Blog

A-walk-along-and-train-journey-to-the-Cambrian-Way-with-Ramblers-Cymru

Cerdded ar hyd llwybr Taith Cambria a’i gyrraedd ar y trên gyda Ramblers Cymru

25 Mai 2021

Wrth i gyfyngiadau teithio Covid-19 gael eu llacio, mae llawer ohonom yn achub ar y cyfle i fynd allan i’r awyr agored unwaith eto a mwynhau’n ddiogel yr holl ryfeddodau naturiol sydd i’w cael yng Nghymru. Yn ddiweddar buodd Swyddog Mannau Cerdded Ramblers Cymru, Olie Wicks, yn cerdded ar hyd y rhan o Daith Cambria sy’n ymestyn o Bont-y-pŵl i’r Fenni, a hynny yng nghwmni Amanda sy’n gweithio gydag ef, Nia sy’n berchen ar y cwmni anturiaethau awyr agored ‘Wild Trails Wales’ a Pip sy’n awdur teithio profiadol.

Yma, mae Olie yn sôn am eu taith 12 milltir a oedd yn heriol ond hefyd yn bleserus, y tirweddau a’r golygfeydd godidog a welsant ar y ffordd, a’r profiad da a gawsant o ddefnyddio’r trên i deithio i fan cychwyn ac o fan gorffen eu hantur ar droed.

Os byddwch chi’n ymgymryd â’ch antur eich hun ar droed, byddem ni a thîm Ramblers Cymru wrth ein bodd yn clywed gennych! Mae croeso i chi rannu eich lluniau a’n tagio ni ein dau – @TravelineCymru a @RamblersCymru ar Twitter neu @ramblers_cymru ar Instagram.

Gallwch hefyd dagio @TheCambrianWay ar Twitter a @cambrianwayofficial ar Instagram os byddwch yn dilyn ôl troed Olie a’r tîm ac yn cerdded ar hyd rhan o Daith Cambria!

 

Mae gweithio i Ramblers Cymru yn golygu fy mod yn cael llawer o gyfleoedd i fentro allan a chrwydro mewn ardaloedd newydd ledled Cymru. Mae hynny’n rhoi cyfle i fi ymwneud â phrosiectau cymunedol a gaiff eu harwain gan grwpiau brwdfrydig o bobl sydd am ddangos eu hardal leol ar ei gorau, ac yn rhoi cyfle hefyd i fi ddarganfod pob peth sydd gan Gymru i’w gynnig o safbwynt llwybrau cerdded hir megis Taith Cambria.

Un peth nad oeddwn wedi’i ystyried o ddifrif yn ystod fy ngyrfa fel cerddwr oedd sut y gall y rhwydwaith rheilffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus adfywio lleoliadau ledled Cymru; mae hefyd yn ddull cyfleus a chynaliadwy o deithio! Roeddwn yn arfer gyrru i leoliadau bob amser er mwyn gweithio neu fynd ar anturiaethau personol ond, o ystyried yr argyfwng hinsawdd sy’n parhau, byddaf i a Ramblers Cymru yn ystyried pa opsiynau sydd ar gael o ran trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn ein helpu i gyfrannu at ddyfodol ‘mwy gwyrdd’ i Gymru.

 

Defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd Taith Cambria

Mae llwybr cerdded Taith Cambria yn 298 o filltiroedd o hyd ac yn ymestyn o un pen o Gymru i’r llall. Mae llawer o’r llwybr yn croesi tir garw, agored ac mae hefyd yn mynd drwy ddau Barc Cenedlaethol ac ardaloedd agored o’r canolbarth megis Mynyddoedd Cambria. Caiff rhannau ohono eu hamgylchynu hefyd gan amgylcheddau trefol a oedd yn swnio fel lleoedd gwych i geisio cychwyn fy ymdrechion i gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus yn fy heriau cerdded, yn enwedig gan fod y llwybr hwn gyda’r mwyaf anodd sydd i’w cael yng Nghymru.

