Blog
Traveline-Cymru-COP26-Welsh-Transport-Industry-Blog

COP26: Sut y gall y sector trafnidiaeth yng Nghymru a’n harferion teithio helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd

29 Hydref 2021

Mae effaith gynyddol y newid yn yr hinsawdd i’w theimlo’n barhaus ledled y byd, wrth i amlder a difrifoldeb cyfnodau o dywydd eithafol gynyddu ac wrth i ni weld effeithiau hynny ar bobl a bywyd gwyllt. Mae angen gweithredu ar frys, a bydd yr angen hwnnw’n cael sylw amlwg yn ystod cynhadledd COP26 a gynhelir yn Glasgow rhwng 31 Hydref a 12 Tachwedd 2021.

Rydym wedi gofyn i sefydliadau allweddol o bob rhan o’r sector trafnidiaeth yng Nghymru sut y maent yn credu y gall y diwydiant hybu’r nodau a amlinellwyd er mwyn mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, a beth y mae hynny’n ei olygu yn ymarferol i’r sector trafnidiaeth yng Nghymru. Diolch i gynrychiolwyr o Traveline Cymru, Trafnidiaeth Cymru, y Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr, y Gymdeithas Cludiant Cymunedol a Sustrans Cymru am gyfrannu i’r blog hwn.

 

 

Beth yw COP26?

COP26 yw 26ain gynhadledd y Cenhedloedd Unedig ynghylch y newid yn yr hinsawdd. Bydd yn cael ei chynnal yn Glasgow rhwng 31 Hydref a 12 Tachwedd 2021.

Mae’r gynhadledd yn gyfle i arweinwyr y byd, trafodwyr, cynrychiolwyr llywodraethau, busnesau a dinasyddion ddod at ei gilydd i gytuno ar gamau gweithredu a gymerir ar y cyd yn y frwydr yn erbyn y newid yn yr hinsawdd. Cafodd y gynhadledd ddiwethaf ei chynnal ym Mharis yn 2015, ac arweiniodd at lunio Cytundeb Paris. Dan y darn pwysig hwnnw o ddeddfwriaeth ymrwymodd pob gwlad i gyflwyno cynlluniau cenedlaethol a fyddai’n egluro faint y byddent yn lleihau eu hallyriadau, gan ymrwymo i ddiweddaru’r cynlluniau hynny bob 5 mlynedd.

Bydd angen i COP26 esgor ar ymrwymiadau mwy uchelgeisiol fyth er mwyn sicrhau bod modd i godiadau mewn tymheredd gael eu cyfyngu o hyd i 1.5 gradd, a bydd angen hefyd iddi esgor ar dargedau lleihau allyriadau sy’n ein galluogi i gyrraedd sefyllfa sero-net erbyn canol y ganrif.

 

 

Beth yw effaith trafnidiaeth ar y newid yn yr hinsawdd?

Mae trafnidiaeth ar y ffyrdd yn gyfrifol am 10% o allyriadau byd-eang, ac mae allyriadau’r sector yn cynyddu’n gynt nag allyriadau unrhyw sector arall. Er mwyn cyrraedd nodau Cytundeb Paris, mae angen i’r gwaith o symud i gerbydau heb allyriadau (sy’n cynnwys ceir, faniau, bysiau, tryciau a lorïau) ddigwydd yn gynt o lawer.

Yn ogystal ag ystyried y mathau o gerbydau a gaiff eu defnyddio, mae angen hefyd i ni ystyried effaith ein harferion teithio fel unigolion. Yn gynharach eleni, lansiodd Llywodraeth Cymru ddogfen o’r enw ‘Llwybr Newydd – strategaeth drafnidiaeth Cymru’, sy’n ymrwymo i greu system drafnidiaeth hygyrch ac effeithlon sy’n lleihau dibyniaeth pobl ar geir. Mae prif dargedau’r strategaeth yn cynnwys:

  • Dod â gwasanaethau at bobl er mwyn lleihau’r angen i deithio. Mae hynny’n golygu mwy o wasanaethau lleol fel nad oes angen i bobl ddefnyddio eu car bob dydd.
  • Hybu gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus sy’n galluogi pobl i gyrraedd y mannau y maent am deithio iddynt, ar yr adeg y maent am deithio iddynt. Mae angen i’r gwasanaethau hynny fod yn ddeniadol ac yn fforddiadwy hefyd.
  • Creu seilwaith da sy’n ei gwneud yn haws i bobl gerdded, beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

 

 

Beth yw barn pobl o bob rhan o’r sector trafnidiaeth yng Nghymru?

