Cysylltu â ni

Hoffech chi gysylltu â ni?


Rydym yn croesawu unrhyw adborth yn Gymraeg ac yn Saesneg.

 

Dros y ffôn…

Gallwch ffonio ein Canolfan Gyswllt ddwyieithog yn rhad ac am ddim ar 0800 464 0000.

Mae’r asiantiaid yn ein Canolfan Gyswllt ym Mhenrhyndeudraeth yn y gogledd ar gael rhwng 7am ac 8pm bob dydd, drwy’r flwyddyn. Gwasanaeth cyfyngedig sydd ar gael ar Noswyl Nadolig, Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan.

 

Drwy ebost...

Mae canllawiau ynghylch sut i ddefnyddio ein gwasanaethau gwybodaeth i’w cael ar ein tudalen cwestiynau cyffredin.

Os hoffech gael unrhyw help i gynllunio eich teithiau, os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill am drafnidiaeth gyhoeddus neu os hoffech siarad â ni am ein gwasanaethau gwybodaeth, anfonwch ebost i feedbacktraveline@tfw.wales. Bydd ein tîm yn ceisio ymateb cyn pen 5 diwrnod gwaith*.

Nodwch nad ydym ni yn Traveline Cymru yn gweithredu unrhyw wasanaethau trafnidiaeth ein hunain. Ein gwaith ni yw darparu gwybodaeth ddiduedd am drafnidiaeth gyhoeddus drwy ein gwefan, ein ap a’n rhif Rhadffôn. Os hoffech gwyno am wasanaeth bws neu drên, dylech gysylltu’n uniongyrchol â’r gweithredwr trafnidiaeth i ddechrau. Mae manylion cyswllt y gweithredwyr i’w gweld ar ein tudalen ‘Dolenni cyswllt defnyddiol’.

Os byddwch yn anfodlon â’r ymateb a gewch gan y gweithredwr neu os bydd yn methu ag ymateb cyn pen 14 diwrnod gwaith, gallwch anfon eich cwyn i Bus Users Cymru a fydd yn ymchwilio ymhellach ar eich rhan.

 

Drwy’r post...

Gallwch ysgrifennu atom hefyd yn y cyfeiriad canlynol:

Traveline Cymru
Blwch Post 83
Caerdydd
CF11 1NA