Blog

6-Nations-2022-Travel-Safety-Blog

Pencampwriaeth y 6 Gwlad 2022: Chwe chyngor ar gyfer teithio’n ddiogel o gwmpas Caerdydd ar ddiwrnod gêm

03 Chwefror 2022

Mae Pencampwriaeth flynyddol y 6 Gwlad, sy’n cael ei chynnal am y 23ain tro eleni, ar fin dechrau! Bydd Cymru, Lloegr, Iwerddon, yr Alban, Ffrainc a’r Eidal yn brwydro mewn gemau ffyrnig yn erbyn ei gilydd dros gyfnod o 6 wythnos er mwyn ceisio cael eu coroni’n bencampwyr 2022. Bydd y gyfres yn dechrau ar 5 Chwefror yn Nulyn ac yn gorffen ym Mharis ar 19 Mawrth.

Mae disgwyl y bydd degau o filoedd o bobl yn mynd i’r gemau yng Nghaerdydd, felly bydd gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy prysur nag arfer. Rydym wedi creu rhestr o’n prif gynghorion ar gyfer teithio’n ddiogel o gwmpas Caerdydd ar ddiwrnod gêm, sy’n cyd-fynd â’r mesurau diogelwch sydd ar waith ar hyn o bryd oherwydd Covid-19.

Os byddwch yn mynd i un o’r gemau, bydd angen i chi ddarparu ffurflen wedi’i chymeradwyo gan y llywodraeth (Pàs Covid) fel prawf eich bod wedi cael dau frechiad neu, os nad ydych wedi cael dau frechiad, prawf eich bod wedi cael Prawf Llif Unffordd (LFT) negatif yn ystod y 48 awr cyn y digwyddiad. Ewch i wefan Stadiwm Principality i weld y canllawiau yn llawn.

 

1. Cynlluniwch ymlaen llaw!

Bydd tair gêm yn digwydd yn Stadiwm Principality, Caerdydd yn ystod Pencampwriaeth y 6 Gwlad:

Bydd holl ffyrdd canol y ddinas ar gau ar gyfer pob digwyddiad er mwyn helpu i sicrhau diogelwch cefnogwyr rygbi a phobl eraill a fydd yn ymuno yn y dathliadau. Mae hynny’n golygu y bydd gwasanaethau gweithredwyr bysiau yn wahanol i’r arfer (er enghraifft, byddant yn defnyddio arosfannau gwahanol ac yn cael eu dargyfeirio). At hynny, er mwyn sicrhau diogelwch y torfeydd, bydd systemau ciwio ar waith yng ngorsaf Caerdydd Canolog ar ôl y gêm.

Er mwyn sicrhau bod eich taith mor hwylus a diogel ag sy’n bosibl, byddem yn eich cynghori’n daer i gynllunio eich taith ymlaen llaw. Gallwch wneud hynny drwy ein Cynlluniwr Taith a’n tudalen Amserlenni, ond cofiwch fynd hefyd i’n tudalen bwrpasol ar gyfer Problemau Teithio adeg Pencampwriaeth y 6 Gwlad i weld pa arosfannau amgen y bydd eich gwasanaeth(au) yn eu defnyddio. Byddwn yn parhau i ddiweddaru’r dudalen honno wrth i ni gael rhagor o wybodaeth gan weithredwyr.

Nodyn atgoffa pwysig: Bydd unrhyw newidiadau byr rybudd a gawn gan weithredwyr i amserlenni’n cael eu hychwanegu at ein ‘Diweddariadau Byr Rybudd am Wasanaethau’.

 

2. Ailwiriwch fanylion eich taith ar y diwrnod

Oherwydd effaith barhaus prinder gyrwyr ar draws y diwydiant trafnidiaeth, mae’n bosibl y bydd rhai gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yn cael eu newid neu’u canslo ar y diwrnod. Byddwn yn aildrydar unrhyw ddiweddariadau gan weithredwyr ar ein tudalen Twitter @TravelineCymru o 7am tan 8pm. Mae hynny’n golygu y bydd modd i chi gael y manylion diweddaraf am unrhyw newidiadau i wasanaethau, na ellid bod wedi’u rhagweld.

P’un a fyddwch yn mynd i’r gêm, yn ei gwylio mewn tafarn neu’n crwydro o gwmpas Caerdydd, byddem yn eich cynghori hefyd i neilltuo digon o amser ar gyfer eich taith ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae’n debygol y bydd yna lawer o dagfeydd o gwmpas Caerdydd ac y bydd gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy prysur nag arfer hefyd.

 

3. Cofiwch eich masg cyn dechrau ar eich taith

Yng Nghymru, rhaid i chi wisgo gorchudd wyneb drwy gydol eich taith ar drafnidiaeth gyhoeddus, oni bai eich bod wedi eich eithrio. Dyna’r gyfraith. Mae hwn yn fesur pwysig i helpu i ddiogelu’r sawl sy’n agored i niwed oherwydd y Coronafeirws.