Isod ceir cyfres o gyfraniadau gan gynrychiolwyr o bob rhan o’r sector trafnidiaeth yng Nghymru am dargedau COP26 yng nghyswllt yr hinsawdd, ar gyfer y sector trafnidiaeth, ac am y rôl sydd gan Lywodraeth Cymru, y diwydiant ehangach a’u sefydliadau a’r rôl sydd gennym ni fel unigolion i’w chwarae:

 

Jo Foxall, Rheolwr Gyfarwyddwr Traveline Cymru

Gwasanaeth gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus yw Traveline Cymru, a gaiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â gweithredwyr ac awdurdodau lleol i ddarparu gwybodaeth am wasanaethau bws a thrên ledled Cymru yn ogystal â llwybrau cerdded a beicio.

Cyn COP26 ac wrth ystyried yr argyfwng hinsawdd a gafodd ei ddatgan yn y Senedd ym mis Mai 2019, rydym wedi bod yn meddwl llawer am y rôl y mae trafnidiaeth gyhoeddus yn ei chwarae o safbwynt datrys yr argyfwng. Rydym hefyd wedi bod yn archwilio sut y gallwn ni yn Traveline Cymru gynorthwyo’r cyhoedd sy’n teithio a gweithredwyr trafnidiaeth i gyflawni’r newid sy’n angenrheidiol er mwyn gwneud gwahaniaeth go iawn i’n dyfodol.

Yng Nghymru, dim ond dau sector arall sy’n cynhyrchu mwy o allyriadau carbon na’r sector trafnidiaeth. Y sector ynni a’r sector diwydiant yw’r ddau sector hynny. O fewn y sector trafnidiaeth, mae ceir yn gyfrifol am 55% o holl allyriadau trafnidiaeth yng Nghymru[1]. Er bod effaith Covid-19 wedi bod yn ddinistriol mewn cynifer o ffyrdd, un llygedyn bach o obaith oedd bod llai o geir ar ein ffyrdd. Gwelodd pob un ohonom fideos o hwyaid yn mynd am dro ar hyd strydoedd heb geir, a geifr yn crwydro mewn mannau lle byddai’n amhosibl iddynt wneud hynny fel arfer oherwydd y traffig. Wrth i ni ddychwelyd yn araf bach i ryw fath o normalrwydd, mae’n hollbwysig nad ydym yn derbyn adferiad lle rhoddir blaenoriaeth i deithio mewn car, a’n bod yn manteisio ar y cyfle hwn i gyfrannu i newid sydd mor angenrheidiol.

Mae gweithredwyr trafnidiaeth yng Nghymru a Trafnidiaeth Cymru wedi buddsoddi llawer o arian yn eu fflyd er mwyn darparu gwasanaethau sy’n ddiogel, yn lân ac yn gyffyrddus, gan alluogi pobl i deithio o ddydd i ddydd. Mae sawl gweithredwr bysiau yng Nghymru wedi buddsoddi mewn cerbydau trydan er mwyn hybu ymhellach ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau sector cyhoeddus carbon niwtral erbyn 2030.

Yn Traveline Cymru, rydym yn gwybod mai un ffactor allweddol ar gyfer sicrhau newid mewn arferion teithio yw hyder pobl i deithio. Mae gwybodaeth ac adnoddau cynllunio taith sydd ar gael yn hwylus yn hollbwysig er mwyn rhoi hyder i bobl newid eu harferion teithio a rhoi cynnig ar ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. I’r perwyl hwnnw, rydym yn ymrwymo i barhau i weithio gyda’n cwsmeriaid a’n partneriaid yn y diwydiant trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn sicrhau ein bod yn darparu gwybodaeth o safon ac yn hybu newid.


