Cynllun teithio ar fysiau am ddim ar gyfer ffoaduriaid: tocyn croeso

Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Cynllun Teithio am Ddim ar Fysiau i Ffoaduriaid - ‘Tocyn Croeso’


Mae’r cynllun ar gael i bob ffoadur sy’n teithio i Gymru i chwilio am loches, yn unol â gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer creu Cenedl Noddfa, cyhyd â’u bod yn dangos prawf dilys eu bod yn gymwys fel y rhestrir yn nhelerau ac amodau’r cynllun.

Dechreuodd y cynllun teithio am ddim ar 26 Mawrth a bydd yn para tan 31 Mawrth 2024.

Mae’r cynllun yn caniatáu teithio diderfyn ar:

  • bob gwasanaeth bysiau lleol
  • gwasanaethau trenau Trafnidiaeth Cymru ledled Cymru
  • gwasanaethau bysiau a threnau sy’n mynd i Loegr os yw’r daith yn dechrau neu orffen yng Nghymru

I ddeall mwy am sut mae cymryd rhan yn y cynllun, y gofynion o ran cymhwystra a’r gweithredwyr bysiau sy’n cymryd rhan ynddo, gallwch weld y Telerau a’r Amodau a rhestr o Gwestiynau Cyffredin isod.

 

Teitl y cynllun

Teitl y cynllun

Cyfeirir at Gynllun Teithio am Ddim i Ffoaduriaid ar Fysiau Cymru, o hyn ymlaen, fel 'y cynllun'.

 

Brand y cynllun

Brand y cynllun ar gyfer pob gohebiaeth gyhoeddus yw'r 'Tocyn Croeso'.

 

Disgrifiad

Mae'r cynllun yn darparu teithio diderfyn am ddim i bobl gymwys ar bob gwasanaeth bws lleol a ddarperir ledled Cymru gan y cwmnïau sy’n cymryd rhan yn y cynllun. Mae rhestr o’r cwmnïau hynny i’w gweld dan 'Rhestr o gwmnïau bysiau sy'n cymryd rhan'. Mae’r cynllun yn cynnwys gwasanaethau sy’n teithio i mewn ac allan o Loegr pan fydd eich taith yn dechrau neu'n dod i ben yng Nghymru.

Mae'r prawf cymhwysedd sydd ei angen i gael mynediad at deithio am ddim ar fysiau fel y'i diffinnir wedi'i restru o dan 'Cymhwysedd' isod.

Mae'r cynnig yn gwbl ar wahân i'r cynllun peilot presennol sydd ar waith ar gyfer Ceiswyr Lloches.

 

Cymhwysedd

Mae'r cynllun ar gael i bob ffoadur sy'n chwilio am hafan ddiogel yng Nghymru yn unol â gweledigaeth Ein Cenedl Noddfa ar gynhyrchu un o'r canlynol:

  1. Trwydded Breswylio Fiometrig (BRP) sy’n nodi bod rhywun yn 'Ffoadur', bod ganddo statws 'HP' neu ‘Amddiffyniad Dyngarol’ (‘Humanitarion Protection’) neu sy’n cynnwys y geiriau ‘Afghan’, ‘Ukraine’ neu ‘Hong Kong’;
  2. Llythyroddiwrth y SwyddfaGartref / YsgrifennyddCartrefwedi’igyfeirio’nbersonolsy’ncadarnhau un o’rstatysau yn is-adran a; neu
  3. Pasbort dilys Wcráin neu Affghanistan neu Basbort Gwladolion Tramor Prydeinig Hong Kon

Enghreifftiau o Drwydded Breswyl Brydeinig Fiometrig (BRP); Vignette ac enghraifft o stamp clirio swyddog mewnfudo:

 

Trwydded Breswyl Brydeinig Biometrig (BRP)

British Residence Permit (BRP)
 
 
Vignette 
 
Vignette
 
 
Stamp clirio swyddog mewnfudo
 
Immigration officer clearance stamp example

 

 

Terfynau daearyddol

Ar ôl iddynt ddangos prawf dilys (4), bydd pobl yn cael teithio am ddim ar wasanaethau bysiau lleol sy'n gweithredu'n gyfan gwbl yng Nghymru neu lle mae’r daith yn dechrau neu'n dod i ben yng Nghymru – dylech gyfeirio at y cwestiynau cyffredin isod (Cwestiynau Cyffredin). 

 

Amseroedd gweithredu

Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar yr amser y darperir teithio am ddim ar fysiau ar gynhyrchu prawf dilys fel y'i diffinnir o dan 'Cymhwysedd' y ddogfen hon.

 

Mathau o deithiau

Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar y math o deiithiau y darperir teithio am ddim ar fysiau ar ei gyfer.

 

Disgownt a chyfyngiadau ar tocynnau

Nid oes unrhyw gyfyngiadau.

 

Trosglwyddo

Dim ond yr unigolyn a enwir sy’n cael manteisio ar deithio am ddim ar fysiau o dan y telerau cymhwysedd sydd i’w gweld ym mhennawd (4) o’r ddogfen hon, ac ni cheir trosglwyddo’r hawl i wneud hynny, ond bydd yn cynnwys uned deuluol sy'n teithio gyda'i gilydd, gan gynnwys plant.

