Beth yw cludiant cymunedol?
Mae gwasanaethau cludiant cymunedol yn wasanaethau lleol a gaiff eu teilwra i anghenion y teithiwr. Maent yn darparu cludiant i bobl a fyddai fel arall dan anfantais oherwydd eu hoedran, eu hanawsterau symud, eu hanabledd neu’u lleoliad, ac maent yn cynnig gwasanaeth o ddrws i ddrws a gaiff ei deilwra’n arbennig.
Ledled Cymru, mae miloedd o staff a gwirfoddolwyr ym maes cludiant cymunedol yn helpu pobl i barhau’n annibynnol, cymryd rhan yn eu cymunedau a chael mynediad i swyddi a gwasanaethau cyhoeddus hollbwysig.
Os ydych yn rhywun a fyddai’n elwa o ddefnyddio gwasanaethau cludiant cymunedol yn eich ardal, mae gwybodaeth gan sefydliadau ledled Cymru i’w gweld isod.
Y Gymdeithas Cludiant Cymunedol
Y Gymdeithas Cludiant Cymunedol yw’r elusen genedlaethol sy’n cynrychioli ac yn cynorthwyo darparwyr cludiant cymunedol: miloedd o elusennau lleol a grwpiau cymunedol ledled Cymru a gweddill y DU sy’n darparu gwasanaethau trafnidiaeth sy’n cyflawni diben cymdeithasol ac yn cynnig budd i’r gymuned.
Gan ddefnyddio adnodd ‘Chwilio am ddarparwr Cludiant Cymunedol’ y Gymdeithas Cludiant Cymunedol, gallwch ddod o hyd i’r gwasanaethau canlynol yn eich ardal leol a chael gafael ar eu manylion cyswllt:
- Llwybrau bysiau cymunedol
- Cynlluniau ceir cymunedol
- Cynlluniau o ddrws i ddrws neu gynlluniau galw’r gyrrwr
- Cludiant grŵp
- Cludiant i leoliadau iechyd
- Shopmobility
- Olwynion i’r Gwaith
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y Gymdeithas Cludiant Cymunedol.
Gwasanaethau fflecsi
Mae fflecsi yn gynllun sy’n cael ei weithredu gan Trafnidiaeth Cymru mewn partneriaeth â chynghorau a gweithredwyr bysiau lleol ac sy’n cymryd lle nifer o wasanaethau bws wedi’u hamserlennu.
Mae fflecsi yn wasanaeth bws sydd â man cychwyn a man gorffen sefydlog, ond sy’n gallu addasu ei lwybr i gasglu a gollwng teithwyr rywle o fewn parth y gwasanaeth fflecsi hwnnw. Yn hytrach na bod teithwyr yn aros wrth arhosfan bysiau i fws gyrraedd, gallant drefnu taith ymlaen llaw dros y ffôn neu drwy ddefnyddio ap neu wefan fflecsi. Bydd teithwyr yn cael gwybod ble y byddant yn cael eu casglu, a fydd yn agos i’r man lle maent, a byddant yn cael gwybod pryd y bydd y bws yn cyrraedd.
Ar hyn o bryd, mae gwasanaethau fflecsi yn gweithredu yn y mannau canlynol:
- Blaenau Gwent
- Bwcle
- Casnewydd
- Dinbych (66)
- Dyffryn Conwy
- Gogledd Caerdydd (G1)
- Holywell
- Pen Llŷn
- Prestatyn (40)
- Rhuthun (33)
- Sir Benfro
- Sir y Fflint
- Y Rhondda (152)
I drefnu eich taith fflecsi, lawrlwythwch ap fflecsi o’r App Store neu o Google Play. Gallwch drefnu taith dros y ffôn hefyd, drwy ffonio 0300 234 0300 (dydd Llun i ddydd Sadwrn: 7am-8pm; dydd Sul: 9am-5pm).
Bwcabus
Mae Bwcabus yn wasanaeth bws lleol, hyblyg y mae modd cadw lle arno ymlaen llaw, a’i fwriad yw diwallu anghenion trigolion mewn ardaloedd gwledig. Mae model trafnidiaeth wledig Bwcabus yn gweithredu o fewn parth penodol gan ddarparu gwasanaethau ar hyd llwybrau sefydlog a theithiau sy’n ymateb i’r galw, y cedwir lle arnynt ymlaen llaw, ac mae’n ei gwneud yn bosibl i chi deithio i fan o’ch dewis ar adeg o’ch dewis.
Ar hyn o bryd, mae gwasanaethau Bwcabus sy’n ymateb i’r galw ac sy’n teithio ar hyd llwybrau sefydlog yn gweithredu yn yr ardaloedd canlynol:
Gallwch ymholi ynghylch y gwasanaethau Bwcabus sydd ar gael yn eich ardal chi drwy ffonio 01239 801 601 a gallwch drefnu eich taith hyd at fis ymlaen llaw.