Blog

Sustrans-Cymru-how-ditching-the-car-can-help-protect-the-environment

Sustrans Cymru yn trafod… sut y gall cefnu ar y car helpu i warchod yr amgylchedd

15 Gorffennaf 2021

Wrth i’n ffyrdd dawelu yn ystod y pandemig Covid-19, gwnaeth llawer ohonom gynnwys dulliau teithio llesol yn rhan o’n trefn arferol o ddydd i ddydd. Er mwyn archwilio pwysigrwydd annog pobl i gerdded, beicio a defnyddio dulliau teithio cynaliadwy eraill wedi’r pandemig, rydym wedi ymuno â hen gyfaill i Traveline Cymru, Sustrans Cymru, i greu cyfres o erthyglau blog gan gyfrannwr gwadd. Mae’r gwaith hwn yn hollbwysig wrth i ni wynebu’r argyfwng hinsawdd parhaus ac ystyried y rôl y bydd teithio llesol a theithio aml-ddull yn ei chwarae yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod.

Un o’n prif nodau yn Sustrans Cymru yw lleihau dibyniaeth pobl ar geir. Wrth i bobl ddod yn fwyfwy ymwybodol o’r effaith y mae cerbydau modur yn ei chael ar yr argyfwng hinsawdd, gall newid y modd yr ydym yn teithio chwarae rhan bwysig o safbwynt helpu i warchod yr amgylchedd.

Cydnabyddir yn eang erbyn hyn y bydd y newid yn yr hinsawdd, a’i effeithiau ar ein bywyd o ddydd i ddydd, yn gwaethygu’n gyflym oni bai ein bod yn gwneud newidiadau mawr, systematig.   

Mae hynny’n gofyn am drawsnewid llawer o systemau mawr cymdeithas, er enghraifft o ran ynni, ffasiwn, bwyd a theithio. 

Dyma bum ffordd y gall dewis dulliau teithio cynaliadwy helpu i achub ein planed:

 

1. Lleihau llygredd aer

Mae cerbydau modur ar ein ffyrdd yn cyfrannu i lygredd aer oherwydd eu defnydd o danwydd. Mae’r llygredd y maent yn ei achosi’n cynnwys carbon deuocsid (CO2), nitrogen deuocsid a gronynnau.   

Mae’r rhain yn cael effaith ar ein hiechyd ni ac ar iechyd y blaned. 

Er enghraifft, mae CO2 yn cadw gwres yn ein hatmosffer. Po fwyaf y bydd ein hatmosffer yn cynhesu, yr anoddaf fydd hi i ni fyw’n iach ac yn hapus. 

Drwy ddewis cerdded, beicio neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i deithio, yn hytrach na defnyddio car preifat, rydych yn helpu i leihau llygredd aer.

 

2. Creu angen am fwy o fannau gwyrdd

Os bydd mwy o bobl yn cerdded neu’n beicio, bydd angen mwy o fannau didraffig arnom.

A bydd llawer o’r mannau hynny’n fannau gwyrdd – ardaloedd â choed, planhigion a bywyd gwyllt. Mae hynny’n bwysig i’r amgylchedd oherwydd mae coed a phlanhigion eraill yn cymryd rhywfaint o’r carbon deuocsid allan o’r aer.

Maent felly’n lleihau lefelau allyriadau carbon ac yn cynyddu’r aer glân sydd ar gael. 

Mae aer o ansawdd gwell a mannau gwyrdd, agored yn llesol nid yn unig i’r amgylchedd ond hefyd i’n hiechyd corfforol ni a’n hiechyd meddwl hefyd. 

Roedd medru mynd allan i’r awyr agored a gallu symud yn ddiogel o amgylch ardaloedd lleol yn bwysicach nag erioed yn ystod y pandemig Covid-19. 

Mae cynnydd yn y galw’n golygu y bydd llywodraeth leol yn gallu gweithio i ailddylunio ein dinasoedd a’n trefi er budd iechyd a diogelwch y gymuned.

