Blog

Join-International-Walk-To-School-Month-October-2021-Living-Streets

Ymunwch â Mis Rhyngwladol Cerdded i’r Ysgol ym mis Hydref eleni gyda Living Streets

01 Hydref 2021

Ym mis Hydref eleni, mae Living Streets yn gofyn i ni ystyried yr effaith y mae llygredd traffig yn ei chael ar y newid yn yr hinsawdd ac ar yr amgylchedd naturiol.

 

Beth yw Mis Rhyngwladol Cerdded i’r Ysgol?

Ers 20 mlynedd, mae Living Streets wedi bod yn ymgyrchu er mwyn helpu mwy o blant i gerdded yn ddiogel yn ôl ac ymlaen i’r ysgol. Mae cerdded i’r ysgol nid yn unig yn gyfle i blant wneud gweithgarwch corfforol a datblygu eu sgiliau o ran diogelwch ar y ffyrdd; mae hefyd yn helpu i fynd i’r afael â thagfeydd, lleihau llygredd aer a lleihau’r perygl oherwydd traffig y tu allan i gatiau’r ysgol.

Er hynny, mae nifer y plant sy’n cerdded i’r ysgol wedi bod yn gostwng ers degawdau:

  • Erbyn hyn, mae chwarter y ceir sydd ar ein ffyrdd yn ystod oriau brig y bore yn cludo plant i’r ysgol.
  • Mae dros 2,000 o ysgolion a meithrinfeydd yng Nghymru a Lloegr o fewn 150 metr i ffordd lle mae llygredd aer wedi cyrraedd lefelau anghyfreithlon.

Bwriad Mis Rhyngwladol Cerdded i’r Ysgol yw cael plant a’u teuluoedd i gefnu ar y car a mwynhau manteision cerdded yn ôl ac ymlaen i’r ysgol. Drwy gyfres o heriau yn yr ysgol ac yng nghwmni ffrindiau, mae Living Streets yn gobeithio annog newid tymor hwy mewn ymddygiad, a fydd yn effeithio ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl plant, yn ogystal â’r amgylchedd.

 

Beth yw manteision cerdded yn ôl ac ymlaen i’r ysgol?

© Living Streets

Mae manteision cerdded yn ôl ac ymlaen i’r ysgol bob dydd yn bellgyrhaeddol [i]:

  • Ceir tystiolaeth dda i ddangos bod cerdded yn ôl ac ymlaen i’r ysgol yn cael effaith gadarnhaol ar weithgarwch corfforol plant, eu hiechyd a’u ffitrwydd.
  • Dangoswyd bod cerdded yn lleihau’r tebygolrwydd o ddatblygu anhwylderau sy’n cynnwys pwysedd gwaed uchel, diabetes a phroblemau’n ymwneud â’r galon a’r ysgyfaint.
  • Mae cynorthwyo plant i wneud mwy o weithgarwch corfforol o oedran ifanc yn cynyddu’r tebygolrwydd y byddant yn parhau i wneud gweithgarwch corfforol pan fyddant yn oedolion.
  • Gellir hybu lles meddyliol plant drwy gerdded yn rheolaidd i’r ysgol, a bydd hefyd yn helpu i leihau’r straen ar rieni oherwydd nad oes yn rhaid iddynt yrru i’r ysgol.
  • Gall cerdded i’r ysgol wella’r modd y mae plant yn canolbwyntio ac yn ymddwyn, a fydd yn cynorthwyo ysgolion i gyflawni’r canlyniadau dysgu gorau.
  • Mae cerdded gyda rhieni a gofalwyr yn rhoi cyfle i blant ddysgu sgiliau o ran diogelwch ar y ffyrdd mewn amgylchedd rhyngweithiol a diogel. Bydd hefyd yn eu helpu i deimlo’n llai ofnus ynghylch teithio’n annibynnol pan fyddant yn hŷn.
  • At hynny, bydd plant sy’n cerdded i’r ysgol yn rheolaidd yn teimlo bod ganddynt fwy o gysylltiad â’u cymunedau.
  • Mae cerdded i’r ysgol yn helpu i leihau tagfeydd a lleihau perygl ar y ffyrdd o amgylch gatiau’r ysgol ac yn yr ardal gyfagos.
  • Mae annog plant i gerdded i’r ysgol yn helpu i wella ansawdd yr aer y tu allan i gatiau’r ysgol ac yn yr ardal ehangach.
  • Gall lleihau nifer y ceir sy’n cludo plant yn ôl ac ymlaen i’r ysgol helpu i wneud ein strydoedd yn fannau mwy diogel, llai llygredig a mwy pleserus.

 

Sut y galla’ i gymryd rhan?

