-
Adnodd Tocynnau Rhataf
-
Prynu tocynnau bws
-
Tocynnau sy’n berthnasol i fwy nag un gweithredwr
-
Tapio Ymlaen Tapio i Ffwrdd
-
Cardiau Teithio Rhatach Cymru
-
Cerdyn Teithio Rhatach i Berson Anabl a Chardiau Cydymaith
-
Fyngherdynteithio (ar gyfer pobl ifanc 16-21 oed)
Adnodd Tocynnau Rhataf
Ar gyfer y rhan fwyaf o deithiau ar fws, mae modd yn awr i chi ddefnyddio ein Hadnodd Tocynnau Rhataf sy’n rhan o’n Cynlluniwr Taith i weld pa docyn sydd rataf, yn dibynnu ar y math o daith y byddwch yn ei gwneud. Mae’r opsiynau yn cynnwys tocynnau unffordd a dwyffordd, tocynnau dyddiol, wythnosol a misol, teithiau a wneir gan ddefnyddio fyngherdynteithio, a mwy.
I ddefnyddio’r Adnodd Tocynnau Rhataf, y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw:
- Mynd i Gynlluniwr Taith Traveline Cymru.
- Chwilio am lwybrau rhwng y ddau le a nodwyd gennych.
- Clicio ar y botwm ‘Gweld prisiau tocynnau ar gyfer y gwasanaeth hwn’ sydd ar waelod blwch y canlyniadau chwilio.
- Gweld pa docyn sy’n cynnig y gwerth gorau am arian ar gyfer eich taith (gan gynnwys teithiau sy’n golygu defnyddio mwy nag un bws).
Caiff y wybodaeth hon am brisiau tocynnau ei darparu gan y gweithredwyr bysiau a chynghorau lleol ac rydym yn ceisio sicrhau ei bod yn cael ei diweddaru’n rheolaidd. Os ydych yn credu bod angen diweddaru unrhyw beth yn ein gwybodaeth am brisiau tocynnau, cysylltwch â ni drwy anfon ebost i feedbacktraveline@tfw.wales ac fe geisiwn ni ymchwilio cyn gynted ag sy’n bosibl.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am brisiau tocynnau gweithredwr bysiau penodol, ewch i wefan eich gweithredwr bysiau i gael gwybod mwy.
Prynu tocynnau bws
Nid ydym yn cynnig cyfleusterau prynu tocynnau drwy wefan neu ap Traveline Cymru ar hyn o bryd.
Ar gyfer y rhan fwyaf o weithredwyr bysiau yng Nghymru, gallwch brynu eich tocyn gan y gyrrwr wrth i chi fynd ar y bws, gan dalu ag arian parod neu drwy ddulliau digyffwrdd. Mae rhai gweithredwyr hefyd yn caniatáu i chi brynu eich tocynnau ymlaen llaw drwy eu gwefan neu ap. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’ch gweithredwr bysiau yn uniongyrchol.
Tocynnau sy’n berthnasol i fwy nag un gweithredwr
Os oes gennych ddiddordeb mewn prynu tocynnau sy’n berthnasol i fwy nag un gweithredwr, cliciwch ar y dolenni isod i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd ar gael:
|
Teithio diderfyn ar fysiau a thramiau ar holl wasanaethau/y rhan fwyaf o wasanaethau gweithredwyr, o amgylch ardal gyfan y dref neu’r ddinas a wasanaethir gan drenau. |
|
Teithio diderfyn am ddiwrnod ar wasanaethau trên Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru a rhai gwasanaethau bws o fewn rhannau penodol o’u rhwydwaith. |
Tocyn dyddiol neu wythnosol sy’n ddilys ar wasanaethau a gaiff eu rhedeg gan nifer o weithredwyr ar draws y de-ddwyrain. |
|
Tocyn diwrnod sy’n caniatáu i chi ddefnyddio gwasanaethau Sherpa’r Wyddfa fel y dymunwch drwy gydol y dydd. |
|
Bydd tocyn i oedolyn yn costio £6, bydd plentyn (neu berson ifanc â fyngherdynteithio) yn talu £4 a bydd deiliaid cerdyn teithio rhatach o Loegr a’r Alban yn talu £4 hefyd. Mae tocyn i deulu ar gael am £13.00 yn unig. Mae tocyn 1Bws yn ddilys ar bob gwasanaeth bws lleol sy’n gweithredu yn y gogledd (yn siroedd Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn a Wrecsam) ac eithrio gwasanaeth 28 rhwng yr Wyddgrug a’r Fflint. Nid yw’n ddilys chwaith ar wasanaethau i ymwelwyr ar fysiau to agored nac ar wasanaethau bws National Express a gwasanaethau parcio a theithio. Mae’r tocyn 1Bws yn ddilys ar wasanaeth T2 Bangor – Aberystwyth, gwasanaeth T3 Wrecsam – Abermaw, gwasanaeth T10 Bangor - Corwen, gwasanaeth T12 Wrecsam – Y Waun a gwasanaeth T19 Blaenau Ffestiniog – Llandudno. Mae hefyd yn ddilys ar y gwasanaeth T8 newydd Corwen - Chester. |
Tap Ymlaen Tap i Ffwrdd
Os oes gennych ddiddordeb mewn teithio gyda Tap Ymlaen Tap i Ffwrdd, gweler y dolenni isod i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd ar gael.
