Maint y testun: A A A
Cyferbynnedd:
Gwrando: More about BrowseAloud
Digwyddiadau

Latest Tweets

@TravelineCymru RT #Porth svc update: We are unable to serve #Cardiff bay due to a road closure. The 132 will terminate and start at Hemingway road.
@TravelineCymru RT ***Service Update*** Due to road closures in Cardiff Bay because of an event. All X2 Services that arrive and depa… https://t.co/MAvSMR5xXh
@TravelineCymru RT #A494 tua'r gorllewin yn Gornel Drome Glannau Dyfrdwy. Mae tagfeydd trwm yn yr ardal yn debygol. Ychwanegwch ychy… https://t.co/UmHLiQUeXp
@TravelineCymru RT #A55 bennawd tua'r gorllewin rhwng C13 Abergwyngregyn a C13 Tal-Y-bont. Gwrthdrawiad traffig ffyrdd. Tagfeydd trwm… https://t.co/msWHLhnV5e
@TravelineCymru RT #A55 Heading westbound between J13 Abergwyngregyn and J13 Tal-Y -Bont. Road Traffic collision. Heavy Congestion In… https://t.co/gRVPQLthW7
http://www.worldsnooker.com/tickets/2019-manbetx-welsh-open/

Pencampwriaeth Snwcer Agored ManbetX 2019 yn Arena Motorpoint, Caerdydd rhwng 11 ac 17 Chwefror

Bydd 128 o chwaraewyr snwcer gorau’r byd yn cyrraedd y brifddinas ym mis Chwefror i gystadlu ym Mhencampwriaeth Snwcer Agored ManbetX 2019. Cafodd y bencampwriaeth ei sefydlu yn 1992, a dyma’r digwyddiad hynaf ym maes snwcer ar lefel y byd (ar wahân i Bencampwriaethau’r Byd a’r DU).

Penllanw pencampwriaeth y llynedd, a barodd am wythnos, oedd brwydr gyffrous yn y rownd derfynol rhwng John Higgins a Barry Hawkins. Higgins a gipiodd y fuddugoliaeth o 9 i 7 yn y diwedd, a oedd yn golygu ei fod yn torri record trwy ennill y gystadleuaeth am y 5ed tro. Yn ogystal buodd sêr eraill ym maes snwcer, megis Ronnie O’Sullivan, Mark Selby a Mark Williams a gafodd ei eni ym Mlaenau Gwent, yn cymryd rhan yn y bencampwriaeth, sef yr olaf yng nghyfres gwledydd y DU o ddigwyddiadau ar gyfer 2018/19.

Eleni, bydd y chwaraewyr yn cystadlu unwaith eto am dlws y mae bri mawr yn perthyn iddo, sef Tlws Ray Reardon. Mae’r trefnwyr wedi annog y cefnogwyr i brynu eu tocynnau’n gynnar, oherwydd disgwylir iddynt werthu allan yn gyflym iawn. Pris y tocynnau rhataf yw £8, a gellir prynu tocyn diwrnod ar gyfer y rownd derfynol ddydd Sul 17 Chwefror am £55. Gall y cefnogwyr brynu tocyn i’r digwyddiad cyfan hefyd, a fydd yn sicrhau sedd iddynt ym mhob un o’r sesiynau. Pris y tocyn hwnnw yw £160.

 

Gallwch gael gwybod mwy am Bencampwriaeth Snwcer Agored Cymru a phrynu eich tocynnau ar wefan y digwyddiad.

 

Ydych chi am deithio i’r digwyddiad hwn?

Mae Arena Motorpoint 5 munud o waith cerdded o Orsaf Reilffordd Heol y Frenhines yng Nghaerdydd, ac 8 munud o waith cerdded o Orsaf Reilffordd Caerdydd Canolog. Yn ogystal, mae nifer o wasanaethau bws yn aros bellter byr o’r Arena. Mae gwasanaethau’n debygol o fod yn fwy prysur nag arfer cyn ac ar ôl y digwyddiad, felly dylech ganiatáu digon o amser ar gyfer eich taith.

 

Trafnidiaeth gyhoeddus

Os ydych am deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, defnyddiwch ein Cynlluniwr Taith i ddod o hyd i’r llwybr mwyaf cyfleus, manylion y gwasanaethau sy’n rhedeg a’u hamseroedd.

Os hoffech ddod o hyd i amserlen fysiau, ewch i’n tudalen Amserlenni. Yma, gallwch chwilio am lwybr bysiau penodol neu’ch lleoliad er mwyn gweld amserlenni gwasanaethau yn eich ardal. Yn ogystal, byddwch yn gallu argraffu’r amserlen er mwyn mynd â hi gyda chi ar eich taith.

 

Cerdded a beicio

Gallwch hefyd ddefnyddio ein cynlluniwr taith i ddod o hyd i lwybrau cerdded a beicio er  mwyn cyrraedd eich digwyddiad. Os ydych yn byw’n agos, gall cerdded fod yn ffordd wych o weld y golygfeydd a mwynhau’r awyrgylch cyn y digwyddiad!

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen Beicio a Cherdded.

 

Rydym yn cynnig gwasanaeth rhadffôn hefyd. Bydd un o’n cynghorwyr cyfeillgar wrth law i ateb unrhyw ymholiadau sydd gennych am drafnidiaeth gyhoeddus ac i’ch helpu i gynllunio eich taith. Ffoniwch ni ar 0800 464 00 00 yn rhad ac am ddim!

< Pob digwyddiad