Gwasanaethau i fusnesau

Mae ein rhaglen Hyfforddi’r Hyfforddwr yn hyfforddi hyrwyddwyr mewn sefydliadau i ddosbarthu gwybodaeth am wasanaethau Traveline Cymru i staff, ymwelwyr ac unrhyw un arall sydd â diddordeb.

Mae’r pecyn Hyfforddi’r Hyfforddwr yn darparu sleidiau ategol, deunydd darllen a deunydd hyrwyddo ar gyfer cyflwyno’r hyfforddiant yn y dyfodol, sy’n galluogi’r cyfranogwyr i weld gwasanaethau Traveline Cymru a’u manteision.

Cafodd sesiynau ‘Hyfforddi’r Hyfforddwr’ eu treialu gyda Llamau a Remploy yng Nghaerdydd, ac maent yn cynnwys paratoi staff i gyflwyno sesiynau hyfforddiant Traveline Cymru eu hunain. Bydd hynny’n eu galluogi wedyn i gyrraedd cynulleidfa ehangach a dangos gwasanaethau Traveline Cymru i bobl eraill.

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost i’r cyfeiriad canlynol: ptimarketing@tfw.wales