[1] llwybr-allyriadau-sector-trafnidiaeth-taflen-ffeithiau.pdf (llyw.cymru)

 

 

Colin Lea, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad yn Trafnidiaeth Cymru

Cafodd grŵp Trafnidiaeth Cymru ei greu gan Lywodraeth Cymru yn gwmni dielw dan berchnogaeth lwyr. Yn rhan o grŵp Trafnidiaeth Cymru, ym mis Chwefror 2021, cafodd Transport for Wales Rail (Ltd) ei sefydlu i fod yn gyfrifol am redeg rhwydwaith rheilffyrdd Cymru a’r Gororau.

Yn Trafnidiaeth Cymru, rydym yn gweithio i sicrhau bod trafnidiaeth yng Nghymru yn fwy cynaliadwy ac yn fwy addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Bydd y gwelliannau yr ydym yn eu gwneud heddiw yn cynorthwyo Llywodraeth Cymru i gyrraedd targedau uchelgeisiol Cymru ar gyfer datgarboneiddio, a byddant hefyd yn gwella iechyd corfforol ac iechyd meddwl y bobl sy’n byw ym mhob cwr o Gymru. Rydym wedi ymrwymo i hybu gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch o safon y gall pobl Cymru fod yn falch ohono.

Wrth wneud hynny, rydym hefyd yn gweithio’n rhagweithiol i fynd i’r afael â’r problemau ac i weithredu ar sail yr uchelgeisiau a nodwyd ar gyfer COP26, er mwyn cyflymu camau i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd drwy sicrhau bod cydweithio’n digwydd rhwng llywodraethau, busnesau a’r gymdeithas sifil. Rydym wedi ymrwymo i gyflawni ein cylch gorchwyl gan Lywodraeth Cymru, sef sicrhau bod ein gweithrediadau trafnidiaeth yn cyrraedd sefyllfa sero-net erbyn 2030.

Rydym wrthi’n gweithio ar ein Cynllun Addasu i’r Newid yn yr Hinsawdd ac wrthi’n datblygu ein Llwybr at Sefyllfa Sero-net, a fydd yn dangos sut y byddwn yn mynd i’r afael â’r problemau a nodwyd yn adroddiad yr IPCC a sut y byddwn yn ymateb i’r her sy’n ymwneud â chyfyngu ar gynhesu byd-eang. Bydd cydweithio rhyngom ni, Llywodraeth Cymru, sefydliadau’r sector cyhoeddus a darparwyr rhwydwaith eraill sy’n rhan o’r seilwaith yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod risgiau cymhleth yn cael eu hasesu a bod eu heffaith yn cael ei lleihau, a sicrhau bod gennym y modd i ariannu a chyflawni addasiadau yng nghyswllt y newid yn yr hinsawdd.

Er ein bod wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r newid yn yr hinsawdd, drwy addasu a thrwy gynllunio cydnerthedd, bydd heriau sylweddol ynghlwm wrth hynny. Mae’r newid yn yr hinsawdd eisoes yn cael effaith wirioneddol ar y tywydd, fel yr ydym wedi gweld yn sgil y stormydd digynsail yr ydym wedi’u profi yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Bydd angen i ni ddod i arfer â’r ffaith mai dyma fydd y ‘norm newydd’.

Felly, mae’n hanfodol sicrhau bod cysylltiad annatod rhwng ein hymrwymiad i sicrhau sefyllfa sero-net a’n hymrwymiad i ddatgarboneiddio, bod buddsoddiadau mewn addasu’n cael eu hystyried o safbwynt yr angen i anelu at sefyllfa sero-net a bod asesiad risg o ran y newid yn yr hinsawdd yn cael ei gynnal, yng nghyswllt pob prosiect datgarboneiddio.

