Fe wnes i ei fwynhau’n fawr.
  • Roedd yr actorion yn wych!
  • Diolch i’r tîm am eich anogaeth – roeddwn yn teimlo mor ofnus ac mor ddihyder wrth gyflawni’r dasg.
  • Mae’n ffordd wych o ddysgu sgiliau newydd.

Mae Jo Foxall, Rheolwr Gyfarwyddwr Traveline Cymru yn credu ei bod yn bwysicach nag erioed, pan fo problemau iechyd meddwl megis gorbryder ac unigrwydd yn waeth oherwydd y pandemig COVID-19, bod ein hasiantiaid yn gallu cyfathrebu’n hyderus â phob cwsmer – gan gynnwys pobl ag anawsterau dysgu a/neu awtistiaeth, sy’n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus, fel eu bod nhw hefyd yn gallu teithio at ddibenion hanfodol heb fawr ddim trafferth.

Mae hyfforddiant fel hyn wedi rhoi i aelodau’r tîm y sgiliau y mae arnynt eu hangen i ddarparu gwasanaeth o safon i bob cwsmer ledled Cymru, a byddwn yn sicr yn gweithio gyda Hijinx eto yn y dyfodol.

Mae Traveline yn gobeithio y bydd yr hyfforddiant hwn yn rhoi sicrwydd i bawb sy’n defnyddio ein gwasanaeth bod ein tîm o asiantiaid ymroddedig wrth law i gynorthwyo teithwyr ledled Cymru, waeth beth fo’u hamgylchiadau.

 

Mae Traveline Cymru a Hijinx wedi cael buddsoddiad gan raglen CultureStep A&B Cymru i gryfhau a datblygu eu partneriaeth greadigol.

Arts and Business Cymru

Pob blog Rhannwch y neges hon