Rhaid i chi wisgo eich gorchudd wyneb:

  • Pan fyddwch yn mynd i mewn i unrhyw gerbydau trafnidiaeth gyhoeddus ac yn teithio ynddynt (gan gynnwys tacsis)
  • Pan fyddwch yn mynd i mewn i faes parcio gorsaf, sy’n faes parcio dan do
  • Pan fyddwch yn mynd i mewn i adeilad gorsaf
  • Pan fyddwch yn mynd i mewn i ardaloedd sydd dan do
  • Pan fyddwch yn defnyddio ystafell aros neu doiledau.

Nid oes yn rhaid i blant dan 11 oed, pobl sy’n cael anhawster anadlu neu bobl sydd â salwch neu nam corfforol neu feddyliol neu anabledd wisgo gorchudd wyneb. Mae rhestr lawn Llywodraeth Cymru o’r sefyllfaoedd lle caiff pobl eu heithrio rhag gorfod gwisgo gorchudd wyneb i’w gweld yma.

 

4. Gwnewch yn siŵr bod modd i chi ddefnyddio dulliau talu digyffwrdd

Caiff teithwyr eu hannog, pryd bynnag y bo’n bosibl, i ddefnyddio dulliau talu digyffwrdd. Diben hynny yw sicrhau bod pobl yn gorfod ymdrin cyn lleied ag sy’n bosibl ag arian parod a newid mân.

Mae’r rhan fwyaf o weithredwyr bysiau’n derbyn taliadau â chardiau digyffwrdd neu ddyfeisiau clyfar (Apple Pay neu Android Pay). At hynny, mae gan y rhan fwyaf o weithredwyr bysiau yng nghanol y ddinas eu hapiau eu hunain y gallwch eu defnyddio i brynu eich tocynnau ymlaen llaw:

Os byddwch yn teithio ar wasanaethau rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru, bydd yn rhaid i chi brynu tocyn cyn mynd ar y trên. Gallwch wneud hynny drwy ap Trafnidiaeth Cymru, yn yr orsaf (os oes cyfleusterau prynu tocynnau ar gael) neu mewn siopau bach dethol.

Ar gyfer teithiau ar wasanaethau trên nad ydynt yn wasanaethau Trafnidiaeth Cymru, mae’r opsiynau ar gyfer prynu tocynnau i’w gweld ar wefan Trainline.

 

5. Cadwch lygad ar eich eiddo personol

Wrth ymlwybro drwy dorfeydd mawr ar eich ffordd i’r gêm ac wedyn, mae’n bwysig eich bod yn dal gafael ar eich eiddo personol. Cyn gadael gwasanaeth bws neu drên, cofiwch wirio a ydych wedi gadael eich ffôn, eich bag, eich allweddi neu unrhyw eiddo personol arall (gan gynnwys eich tocynnau ar gyfer y gêm!) yn y man lle’r ydych wedi bod yn sefyll neu’n eistedd.

Os byddwch yn colli unrhyw eiddo, y peth gorau i’w wneud yw cysylltu’n uniongyrchol â gweithredwr y gwasanaeth bws neu’r gwasanaeth trên. Mae rhestr o weithredwyr a dolenni cyswllt â’u gwefannau (a’r holl fanylion cyswllt angenrheidiol) i’w gweld ar ein tudalen Dolenni Cyswllt Defnyddiol.

 

6. Byddwch yn ymwybodol bob amser o’r hyn sydd o’ch cwmpas

Mae’n bwysig eich bod yn ymwybodol bob amser o’r hyn sy’n digwydd o’ch cwmpas ar drafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig ar wasanaethau trên sy’n aml yn fwy o faint ac yn fwy prysur (yn enwedig ar ddiwrnod gêm!).

Os byddwch yn gweld unrhyw beth amheus neu unrhyw beth sy’n peri pryder i chi wrth deithio i un o’r gemau neu wedyn, gallwch anfon neges destun yn dawel bach i’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig ar 61016. Dywedwch wrth yr Heddlu Trafnidiaeth beth sy’n digwydd a ble’r ydych chi, a bydd swyddogion wrth law i gynnig cyngor a help. Os yw’n argyfwng, dylech ffonio 999.

Os hoffech sôn yn ddiweddarach am drosedd nad oedd yn argyfwng, gallwch gwblhau adroddiad ar wefan yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.

 

Os oes angen unrhyw help arnoch i gynllunio eich teithiau ar drafnidiaeth gyhoeddus ymlaen llaw neu ar ddiwrnod gêm, gallwch ffonio ein rhif Rhadffôn ar 0800 464 00 00 rhwng 7am ac 8pm bob dydd. Bydd un o’n hasiantiaid cyfeillgar wrth law i helpu.

 

Rydym yn gobeithio y cewch chi amser gwych yn dathlu Pencampwriaeth y 6 Gwlad ac y cewch chi daith hwylus a diogel ar drafnidiaeth gyhoeddus. Pob lwc i Gymru!

Pob blog Rhannwch y neges hon