 

 

Josh Miles, Cyfarwyddwr Cymru yn y Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr

Y Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr yw llais y sector bysiau, ac mae’n dod â thros 1,000 o weithredwyr bysiau ynghyd ar draws y DU. Mae timau’r Cydffederasiwn yn gweithio gyda’i aelodau yn lleol ac yn genedlaethol i’w helpu i sicrhau’r amgylchedd gweithredu gorau posibl.

Cyn COP26, gofynnodd y Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr i amryw weinidogion trafnidiaeth y DU rannu eu barn am rôl y sector bysiau wrth i’r DU anelu at sefyllfa sero-net. Disgrifiodd Lee Waters, ein Dirprwy Weinidog ni, yr her yn ei ffordd ddi-flewyn-ar-dafod ei hun. Dyma oedd ganddo i’w ddweud:

“Nid rhywbeth dewisol yw newid; fe fydd newid yn digwydd. Y dewis sydd gennym yw hyn: a ydym am adael i’r newid hwnnw ddigwydd i ni neu a ydym am geisio achub y blaen arno a’i lunio.”

Mae newid yn digwydd yn barod yn y sector bysiau. Er gwaetha’r heriau ariannol ac ymarferol amlwg, mae cerbydau heb allyriadau yn troi o fod yn rhywbeth newydd i fod yn rhywbeth normal. Ond ni fydd dechrau defnyddio cerbydau heb allyriadau a gwneud dim byd arall yn ein galluogi i gyrraedd sefyllfa sero-net. Mae mathau o drafnidiaeth nad ydynt yn golygu hedfan yn gyfrifol am 14% o holl allyriadau Cymru, ac mae ein hallyriadau fesul unigolyn yn uwch na’r cyfartaledd ar gyfer y DU.[1] Mae’r rhan fwyaf o’r allyriadau hynny’n deillio o’r defnydd a wneir o geir preifat, a dyna lle mae cyfle go iawn i sicrhau newid.

Os ydym am lunio’r newid, mae gofyn i ni leihau’r angen i ddefnyddio ceir preifat ac mae gofyn i ni gynyddu’r defnydd a wneir o ddulliau teithio cynaliadwy, megis trafnidiaeth gyhoeddus neu ddulliau teithio llesol. Mae Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd yn amcangyfrif bod angen i ni gael un o bob deg taith mewn car i fod yn daith mewn bws, os ydym am allu cyrraedd ein targedau ar draws y DU.[2]

At hynny, mae 6 yn unig o deithiau ychwanegol mewn bws gan bawb bob blwyddyn yn gyfwerth â throi’r fflyd gyfan o fysiau yn fflyd heb allyriadau, a gallai cynnydd o 15% yn nifer y teithiau y mae pobl Prydain yn eu gwneud mewn bysiau moethus bob blwyddyn arbed dros chwarter miliwn tunnell o garbon deuocsid.

I wneud hynny, mae arnom angen y cyfuniad cywir o bolisïau a’r cyfuniad cywir o ddulliau gwthio a dulliau denu. Dylai dulliau denu olygu cynnig trafnidiaeth fwy deniadol i deithwyr, buddsoddi yn ein rhwydwaith bysiau, ailneilltuo lle i fysiau ar ein ffyrdd, gwella gwybodaeth i deithwyr a gwneud yn fawr o dwristiaeth mewn bysiau moethus fel cynnig cynaliadwy. Mae dulliau gwthio’n anos yn wleidyddol, ond rhaid iddynt gynnwys mesurau i annog pobl i beidio â defnyddio eu car, er enghraifft ardollau parcio mewn gweithleoedd neu daliadau atal tagfeydd, gyda’r arian yn cael ei fuddsoddi’n ôl mewn trafnidiaeth gyhoeddus. Gyda’i gilydd, bydd y dulliau gwthio a denu yn peri i bobl newid eu dulliau teithio a byddant yn ein helpu i lunio’r newid tuag at sefyllfa sero-net.


