
Ymunwch â Mis Rhyngwladol Cerdded i’r Ysgol ym mis Hydref eleni gyda Living Streets
01 Hydref 2021Ym mis Hydref eleni, mae Living Streets yn gofyn i ni ystyried yr effaith y mae llygredd traffig yn ei chael ar y newid yn yr hinsawdd ac ar yr amgylchedd naturiol.
Beth yw Mis Rhyngwladol Cerdded i’r Ysgol?
Ers 20 mlynedd, mae Living Streets wedi bod yn ymgyrchu er mwyn helpu mwy o blant i gerdded yn ddiogel yn ôl ac ymlaen i’r ysgol. Mae cerdded i’r ysgol nid yn unig yn gyfle i blant wneud gweithgarwch corfforol a datblygu eu sgiliau o ran diogelwch ar y ffyrdd; mae hefyd yn helpu i fynd i’r afael â thagfeydd, lleihau llygredd aer a lleihau’r perygl oherwydd traffig y tu allan i gatiau’r ysgol.
Er hynny, mae nifer y plant sy’n cerdded i’r ysgol wedi bod yn gostwng ers degawdau:
- Erbyn hyn, mae chwarter y ceir sydd ar ein ffyrdd yn ystod oriau brig y bore yn cludo plant i’r ysgol.
- Mae dros 2,000 o ysgolion a meithrinfeydd yng Nghymru a Lloegr o fewn 150 metr i ffordd lle mae llygredd aer wedi cyrraedd lefelau anghyfreithlon.
Bwriad Mis Rhyngwladol Cerdded i’r Ysgol yw cael plant a’u teuluoedd i gefnu ar y car a mwynhau manteision cerdded yn ôl ac ymlaen i’r ysgol. Drwy gyfres o heriau yn yr ysgol ac yng nghwmni ffrindiau, mae Living Streets yn gobeithio annog newid tymor hwy mewn ymddygiad, a fydd yn effeithio ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl plant, yn ogystal â’r amgylchedd.
Beth yw manteision cerdded yn ôl ac ymlaen i’r ysgol?
Mae manteision cerdded yn ôl ac ymlaen i’r ysgol bob dydd yn bellgyrhaeddol [i]:
- Ceir tystiolaeth dda i ddangos bod cerdded yn ôl ac ymlaen i’r ysgol yn cael effaith gadarnhaol ar weithgarwch corfforol plant, eu hiechyd a’u ffitrwydd.
- Dangoswyd bod cerdded yn lleihau’r tebygolrwydd o ddatblygu anhwylderau sy’n cynnwys pwysedd gwaed uchel, diabetes a phroblemau’n ymwneud â’r galon a’r ysgyfaint.
- Mae cynorthwyo plant i wneud mwy o weithgarwch corfforol o oedran ifanc yn cynyddu’r tebygolrwydd y byddant yn parhau i wneud gweithgarwch corfforol pan fyddant yn oedolion.
- Gellir hybu lles meddyliol plant drwy gerdded yn rheolaidd i’r ysgol, a bydd hefyd yn helpu i leihau’r straen ar rieni oherwydd nad oes yn rhaid iddynt yrru i’r ysgol.
- Gall cerdded i’r ysgol wella’r modd y mae plant yn canolbwyntio ac yn ymddwyn, a fydd yn cynorthwyo ysgolion i gyflawni’r canlyniadau dysgu gorau.
- Mae cerdded gyda rhieni a gofalwyr yn rhoi cyfle i blant ddysgu sgiliau o ran diogelwch ar y ffyrdd mewn amgylchedd rhyngweithiol a diogel. Bydd hefyd yn eu helpu i deimlo’n llai ofnus ynghylch teithio’n annibynnol pan fyddant yn hŷn.
- At hynny, bydd plant sy’n cerdded i’r ysgol yn rheolaidd yn teimlo bod ganddynt fwy o gysylltiad â’u cymunedau.
- Mae cerdded i’r ysgol yn helpu i leihau tagfeydd a lleihau perygl ar y ffyrdd o amgylch gatiau’r ysgol ac yn yr ardal gyfagos.
- Mae annog plant i gerdded i’r ysgol yn helpu i wella ansawdd yr aer y tu allan i gatiau’r ysgol ac yn yr ardal ehangach.
- Gall lleihau nifer y ceir sy’n cludo plant yn ôl ac ymlaen i’r ysgol helpu i wneud ein strydoedd yn fannau mwy diogel, llai llygredig a mwy pleserus.
Sut y galla’ i gymryd rhan?
1. Gadewch y car gartref a cherddwch yn ôl ac ymlaen i’r ysgol mor aml ag y gallwch yn ystod mis Hydref ac wedyn!
Mae Living Streets yn deall nad yw cerdded i’r ysgol mor hawdd ag y dylai fod bob amser i lawer o deuluoedd. Dyma ambell gyngor gan rieni a gofalwyr ledled y DU er mwyn helpu i sicrhau bod cerdded i’r ysgol yn weithgaredd syml nad yw’n achosi straen:
- Cymerwch gamau bach i ddechrau: Os yw amser braidd yn brin, ymrwymwch i gerdded un diwrnod yr wythnos neu gerdded rhan o’r ffordd. Yna, gallwch gynyddu faint yr ydych yn cerdded o’r naill wythnos i’r llall, yn dibynnu ar beth sy’n gweithio i chi ac i drefn arferol eich teulu.
