
Rydym yn cynnig ystod o wasanaethau busnes yn rhad ac am ddim, y gellir eu teilwra i ateb anghenion unigol eich busnes.
Cliciwch ar y dolenni cyswllt isod i weld beth sydd ar gael, ac i weld astudiaethau achos o gwmnïau yr ydym wedi gweithio gyda nhw yn y gorffennol.
Traveline Cymru+
Bwriad ein sesiynau digidol byw TravelineCymru+ sy’n rhad ac am ddim yw rhoi’r adnoddau angenrheidiol i gynrychiolwyr o’ch sefydliad fod yn ‘hyrwyddwyr teithio’. Felly, waeth pa fath o fusnes ydych chi, byddwch yn gallu annog eich ymwelwyr, eich tîm ehangach a’ch cymuned leol i ddefnyddio ein gwasanaethau gwybodaeth er mwyn archwilio eu hopsiynau teithio.
Cynlluniwr taith wedi’i addasu y mae modd ei lawrlwytho
Mae’r cyfleuster hwn yn eich galluogi i gael fersiwn wedi’i haddasu o’n cynlluniwr taith ar eich gwefan chi. Mae’r adnodd hwn yn rhad ac am ddim ac mae ar gael i’w lawrlwytho isod.
Astudiaethau achos
Cliciwch yma i weld astudiaethau achos am y cwmnïau a’r sefydliadau yr ydym wedi cydweithio â nhw
Hyfforddi’r Hyfforddwr
Mae ein rhaglen Hyfforddi’r Hyfforddwr yn hyfforddi hyrwyddwyr mewn sefydliadau i ddosbarthu gwybodaeth am wasanaethau Traveline Cymru i staff, ymwelwyr ac unrhyw un arall sydd â diddordeb.
Digwyddiadau a gweithdai yn eich gweithle
Os oes gennych ddiddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth am ein gwasanaethau, gallwn drefnu gweithdai ac arddangosiadau i’ch staff ynghylch sut i ddefnyddio’r ystod lawn o wasanaethau sydd gan Traveline Cymru ar y wefan ac ar ddyfeisiau symudol. I ofyn am weithdy neu arddangosiad yn eich gweithle, cysylltwch â ni yn marketing@travelinecymru.info
Deunydd hyrwyddo
Gall Traveline Cymru ddarparu deunydd hyrwyddo i’w roi i’ch staff, ymwelwyr a myfyrwyr er mwyn eu hannog i feddwl am sut y maent yn teithio.
Traveline Cymru – Elfennau Amlgyfrwng
Ar y dudalen hon mae ein logos a’n gwaith celf rhad ac am ddim, y gellir eu lawrlwytho ac yr ydym yn annog sefydliadau a mudiadau yng Nghymru i’w defnyddio.