Digwyddiadau

Teithio adeg Gŵyl Undod Hijinx

Teithio adeg Gŵyl Undod Hijinx

Mae Gŵyl Undod Hijinx yn cael ei chynnal am y 10fed tro mewn tri lleoliad ar draws Cymru. Bydd rhai o’r digwyddiadau celfyddydol rhyngwladol gorau o safbwynt cynwysoldeb ac anabledd yn cyrraedd Caerdydd, Bangor a Llanelli ym mis Mehefin a mis Gorffennaf eleni.

Pwrpas y dudalen hon yw darparu gwybodaeth am deithio ar gyfer pob un o leoliadau Gŵyl Undod Hijinx eleni.

  • Defnyddiwch ein Cynlluniwr Taith os hoffech ddod o hyd i’ch llwybrau mwyaf cyfleus i’r lleoliadau ar y bws neu’r trên.
  • Defnyddiwch ein Cynlluniwr Cerdded neu’n Cynlluniwr Beicio i weld sut mae gwneud eich taith i’r ŵyl ar droed neu ar feic.
  • Ffoniwch dîm ein canolfan gyswllt yn rhad ac am ddim ar 0800 464 00 00 (rhwng 7am ac 8pm bob dydd) a bydd un o’n cynghorwyr cyfeillgar wrth law i’ch helpu gyda’ch ymholiad am gynllunio taith.
  • Cofiwch wneud cais am fyngherdynteithio i arbed tua 1/3 ar bris eich tocynnau bws, os ydych yn 16-21 oed ac yn byw yng Nghymru.
  • Os ydych yn byw yng Nghymru a’ch bod naill ai’n 60 oed a throsodd neu’n berson anabl yn ôl meini prawf y Llywodraeth ar gyfer anabledd, mae gennych hawl i ddefnyddio eich cerdyn teithio rhatach i deithio’n rhad ac am ddim ar fysiau ledled Cymru.
  • Bydd yna weithredu diwydiannol ar 21, 23 a 25 Mehefin. Cofiwch fynd i’n tudalen wybodaeth ‘Gweithredu Diwydiannol’ i gael trosolwg a chael y wybodaeth ddiweddaraf gan wasanaethau cyn i chi gynllunio eich taith.

 

Mae gwybodaeth benodol am bob lleoliad i’w chael isod:

 

Caerdydd

Canolfan y Mileniwm

Mae sawl opsiwn o ran trafnidiaeth gyhoeddus i’w hystyried wrth deithio i’r lleoliad:

Ar y bws

Yr arhosfan bysiau agosaf i Ganolfan y Mileniwm yw Plas Bute sy’n arhosfan ar gyfer gwasanaethau Bws Caerdydd (6, 8, 9, 99) ac Adventure Travel (C8, 304, 89B) sy’n gweithredu’n rheolaidd yng Nghaerdydd a’r cyffiniau.

Mae’r wybodaeth am amserlen pob gwasanaeth ar gael ar ein tudalen Amserlenni.

Mae’r wybodaeth am brisiau tocynnau pob un o wasanaethau Bws Caerdydd i’w chael yma.

Mae’r wybodaeth am brisiau tocynnau pob un o wasanaethau Adventure Travel i’w chael yma.

I gael unrhyw ddiweddariadau byr rybudd am y gwasanaethau, ewch i’n tudalen Problemau Teithio neu dilynwch @Cardiffbus ac @AdvTravelBus ar Twitter.

 

Ar y trên

Gorsaf Drenau Bae Caerdydd a Gorsaf Caerdydd Canolog yw’r gorsafoedd trenau agosaf i Ganolfan y Mileniwm ac maent yn gweithredu gwasanaethau yn ôl ac ymlaen i’r gogledd, y gorllewin a’r de ac yn cynnig cysylltiadau uniongyrchol â Llundain a Bryste.

Gallwch gynllunio eich taith ar droed o’r orsaf i’r lleoliad drwy ddefnyddio ein Cynlluniwr Cerdded.

Mae’r wybodaeth am brisiau tocynnau trên o bob rhan o Gymru i Gaerdydd i’w chael yma.

I gael unrhyw ddiweddariadau byr rybudd am y gwasanaethau, ewch i wefan Trafnidiaeth Cymru neu dilynwch @transport_wales ar Twitter.

 

Canolfan Gelfyddydau Chapter

Mae sawl opsiwn o ran trafnidiaeth gyhoeddus i’w hystyried wrth deithio i’r lleoliad:

Ar y bws

Yr arosfannau bysiau agosaf i Ganolfan Gelfyddydau Chapter yw Heol Llandaf a Heol y Bont-faen sy’n arosfannau ar gyfer gwasanaethau Bws Caerdydd (2, 17, 18) sy’n gweithredu’n rheolaidd yng Nghaerdydd a’r cyffiniau.

Mae’r wybodaeth am amserlen pob gwasanaeth ar gael ar ein tudalen Amserlenni.

Mae’r wybodaeth am brisiau tocynnau pob un o wasanaethau Bws Caerdydd i’w chael yma.

I gael unrhyw ddiweddariadau byr rybudd am y gwasanaethau, ewch i’n tudalen Problemau Teithio neu dilynwch @Cardiffbus ar Twitter.