[1] https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2021-03/y-llwybr-i-gymru-sero-net-adroddiad-cyngor.pdf
[2] https://www.cpt-uk.org/blogs/the-role-of-bus-and-coach-in-the-journey-to-net-zero/

 

 

Gemma Lelliot, Cyfarwyddwr Cymru yn y Gymdeithas Cludiant Cymunedol

Elusen genedlaethol yw’r Gymdeithas Cludiant Cymunedol, sy’n cynrychioli ac yn cynorthwyo darparwyr cludiant cymunedol, sef miloedd o elusennau lleol a grwpiau cymunedol ar draws y DU sydd i gyd yn darparu gwasanaethau trafnidiaeth sy’n cyflawni diben cymdeithasol ac yn sicrhau budd i’r gymuned.

Mae a wnelo cludiant cymunedol â gwasanaethau trafnidiaeth hygyrch, cynhwysol a dielw sy’n cael eu llunio gan ystyried anghenion y gymuned ac sy’n galluogi pobl ledled Cymru i gynnal cysylltiadau a chael cymorth. Mae gweithredwyr cludiant cymunedol yn effro i’r heriau y maent yn eu hwynebu o safbwynt cynaliadwyedd amgylcheddol, ac mewn digwyddiad yn ddiweddar a oedd yn ymwneud â COP26 gwnaethant esbonio eu cynlluniau a’u hanghenion o ran cymorth er mwyn mynd i’r afael â thargedau heriol y Cenhedloedd Unedig ar gyfer lleihau carbon.

Yn sgil natur annisgwyl cyfnodau o dywydd eithafol, sy’n aml yn cael effaith anghymesur ar gymunedau gwledig ac arfordirol ac ar gymunedau â lefelau incwm isel, bydd pwysigrwydd gwasanaethau a arweinir gan y gymuned yn siŵr o dyfu wrth i effeithiau’r newid yn yr hinsawdd fynd yn fwyfwy pellgyrhaeddol. Mae ein haelodau o’r farn bod modd cyflawni llawer o amcanion allweddol o gael llywodraeth i rymuso cymunedau lleol ymhellach. Dylai cymunedau gael yr adnoddau, y cyllid a’r grym i fynd i’r afael â materion cymhleth sy’n ymwneud â’r argyfwng hinsawdd, mewn ffyrdd sy’n gweithio i drigolion lleol yn y tymor byr a’r tymor hir.

Er bod cynorthwyo teithwyr i allu defnyddio trafnidiaeth gynaliadwy, ddigarbon yn amcan allweddol i Lywodraeth Cymru, dim ond rhan o unrhyw ateb posibl yw cerbydau trydan newydd. Drwy gynnig ystod o opsiynau trafnidiaeth sy’n gynaliadwy, sy’n cael eu rhannu ac sy’n canolbwyntio ar y gymuned, bydd gan bobl gyfle i roi’r gorau i fod yn berchen ar gerbyd preifat a chyfle i ddechrau ymuno â chlybiau ceir, llogi beiciau trydan, a defnyddio ceir a bysiau cymunedol y bwriedir iddynt fod yn hygyrch ac yn gynhwysol ac a fydd yn cael eu gwefru gan ynni gwyrdd a gynhyrchir yn y fan a’r lle. Mae’r sector cludiant cymunedol yn barod i gynorthwyo’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu i newid eu meddylfryd a newid eu harferion teithio.

 

 

Alice Bailey, Swyddog Cymorth yn Sustrans Cymru

Elusen yw Sustrans, sy’n ei gwneud yn haws i bobl gerdded a beicio. Mae’n cysylltu pobl a lleoedd â’i gilydd, yn creu cymdogaethau y mae modd byw ynddynt, yn trawsnewid y modd y mae pobl yn teithio’n ôl ac ymlaen i’r ysgol, ac yn cynnig dull mwy hapus ac iach o deithio’n ôl ac ymlaen i’r gwaith.