Os ydynt yn gymwys i gael cludiant i’r ysgol, bydd angen i unrhyw blant sy'n ffoaduriaid sy'n cael addysg gynradd neu uwchradd yng Nghymru wneud cais i'r awdurdod lleol perthnasol am gludiant o’r fath.

Bydd teithio am ddim ar fysiau yn cael ei dynnu'n ôl os caiff ei gamddefnyddio / ei ddefnyddio gan unrhyw un heblaw'r person(au) sy'n gymwys i wneud hynny, a gall arwain at achos troseddol.

 

Cymhwyso disgownt ar fws

Er mwyn cael y disgownt perthnasol, mae gofyn i'r defnyddiwr gyflwyno’i brawf cymhwysedd (gweler pennawd 4 yn y ddogfen hon) i yrrwr y bws wrth iddo fynd i mewn i’r bws. Os na fydd pobl yn gallu dangos prawf cymhwysedd, ni fyddant yn gymwys i deithio am ddim a bydd gofyn iddynt dalu'r pris llawn a nodir.

Mae cynrychiolwyr cwmnïau bysiau yn cadw'r hawl i archwilio prawf cymhwysedd fel rhan o'r broses ddilysu a lleihau twyll.

 

Rheolau a rheoliadau

Mae rheolau a rheoliadau pob cwmni bysiau yn berthnasol pan fydd teithio am ddim wedi dangos prawf cymhwysedd a/neu docynnau eraill.

 

Hyd y cynllun

Bydd y cynllun yn dechrau ar 26 Mawrth 2022 a bydd yn para tan 31 Mawrth 2024. 

Roedd y Tocyn Croeso yn un o amodau'r Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau ac yna’r Gronfa Bontio ar gyfer Bysiau gwerth £200m, a gafodd eu rhoi ar waith i helpu i gefnogi adferiad y diwydiant bysiau a rheilffyrdd ar ôl y pandemig. Daw'r gronfa hon i ben ar 31 Mawrth 2024 ac, o ganlyniad, bydd cynllun presennol y Tocyn Croeso hefyd yn dod i ben ar y dyddiad hwnnw. Datganiad Ysgrifenedig: Tocyn Croeso (7 Mawrth 2024) | LLYW.CYMRU

 

Cyfnod ymgeisio

Nid oes cyfnod ymgeisio oherwydd y bydd y defnyddiwr yn dangos y prawf cymhwysedd y mae ei angen arno er mwyn cymryd rhan yn y cynllun i yrrwr y bws wrth iddo fynd i mewn i’r bws. Bydd yn cael teithio am ddim ar unwaith ar wasanaethau bysiau lleol yng Nghymru.

 

Rhoi cerdyn

Ni fydd unrhyw gardiau teithio penodol yn cael eu rhoi i'r defnyddiwr o dan y cynllun hwn. Bydd yn ofynnol i'r rheini sy'n gymwys i deithio am ddim gydymffurfio â’r gofynion o ran prawf cymwys fel y'u rhestrir o dan bennawd 4 yn y ddogfen hon.

Bydd y rheini sy'n gymwys i deithio am ddim yn cael tocyn teithio 'Tocyn Croeso', nad oes unrhyw werth iddo, oddi wrth yrrwr y bws wrth iddynt fynd i mewn i’r bws ar gyfer y daith a fydd yn cael ei gwneud.

 

Gwaharddiadau

Nid yw teithio am ddim yn ddilys ar wasanaethau bysiau pellter hir a ddarperir gan National Express a Stagecoach Megabus.

I gael manylion am y gwasanaethau hyn gan gynnwys amseroedd, defnyddiwch yr wybodaeth gyswllt ganlynol:

Nid yw prawf cymhwysedd o dan 'Cymhwysedd' y ddogfen hon yn rhoi'r hawl nac yn gwarantu cludiant ar unrhyw wasanaeth bws ar unrhyw adeg, nac yn arwain at ddisgwyl parhad o’r gwasanaethau presennol neu ddarparu gwasanaethau newydd.

Mae amodau cludiant cwmnïau unigol hefyd yn berthnasol ar gyfer teithiau.

 

Defnydd twyllodrus

Mae’r cynllun ar gael ond i'r rhai sy'n gymwys drwy gynhyrchu prawf dilys fel y'i rhestrir o dan 'Cymhwysedd' o delerau ac amodau'r cynllun i yrrwr y bws wrth fynd ar y bws.  Bydd defnydd twyllodrus yn arwain at dynnu cludiant am ddim yn ôl ar unwaith i'r unigolyn/unigolion dan sylw a chaiff ei adrodd i'r awdurdodau perthnasol a gall arwain at erlyniad.

 

Newidiadau i delerau ac amodau

Gall Telerau ac Amodau'r cynllun hwn newid. Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu hadlewyrchu yn y Telerau ac Amodau wedi'u diweddaru sydd ar gael.

 

Rhestr o gwmnïau bysiau sy'n cymryd rhan

Mae pob cwmni bws sydd yn rhedeg gwasanaethau bysus cofrestredig yng Nghymru yn cymryd rhan yn y cynllun o 01 Awst 2022.