Cambrian-Way-Ramblers-Cymru-WalkRoedd yr her gerdded hon yn golygu dilyn cam 3 llwybr Taith Cambria o Bont-y-pŵl i’r Fenni – 12 milltir o gerdded anodd ar draws bryniau. Er mwyn archwilio’r opsiynau a oedd ar gael i ni o ran trafnidiaeth gyhoeddus, fe wnes i wahodd rhai o’m ffrindiau cerdded a fyddai’n teithio o wahanol leoliadau, sef Amanda sy’n gweithio gyda fi yn Ramblers Cymru, Nia sy’n berchen ar y cwmni anturiaethau awyr agored ‘Wild Trails Wales’ a Pip sy’n awdur teithio profiadol.

Mae pawb yn gwybod bod Covid-19 wedi taro pob un ohonom yn galed, yn enwedig y diwydiant trafnidiaeth gyhoeddus sy’n parhau i weithredu gyda chyfyngiadau ar waith. Ond un peth a’m plesiodd o’r dechrau oedd gweld sut yr oedd pawb ar y trên o’r pentref lle rwy’n byw yn gwisgo eu mwgwd, yn cadw pellter cymdeithasol ac yn parchu ei gilydd. Roeddwn wedi bod yn poeni am hynny ond fel yna’r oedd pawb yn ymddwyn hefyd wrth i fi newid trên yng Nghasnewydd a mynd ar drên mwy prysur i Bont-y-pŵl, felly cefais daith ddiogel a chyffyrddus. Y peth arall a’m trawodd wrth fynd ar y trên oedd y ffaith nad oedd yn rhaid i fi yrru a bod fy antur fel pe bai’n cychwyn o ddifrif yn syth. Wrth i fi eistedd a gwylio’r byd yn mynd heibio, medrais afael yn y llyfr tywys a’r mapiau a oedd gen i, bwrw golwg ar y llwybr a sgwrsio â’r criw am yr hyn a oedd o’n blaen, gan edrych ymlaen yn eiddgar at fwynhau golygfeydd cymoedd y de-ddwyrain.

 

Ein her gerdded

Mae’r cam hwn o Daith Cambria yn dechrau wrth ymyl y gatiau i Barc Pont-y-pŵl. Ar ôl cerdded ychydig o’r orsaf drenau, aethom drwy’r gatiau addurnedig hyn cyn dechrau dringo drwy’r parc i gyrraedd y groto cregyn hanesyddol. Buodd yn rhaid i’n hysgyfaint weithio’n galed wrth i ni ddringo ond roedd yr olygfa ar ôl cyrraedd yn werth yr ymdrech. Mae’r gefnen ar y top wrth ymyl y groto yn fan lle gallwch fwynhau golygfeydd eang dros Dorfaen a draw am Sir Fynwy yn ogystal ag i gyfeiriad Casnewydd a’r arfordir. Fel rheol, nid yw pobl yn meddwl am gymoedd y de-ddwyrain fel lle i ymweld ag ef, ac mae’r rhan hon o Daith Cambria yn bendant yn rheswm i dorri’r arfer hwnnw.

O Barc Pont-y-pŵl, mae’r llwybr yn dechrau dringo ac mae’r ffugadeilad sy’n adnabyddus yn lleol yn dod i’r golwg. Mae’r lle hwn unwaith eto’n cynnig golygfeydd godidog i gyfeiriad y dwyrain yn ogystal ag ar draws Torfaen, ac mae’n lle da i edmygu tirwedd ddramatig y cymoedd. Ar ôl ychydig o gerdded eto, mae Taith Cambria yn dechrau eich herio o ddifrif wrth i’r llwybr adael yr amgylchedd trefol a’ch tywys i’r gefnen wyllt; dyma lle byddwch yn croesi’n ôl ac ymlaen ar draws ffiniau sirol. Os ydych am ymestyn eich sgiliau cerdded, gall y rhan hon o’r llwybr gynnig yr her honno i chi heb fynd â chi’n rhy bell oddi wrth wareiddiad.

Wrth i ni gyrraedd Mynydd Garn-wen a thu hwnt, cawsom ein hudo gan yr harddwch a oedd o’n hamgylch wrth i ni ddechrau gweld byd natur yn adennill y dirwedd ôl-ddiwydiannol. Hawdd iawn fyddai credu ein bod wedi cyrraedd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn barod. Dechreuodd ein traed gwyno wrth i’r tir fynd yn drymach ac wrth i’r llystyfiant a oedd bob ochr i’r llwybr ei wneud yn gulach. Ond ni wnaeth hynny ein rhwystro ac aethom yn ein blaen i gyfeiriad maes parcio Fox Hunter i fwynhau cinio haeddiannol.