1. Gadewch y car gartref a cherddwch yn ôl ac ymlaen i’r ysgol mor aml ag y gallwch yn ystod mis Hydref ac wedyn!

Mae Living Streets yn deall nad yw cerdded i’r ysgol mor hawdd ag y dylai fod bob amser i lawer o deuluoedd. Dyma ambell gyngor gan rieni a gofalwyr ledled y DU er mwyn helpu i sicrhau bod cerdded i’r ysgol yn weithgaredd syml nad yw’n achosi straen:

  • Cymerwch gamau bach i ddechrau: Os yw amser braidd yn brin, ymrwymwch i gerdded un diwrnod yr wythnos neu gerdded rhan o’r ffordd. Yna, gallwch gynyddu faint yr ydych yn cerdded o’r naill wythnos i’r llall, yn dibynnu ar beth sy’n gweithio i chi ac i drefn arferol eich teulu.
  • Cerdded adref yn unig: Hyd yn oed os nad yw cerdded i’r ysgol yn y bore’n ymarferol, gallwch bob amser gerdded adref. Mae’r bore yn gyfnod prysur iawn i lawer ohonom wrth i ni ruthro i ddeffro’r plant, eu bwydo, eu gwisgo a’u cael nhw allan drwy’r drws yn brydlon. Felly, beth am geisio cerdded adref yn lle hynny, pan fydd eich amserlen ychydig bach yn fwy hyblyg?
  • Cymerwch eich tro gyda theuluoedd eraill: Cymerwch eich tro gyda ffrindiau i rannu’r cyfrifoldeb am gerdded yn ôl ac ymlaen i’r ysgol. Mae’n bosibl y bydd rhannu’r cyfrifoldeb a gorfod cerdded i’r ysgol yn llai aml yn eich helpu i deimlo ei fod yn rhywbeth y gallwch ei gyflawni. Mae hefyd yn llawer o hwyl i’r plant gerdded gyda’u ffrindiau!

I gael rhagor o gyngor, cymerwch olwg ar becyn cymorth Living Streets i deuluoedd sydd am gerdded i’r ysgol. Gallwch hefyd gynllunio’r llwybr mwyaf cyfleus ar gyfer cerdded yn ôl ac ymlaen i’r ysgol gan ddefnyddio Cynlluniwr Cerdded Traveline Cymru.

© Living Streets 

 2. Cymerwch ran yn #WalkForTheWorld, sef her Living Streets ar gyfryngau cymdeithasol

Mae Living Streets wedi lansio her newydd wych o’r enw #WalkForTheWorld, y gall plant a’u teuluoedd gymryd rhan ynddi er mwyn nodi ei bod yn Fis Rhyngwladol Cerdded i’r Ysgol.

  • Dewiswch anifail neu gynefin naturiol sydd mewn perygl oherwydd y newid yn yr hinsawdd, a cheisiwch gerdded, mynd ar eich sgwter neu’ch beic, neu barcio a cherdded i’r ysgol ym mis Hydref eleni er mwyn gwarchod yr anifail neu’r cynefin hwnnw.
  • Ar Twitter neu Instagram (gan ddefnyddio’r hashnod #WalkForTheWorld), rhannwch â Living Streets yr anifail/cynefin yr ydych wedi dewis ei warchod a nodwch eich rheswm dros wneud hynny. Byddai Living Streets yn hoffi gweld eich lluniau, eich fideos, eich darluniau neu’ch gwisgoedd, felly byddwch yn greadigol!
  • Mae’r cyfle hwn i ennill gwobrau ar gyfryngau cymdeithasol yn agored i bob ysgol a phob teulu yn y DU sydd â chyfrif ar gyfryngau cymdeithasol. Mae un neges yn gyfystyr ag un cyfle i ennill gwobr, felly cewch eich annog i gyhoeddi cymaint o negeseuon ag y gallwch, bob dydd yn ystod y mis hyd yn oed, gan ddewis anifail gwahanol er mwyn gwella eich siawns o ennill!
  • Caiff 6 o wobrau eu cynnig: tair taleb gwerth £100 ar gyfer School Accounts er mwyn prynu adnoddau Cerdded i’r Ysgol Living Streets ar gyfer eich ysgol a thair taleb gwerth £100 gan frand dillad cynaliadwy i blant ar gyfer negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol o gyfrifon Rhiant/Gwarcheidwad.

I gael rhagor o wybodaeth a gweld y telerau a’r amodau yn llawn, ewch i wefan Living Streets.

 

3. Gofynnwch i’ch ysgol ymuno â Her Cerdded i’r Ysgol ‘WOW’

Cafodd her ‘WOW’ Living Streets ei lansio’n gynharach eleni. Mae’n fenter a arweinir gan ddisgyblion, lle bydd plant yn defnyddio adnodd rhyngweithiol WOW ar gyfer tracio teithiau i nodi sut y maent yn teithio i’r ysgol bob dydd. Os byddant yn defnyddio dull cynaliadwy o deithio (er enghraifft, yn cerdded neu’n mynd ar eu beic neu’u sgwter) unwaith yr wythnos am fis, byddant yn cael bathodyn.

Mae 1,200 o ysgolion yn cymryd rhan yn yr her mor belled, ac mae nifer y plant sy’n cerdded wedi cynyddu 23% ac mae nifer y teithiau mewn car wedi gostwng 30%.

Gallwch ofyn i’ch ysgol ymuno â her WOW yma.

 

[i] Cafwyd yr ystadegau a’r ffeithiau o adroddiad gan Living Streets, sef ‘School Run Report'.

Pob blog Rhannwch y neges hon