- Cerdded adref yn unig: Hyd yn oed os nad yw cerdded i’r ysgol yn y bore’n ymarferol, gallwch bob amser gerdded adref. Mae’r bore yn gyfnod prysur iawn i lawer ohonom wrth i ni ruthro i ddeffro’r plant, eu bwydo, eu gwisgo a’u cael nhw allan drwy’r drws yn brydlon. Felly, beth am geisio cerdded adref yn lle hynny, pan fydd eich amserlen ychydig bach yn fwy hyblyg?
- Cymerwch eich tro gyda theuluoedd eraill: Cymerwch eich tro gyda ffrindiau i rannu’r cyfrifoldeb am gerdded yn ôl ac ymlaen i’r ysgol. Mae’n bosibl y bydd rhannu’r cyfrifoldeb a gorfod cerdded i’r ysgol yn llai aml yn eich helpu i deimlo ei fod yn rhywbeth y gallwch ei gyflawni. Mae hefyd yn llawer o hwyl i’r plant gerdded gyda’u ffrindiau!
I gael rhagor o gyngor, cymerwch olwg ar becyn cymorth Living Streets i deuluoedd sydd am gerdded i’r ysgol. Gallwch hefyd gynllunio’r llwybr mwyaf cyfleus ar gyfer cerdded yn ôl ac ymlaen i’r ysgol gan ddefnyddio Cynlluniwr Cerdded Traveline Cymru.
2. Cymerwch ran yn #WalkForTheWorld, sef her Living Streets ar gyfryngau cymdeithasol
Mae Living Streets wedi lansio her newydd wych o’r enw #WalkForTheWorld, y gall plant a’u teuluoedd gymryd rhan ynddi er mwyn nodi ei bod yn Fis Rhyngwladol Cerdded i’r Ysgol.
- Dewiswch anifail neu gynefin naturiol sydd mewn perygl oherwydd y newid yn yr hinsawdd, a cheisiwch gerdded, mynd ar eich sgwter neu’ch beic, neu barcio a cherdded i’r ysgol ym mis Hydref eleni er mwyn gwarchod yr anifail neu’r cynefin hwnnw.
- Ar Twitter neu Instagram (gan ddefnyddio’r hashnod #WalkForTheWorld), rhannwch â Living Streets yr anifail/cynefin yr ydych wedi dewis ei warchod a nodwch eich rheswm dros wneud hynny. Byddai Living Streets yn hoffi gweld eich lluniau, eich fideos, eich darluniau neu’ch gwisgoedd, felly byddwch yn greadigol!
- Mae’r cyfle hwn i ennill gwobrau ar gyfryngau cymdeithasol yn agored i bob ysgol a phob teulu yn y DU sydd â chyfrif ar gyfryngau cymdeithasol. Mae un neges yn gyfystyr ag un cyfle i ennill gwobr, felly cewch eich annog i gyhoeddi cymaint o negeseuon ag y gallwch, bob dydd yn ystod y mis hyd yn oed, gan ddewis anifail gwahanol er mwyn gwella eich siawns o ennill!
- Caiff 6 o wobrau eu cynnig: tair taleb gwerth £100 ar gyfer School Accounts er mwyn prynu adnoddau Cerdded i’r Ysgol Living Streets ar gyfer eich ysgol a thair taleb gwerth £100 gan frand dillad cynaliadwy i blant ar gyfer negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol o gyfrifon Rhiant/Gwarcheidwad.
I gael rhagor o wybodaeth a gweld y telerau a’r amodau yn llawn, ewch i wefan Living Streets.
3. Gofynnwch i’ch ysgol ymuno â Her Cerdded i’r Ysgol ‘WOW’
Cafodd her ‘WOW’ Living Streets ei lansio’n gynharach eleni. Mae’n fenter a arweinir gan ddisgyblion, lle bydd plant yn defnyddio adnodd rhyngweithiol WOW ar gyfer tracio teithiau i nodi sut y maent yn teithio i’r ysgol bob dydd. Os byddant yn defnyddio dull cynaliadwy o deithio (er enghraifft, yn cerdded neu’n mynd ar eu beic neu’u sgwter) unwaith yr wythnos am fis, byddant yn cael bathodyn.
Mae 1,200 o ysgolion yn cymryd rhan yn yr her mor belled, ac mae nifer y plant sy’n cerdded wedi cynyddu 23% ac mae nifer y teithiau mewn car wedi gostwng 30%.
Gallwch ofyn i’ch ysgol ymuno â her WOW yma.
[i] Cafwyd yr ystadegau a’r ffeithiau o adroddiad gan Living Streets, sef ‘School Run Report'.