Mae prisiau tocynnau Tap Ymlaen Tap i Ffwrdd a'r Telerau a'r Amodau yn debygol o amrywio yn dibynnu ar y gweithredwr rydych chi'n teithio gydag ef. Cofiwch wirio cyn teithio
|
Cyfrifir prisiau tocynnau tap Bws Caerdydd ar sail faint o deithiau a wnewch a ble rydych yn teithio ar y diwrnod hwnnw.
*Dim ond gyda Tapio Ymlaen, Tapio i Ffwrdd y bydd tocynnau dwyffordd ar gael pan fydd pob taith yn cael ei gwneud ar wasanaethau 57 neu 58 |
||||||||||||||||||||||||||
|
Mae Capio Prisiau 1Bws Gogledd Cymru yn galluogi cwsmeriaid i deithio ar bron unrhyw fws ar draws y rhanbarth* am bris Tocyn Diwrnod 1Bws (£6.00). *Cynhelir y cynllun peilot ar ledled Ynys Môn, Conwy, Gwynedd, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam a Chyngor Gwynedd. Mae hwn yn gynllun capio aml-weithrediad sydd ar gael gan y gweithredwyr canlynol:
|
||||||||||||||||||||||||||
|
Mae cynllun tapio ymlaen tapio i ffwrdd Bws Arriva yn rhan o beilot Gogledd Cymru ond mae hefyd ar gael ar gyfraddau gwahanol ym Mharthau Dinas Bangor, Menai, Chester Plus, Cymru a Wrecsam. Bydd pob taith o fewn y parthau yn cael ei chapio ar gyfradd y parth:
Bydd pob taith y tu allan i barthau Arriva (Dinas Bangor, Menai, Chester Plus, Cymru, a Wrecsam) ond o fewn parth 1Bws yn cael ei gapio ar gyfradd Tocyn Diwrnod 1Bws - £6.00. *Yn y parth Caer plws mae’r gwasanaethau canlynol wedi’u heithrio yn eu cyfanrwydd o’r cynllun Tapio Ymlaen Tapio i Ffwrdd ar hyn o bryd: X30 Caer – Warrington 84 Caer – Crewe 1/1A Caer i Blacon 15 Caer — Saughall |
||||||||||||||||||||||||||
First Cymru (Pen-y-bont ar Ogwr)
|
Mae cynllun peilot tapio ymlaen tapio i ffwrdd First Cymru ar gael ar gyfer gwasanaethau Pen-y-bont ar Ogwr 70/71, 63, 68/69, 72/73, 65, 76 a 74 yn unig. Mae gwasanaethau Cymru Clipper X1, X2 ac X3 wedi'u heithrio o'r cynllun peilot tapio ymlaen tapio i ffwrdd. O fynd ar y bws, codir isafswm o £1.60 arnoch. Mae hyn yn cwmpasu 2km cyntaf eich taith. Os ewch ymhellach, codir tâl arnoch am unrhyw bellter ychwanegol.
*Y pris uchaf y codir arnoch am un siwrnai fydd £4.30. Pan fyddwch yn gwneud teithiau ychwanegol drwy gydol y dydd, fe gewch ostyngiad ar bris unrhyw deithiau dilynol o 20%. Cap Dydd Yna caiff prisiau eu capio felly ni fyddwch byth yn talu mwy na chap dyddiol o £5. Cap Wythnosol Cyfrifir capiau wythnosol rhwng cyfnodau penodol o ddydd Llun a dydd Sul ar y gyfradd ganlynol:
|
||||||||||||||||||||||||||
|
Manylion ar gael yn 2023 |
Cardiau Teithio Rhatach Cymru
Os ydych dros 60 oed ac yn byw yng Nghymru, mae gennych hawl i deithio am ddim ar fysiau yng Nghymru.
Ble gallaf ddefnyddio fy ngherdyn teithio rhatach?