Erbyn hynny, roeddem yn y Parc Cenedlaethol a gwnaethom ymlwybro i fyny i gopa’r Blorens. Oddi yno, roedd modd i ni weld pen draw ein taith ni, sef y Fenni. Wrth i ni gerdded, roeddwn wedi bod yn meddwl sut y byddem yn mynd i lawr o gopa’r Blorens, oherwydd mae’n rhan o Daith Cambria sy’n ddiarhebol o anodd. Ar wahân i’r ffaith bod y tir yn eithriadol o serth, mae’r llwybr dan eich traed yn anodd i’w weld hefyd oherwydd bod y rhedyn yn dechrau tyfu. Wrth i ni gyrraedd y pwynt hwn, roeddwn yn synhwyro bod gan bob un ohonom ein hamheuon wrth i fi arwain y ffordd i greu llwybr clir. Diolch byth, wrth i bawb bwyllo a chymryd eu hamser, llwyddodd pob aelod o’r grŵp i gyrraedd y gwaelod yn ddiogel. Mae dod i lawr yn anodd ond mae yna olygfeydd trawiadol ar y ffordd i’ch ysbrydoli ac mae Pen-y-fâl i’w weld yn codi yn y pellter. Un peth arall gwych ynglŷn â mynd i’r afael â rhan debyg i hon o lwybr yw’r teimlad a gewch wrth edrych yn ôl i fyny ar eich man cychwyn.

 

Gorffen cerdded i lawr a throi am adre

Oddi yma, cawsom gyfle i fwynhau cerdded i lawr yn hamddenol drwy goetiroedd y gwanwyn, a oedd yn blaguro, ac ailymuno â’r byd trefol. Ond roedd yna un trysor arall yr oeddwn yn awyddus i’w ddangos i’r grŵp. Mae’r llwybr yn eich tywys dan Gamlas Sir Fynwy ac Aberhonddu, sy’n drawiadol ond sydd hefyd braidd yn ddychrynllyd. Fe welwch chi ddau dŷ wrth adael y coetiroedd, ac am eiliad dydych chi ddim yn siŵr ble’n union y mae’r llwybr. Ond mae yna bostyn sy’n eich cyfeirio dan y gamlas i’r tywyllwch. Mae braidd yn wlyb dan draed yn y twnnel ond mae gwybod bod yna gymaint o ddŵr uwch eich pen yn deimlad arbennig.

Wrth i ni gerdded y milltiroedd a oedd yn weddill i mewn i dref farchnad y Fenni, roedd pob un ohonom yn sicr yn teimlo ein bod wedi cyflawni her wrth gyflawni’r daith ac roeddem yn gallu ymlacio hefyd o wybod nad oedd yn rhaid i ni yrru adre. Nodir yn aml, ac yn gywir ddigon, bod cerdded yn ffordd o hybu eich iechyd meddwl a’ch iechyd corfforol, ond roedd effaith gadarnhaol y daith hon gymaint â hynny’n fwy oherwydd bod modd i ni ddal y trên a mwynhau taith gyffyrddus adre. Un peth a gaiff ei ddiystyru’n aml wrth drafod iechyd meddwl yw’r angen i neilltuo amser i fyfyrio am eich profiad yn yr awyr agored. Felly, wrth i ni deithio adre’n ddiymdrech cawsom amser i sgwrsio, chwerthin, cwyno am ein traed a chynllunio pennod nesaf ein hantur!

 

Diolch i Olie Wicks o Ramblers Cymru am yr erthygl hon

 

Os oes angen unrhyw help arnoch i gynllunio eich teithiau ar drafnidiaeth gyhoeddus i fan cychwyn ac o fan gorffen eich antur nesaf ar droed, cofiwch ddefnyddio Cynlluniwr Taith Traveline Cymru neu ffoniwch dîm ein canolfan gyswllt yn rhad ac am ddim ar 0800 464 00 00 rhwng 7am ac 8pm bob dydd. At hynny, mae gennym Gynlluniwr Cerdded a Chynlluniwr Beicio pwrpasol i’ch helpu i gynllunio eich llwybrau teithio llesol o amgylch Cymru.

Pob blog Rhannwch y neges hon