 

3. Hybu bioamrywiaeth

Bioamrywiaeth yw nifer y planhigion a’r anifeiliaid, a’r mathau o blanhigion ac anifeiliaid, sy’n bodoli mewn ardal benodol. Mae’n cyfeirio at yr holl wahanol agweddau ar fywyd sy’n bodoli ar y ddaear, a’r modd y maent yn rhyngweithio â’i gilydd. 

Mae lefelau uchel o fioamrywiaeth yn hollbwysig am lawer o resymau. Mae ecosystem iach yn gyfrifol am ansawdd ac amrywiaeth ein bwyd, ac yn gyfrifol hefyd am ansawdd ein haer a’n dŵr.

Mae’r newid yn yr hinsawdd yn cael effaith fawr ar faint o fioamrywiaeth sydd gennym ar y ddaear. Wrth i’r blaned gynhesu ac wrth i’r tywydd fynd yn fwy anwadal, bydd llai o rywogaethau planhigion ac anifeiliaid yn gallu goroesi.  

Mae dechrau cerdded neu feicio ar gyfer nifer fwy o’n teithiau byrraf yn helpu i warchod bioamrywiaeth. Mae’n creu llai o sŵn a llygredd aer, a llai o allyriadau sy’n cynhesu’r atmosffer.  

 

 4. Lleihau llygredd sŵn

Llygredd sŵn yw synau nas dymunir neu synau sy’n aflonyddu, sy’n effeithio ar iechyd a lles pobl ac anifeiliaid.         

Mae astudiaethau’n dangos bod llygredd sŵn yn effeithio ar allu bywyd gwyllt lleol i oroesi.  

Rhaid i anifeiliaid newid eu hymddygiad a symud i leoliadau eraill er mwyn osgoi llygredd sŵn. Ac mae’r newidiadau hynny’n effeithio wedyn ar ein hamgylchedd yn ei gyfanrwydd. 

Pan fydd adar penodol yn gadael coedwig benodol, mae’n bosibl y bydd y goedwig honno’n dechrau dirywio. Mae hynny’n gysylltiedig â bioamrywiaeth, ac mae’n dangos y systemau naturiol cymhleth y mae eu hangen ar ein hamgylchedd. 

Mae cerdded, beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn helpu i leihau nifer y cerbydau modur sy’n defnyddio’r ffyrdd ac yn lleihau tagfeydd a sŵn injans.  

Mae llai o sŵn gan gerbydau a llai o draffig nad yw’n symud yn helpu bywyd gwyllt lleol i aros a ffynnu.

 

5. Ysbrydoli newid mewn ymddygiad

Mae dewis dulliau teithio mwy llesol a chynaliadwy’n cynnig manteision pwysig i ni fel unigolion. Mae parhau i wneud gweithgarwch corfforol yn dda i’n hiechyd corfforol, a gall helpu i wella ein hwyl a’n lles yn gyffredinol hefyd.

Pan fyddwch chi’n ymrwymo i ddefnyddio dulliau teithio cynaliadwy, bydd y bobl sydd o’ch amgylch yn gweld y gwahaniaeth yr ydych yn ei wneud. Drwy ysbrydoli eraill o’n hamgylch i gerdded a beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, byddwn yn dechrau creu ‘normal newydd’.

Wrth i fwy o bobl gefnu ar y car, byddwn yn helpu i greu momentwm a chreu galw am fynediad gwell i amgylcheddau diogel, cynaliadwy a didraffig.

 

Yn Traveline Cymru, rydym yn frwdfrydig ynglŷn â hyrwyddo manteision corfforol, meddyliol ac amgylcheddol cerdded a beicio. I’ch helpu i gynllunio eich siwrneiau gan ddefnyddio dulliau teithio llesol, gallwch ddefnyddio ein Cynllunwyr Cerdded a Beicio pwrpasol i weld eich llwybrau cerdded a beicio mwyaf cyfleus.

 

Diolch i Sustrans Cymru am yr erthygl hon.

Pob blog Rhannwch y neges hon