Yn Sustrans, mae gennym weledigaeth ar gyfer cymdeithas lle mae’r modd yr ydym yn teithio’n creu lleoedd mwy iach a bywydau mwy hapus. Rydym am weld byd lle mae trafnidiaeth gynaliadwy a dulliau teithio llesol yn cysylltu pobl â’i gilydd, lle nad yw bod heb gar yn effeithio ar eich gallu i gael eich cynnwys yn y gymdeithas. Mae dulliau teithio llesol yn cael effaith fawr ar ansawdd ein bywyd ac ar ansawdd y byd yr ydym yn byw ynddo.

Mae targedau COP26 ar gyfer lleihau allyriadau trafnidiaeth yn annhebygol o gael eu cyrraedd oni bai ein bod yn dechrau rhoi’r gorau i raddau helaeth i ddefnyddio cerbydau modur. Mae ein hymchwil yn dangos y gall y sawl sy’n dechrau beicio yn lle gyrru car ar gyfer un daith yn unig bob dydd leihau eu hôl troed carbon gymaint â 0.5 tunnell mewn blwyddyn. At hynny, pe bai 10% yn unig o’r boblogaeth yn newid eu harferion teithio fel hyn, byddai’r allyriadau a fyddai’n cael eu harbed yn cyfateb i oddeutu 4% o’r allyriadau CO2 cylch bywyd sy’n deillio o bob taith mewn car. [1]

Mae angen i’r newid gael ei arwain drwy esiampl. Ni allwn ddisgwyl i bobl wneud newidiadau os nad ydym ni ein hunain yn eu gwneud hefyd. Wrth siarad mewn digwyddiad o’r enw Climate Cymru yn y Senedd bu Christine Boston, Cyfarwyddwr Sustrans Cymru, yn siarad yn uniongyrchol ag Aelodau’r Senedd ac yn eu hannog i wneud newidiadau eu hunain:

“Mae angen i chi drawsnewid trafnidiaeth, a sicrhau mai trafnidiaeth gyhoeddus a dulliau teithio llesol yw’r dewis cyntaf ar gyfer teithiau pob dydd.”

Gall dulliau teithio llesol ar gyfer teithiau pob dydd, er enghraifft teithio i’r ysgol neu’r gwaith, gael effaith fwy pellgyrhaeddol nag yr ydych efallai’n ei feddwl. Yn ystod pythefnos y Big Pedal, sef cystadleuaeth fwyaf y DU rhwng ysgolion ym maes teithio llesol, llwyddodd ysgolion ledled Cymru i wneud cyfanswm o 110,000 o deithiau llesol. Cymerodd 28,000 o ddisgyblion mewn 101 o ysgolion yng Nghymru ran drwy deithio neu fynd ar eu beic neu’u sgwter i’r ysgol, gan arbed tua 190,000 o deithiau mewn car. Pe bai’r canlyniad hwn yn cael ei ailadrodd ar raddfa fwy fyth, byddai modd i ni wneud gwahaniaeth go iawn yng Nghymru.

Mae mesurau gwleidyddol i annog a hwyluso teithiau llesol, yn ogystal ag arwain drwy esiampl, yn angenrheidiol er mwyn gwneud gwahaniaeth go iawn. Mae angen i bob un ohonom roi’r gorau i siarad a dechrau gweithredu, neu ddechrau cerdded neu feicio! Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae, a rhaid i bob un ohonom weithredu. 


[1] Walking, cycling and e-biking can help to mitigate climate change - Sustrans.org.uk

 

Gallwch fynd i wefan COP26 i gael gwybod mwy am y gynhadledd, a gallwch fynd i wefan Llywodraeth Cymru i gael rhagor o fanylion am ‘Llwybr Newydd – strategaeth drafnidiaeth Cymru’. At hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ei chynllun sero-net yn ddiweddar, sy’n dangos sut y bydd yn rhoi Cymru ar y llwybr tuag at sefyllfa sero-net erbyn 2050.

 

Pob blog Rhannwch y neges hon