Blog

Traveline-Cymru-Summer-Holiday-Kids-Activity-Pack-2021

‘Pecyn o Weithgareddau Traveline Cymru ar gyfer Gwyliau’r Haf’ yn cynnwys 10 o weithgareddau difyr i blant eu mwynhau yn ystod yr haf

13 Awst 2021

O gemau geiriau a heriau darllen i ddyddiadur gwyliau a ryseitiau hawdd eu dilyn, bydd eich plant yn dwlu ar ein pecyn o weithgareddau difyr.

Wrth i fywyd ddychwelyd i ryw fath o normalrwydd, mae llawer ohonom yn mwynhau haf o ddiwrnodau allan a gwyliau yn y wlad hon ac yn treulio amser yn nes at adref gyda’n hanwyliaid. Er mwyn lleihau’r baich ryw ychydig a’ch helpu i ddifyrru’r plant yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf, rydym wedi creu ‘Pecyn o Weithgareddau Traveline Cymru ar gyfer Gwyliau’r Haf’ sy’n becyn newydd sbon.

P’un a ydych yn chwilio am weithgaredd ar gyfer prynhawn gwlyb gartref, yn chwilio am rywbeth gwahanol i’w wneud wrth fynd am dro fel teulu neu’n chwilio am gêm i’w chwarae ar daith hir (neu daith fer!), mae ein Pecyn o Weithgareddau wrth law i’ch helpu.

 

Dyma ragflas o’r cynnwys!

  • Gweithgaredd lliwio
  • Bingo mynd am dro yn yr haf
  • Addurno helmed
  • Gweld y gwahaniaeth
  • Creu geiriau trafnidiaeth
  • Her ddarllen yr haf
  • Rhestr ddarllen yr haf
  • Dyddiadur gwyliau
  • Rysáit fflapjacs banana
  • Rysáit cacennau creision ŷd siocled

Traveline-Cymru-Kids-Activity-Pack-Summer-2021-Colour-Welsh

Traveline-Cymru-Kids-Activity-Pack-Summer-2021-Greyscale-Welsh

Gallwch glicio ar y botymau isod i lawrlwytho eich pecyn gweithgareddau! Os hoffech ei argraffu, ond nad oes gennych beiriant argraffu gartref, gallwch fynd i’ch llyfrgell leol ac argraffu’r pecyn cyfan yno NEU ddewis argraffu rhai tudalennau’n unig neu sawl copi o un dudalen…beth bynnag sydd fwyaf addas i chi!

Byddem wrth ein bodd pe baech yn rhannu diweddariadau a lluniau ar gyfryngau cymdeithasol, sy’n dangos sut hwyl rydych chi a’ch teulu yn ei chael ar ddefnyddio ein pecyn gweithgareddau. Gallwch ein tagio yn eich lluniau ar Twitter a Facebook @TravelineCymru


Gobeithio y gwnewch chi fwynhau!

Pob blog Rhannwch y neges hon