Mae Cerdyn Teithio Rhatach Cymru yn ddilys ar bob gwasanaeth bws cymwys sy’n gweithredu yng Nghymru, gan gynnwys y gwasanaethau sy’n dechrau neu’n gorffen eu taith mewn mannau dros y ffin, ar yr amod nad yw’r daith honno’n golygu newid bws yn Lloegr. Gallwch hefyd ddefnyddio rhai gwasanaethau trên dethol sy’n gweithredu yng Nghymru.
Ni allwch ddefnyddio Cerdyn Teithio Rhatach Cymru i deithio yn Lloegr, ac ni allwch ddefnyddio Cerdyn Teithio Rhatach Lloegr i deithio yng Nghymru.
Mae mwy o wybodaeth ar gael yn nhelerau ac amodau llawn y cynllun.
Sut mae gwneud cais am fy ngherdyn teithio rhatach?
Gallwch wneud cais am eich cerdyn teithio rhatach ar wefan Trafnidiaeth Cymru neu ofyn i ffrind, aelod o’r teulu neu rywun yr ydych yn ymddiried ynddo i wneud cais ar-lein ar eich rhan. Mynd ar-lein yw’r ffordd gyflymaf o wneud cais a chael eich cerdyn.
Fel arall, gallwch alw heibio i’ch llyfrgell neu’ch canolfan gymunedol leol lle gallwch ddefnyddio’r rhyngrwyd.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon, gallwch gysylltu â thîm Trafnidiaeth Cymru drwy ffonio 0300 303 4240 neu drwy anfon ebost i travelcards@tfw.wales.
Sut mae defnyddio fy ngherdyn teithio rhatach?
Mae defnyddio eich cerdyn yn hawdd. Pan fyddwch yn teithio ar fws, y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw:
- Dangos eich cerdyn i’r gyrrwr
- Rhoi eich cerdyn ar y darllenydd tocynnau
- Dod o hyd i sedd a mwynhau eich taith rad ac am ddim
Cofiwch mai dim ond chi sy’n gallu defnyddio eich cerdyn. Gallai caniatáu i rywun arall ei ddefnyddio arwain at ganslo’r cerdyn a/neu wrthod ei adnewyddu.
Dolenni cyswllt defnyddiol:
- Cardiau Teithio Rhatach – Cwestiynau ac Atebion
- Cardiau Teithio Rhatach – Cymhwyster
- Cardiau Teithio Rhatach – Datganiad Preifatrwydd
- Cardiau Teithio Rhatach – Telerau ac Amodau
Cerdyn Teithio Rhatach i Berson Anabl a Chardiau Cydymaith
Os oes gennych anabledd, gallech fod yn gymwys i deithio’n rhad ac am ddim ar fysiau yng Nghymru. Mae’r canllaw ynghylch cymhwyster, a’r wybodaeth am y dystiolaeth y bydd angen i chi ei darparu cyn gwneud cais am eich Cerdyn Teithio Rhatach i Berson Anabl, i’w gweld ar wefan Trafnidiaeth Cymru.
Os oes arnoch angen cymorth gan rywun arall wrth wneud rhai neu bob un o’ch teithiau, gallwch wneud cais am gerdyn cydymaith sy’n caniatáu i un person deithio gyda chi’n rhad ac am ddim. Bydd angen i chi gysylltu â’ch cyngor lleol, a fydd yn asesu a ydych yn bodloni’r meini prawf.
Dolenni cyswllt defnyddiol:
- Cardiau Teithio Rhatach – Cwestiynau ac Atebion
- Cardiau Teithio Rhatach – Cymhwyster
- Cardiau Teithio Rhatach – Datganiad Preifatrwydd
- Cardiau Teithio Rhatach – Telerau ac Amodau
Fyngherdynteithio (ar gyfer pobl ifanc 16-21 oed)
Mae fyngherdynteithio yn gynllun teithio rhatach a gaiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n rhoi gostyngiad o oddeutu 1/3 ar bris tocynnau bws i bob person ifanc 16–21 oed sy’n byw yng Nghymru.
Gallwch ddefnyddio fyngherdynteithio ar unrhyw adeg o’r dydd ac ar unrhyw ddiwrnod o’r wythnos y mae’r gwasanaethau yn gweithredu, gan gynnwys ar benwythnosau a gwyliau banc.
Gallwch wneud cais am eich cerdyn ar-lein ar wefan fyngherdynteithio, gallwch lawrlwytho ac argraffu ffurflen gais i’w dychwelyd drwy’r post, neu gallwch ffonio 0300 200 22 33 i drefnu bod ffurflen gais ac amlen radbost yn cael eu postio atoch.