 

Ar y trên

Parc Ninian yw’r orsaf drenau agosaf i Ganolfan Gelfyddydau Chapter ac mae’n gweithredu gwasanaethau yn ôl ac ymlaen i Orsaf Caerdydd Canolog.

Gallwch gynllunio eich taith ar droed o’r orsaf i’r lleoliad drwy ddefnyddio ein Cynlluniwr Cerdded.

Mae’r wybodaeth am brisiau tocynnau trên o bob rhan o Gymru i Gaerdydd i’w chael yma.

I gael unrhyw ddiweddariadau byr rybudd am y gwasanaethau, ewch i wefan Trafnidiaeth Cymru neu dilynwch @transport_wales ar Twitter.

 

Bar Porter's Caerdydd, Neuadd Dewi Sant a’r Aes

Mae canol Caerdydd o fewn pellter cerdded i’r holl gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus sydd ar gael yn ôl ac ymlaen i’r ddinas. Mae llawer o opsiynau o ran trafnidiaeth gyhoeddus i’w hystyried wrth deithio i’r lleoliadau:

Ar y bws

Rhai o’r arosfannau bysiau agosaf i Far Porter’s Caerdydd, Neuadd Dewi Sant a’r Aes yw Heol y Porth, Rhodfa Bute a Ffordd Churchill sy’n arosfannau ar gyfer gwasanaethau Bws Caerdydd, Adventure Travel a Stagecoach yn Ne Cymru sy’n gweithredu’n rheolaidd yng Nghaerdydd a’r cyffiniau.

Mae’r wybodaeth am amserlen pob gwasanaeth ar gael ar ein tudalen Amserlenni.

Mae’r wybodaeth am brisiau tocynnau pob un o wasanaethau Bws Caerdydd i’w chael yma.

Mae’r wybodaeth am brisiau tocynnau pob un o wasanaethau Adventure Travel i’w chael yma.

Mae’r wybodaeth am brisiau tocynnau pob un o wasanaethau Stagecoach yn Ne Cymru i’w chael yma.

I gael unrhyw ddiweddariadau byr rybudd am y gwasanaethau, ewch i’n tudalen Problemau Teithio neu dilynwch @Cardiffbus, @AdvTravelBus a @StagecoachWales ar Twitter.

 

Ar y trên

Gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd a Gorsaf Caerdydd Canolog yw’r gorsafoedd trenau agosaf i Far Porter’s Caerdydd, Neuadd Dewi Sant a’r Aes ac maent yn gweithredu gwasanaethau yn ôl ac ymlaen i’r gogledd, y gorllewin a’r de ac yn cynnig cysylltiadau uniongyrchol â Llundain, Bryste a Chanolbarth Lloegr.

Gallwch gynllunio eich taith ar droed o’r orsaf i’r lleoliadau drwy ddefnyddio ein Cynlluniwr Cerdded.

Mae’r wybodaeth am brisiau tocynnau trên o bob rhan o Gymru i Gaerdydd i’w chael yma.

I gael unrhyw ddiweddariadau byr rybudd am y gwasanaethau, ewch i wefan Trafnidiaeth Cymru neu dilynwch @transport_wales ar Twitter.

 

 

Bangor

Canolfan Gelfyddydau Pontio

Mae sawl opsiwn o ran trafnidiaeth gyhoeddus i’w hystyried wrth deithio i’r lleoliad:

Ar y bws

Yr arhosfan bysiau agosaf i Ganolfan Gelfyddydau Pontio yw Gorsaf Fysiau Bangor sy’n arhosfan ar gyfer gwasanaethau Arriva Cymru sy’n gweithredu’n rheolaidd ym Mangor a’r cyffiniau.

Mae’r wybodaeth am amserlen pob gwasanaeth ar gael ar ein tudalen Amserlenni.

Mae’r wybodaeth am brisiau tocynnau pob un o wasanaethau Bysiau Arriva Cymru i’w chael yma.

I gael unrhyw ddiweddariadau byr rybudd am y gwasanaethau, ewch i’n tudalen Problemau Teithio neu dilynwch @Arrivabuswales ar Twitter.

 

Ar y trên

Gorsaf Reilffordd Bangor yw’r orsaf drenau agosaf i Ganolfan Gelfyddydau Pontio ac mae’n gweithredu gwasanaethau yn ôl ac ymlaen i’r gorllewin a’r gogledd a chysylltiadau uniongyrchol â Chaerdydd.

Gallwch gynllunio eich taith ar droed o’r orsaf i’r lleoliad drwy ddefnyddio ein Cynlluniwr Cerdded.

Mae’r wybodaeth am brisiau tocynnau trên o bob rhan o Gymru i Fangor i’w chael yma.

I gael unrhyw ddiweddariadau byr rybudd am y gwasanaethau, ewch i wefan Trafnidiaeth Cymru neu dilynwch @transport_wales ar Twitter.

 

 

Llanelli

Ffwrnes

Mae sawl opsiwn o ran trafnidiaeth gyhoeddus i’w hystyried wrth deithio i’r lleoliad:

Ar y bws

Yr arhosfan bysiau agosaf i Ganolfan Gelfyddydau Ffwrnes yw Gorsaf Fysiau Llanelli sy’n arhosfan ar gyfer gwasanaethau First Cymru sy’n gweithredu’n rheolaidd yn Sir Gaerfyrddin a’r cyffiniau.

Mae’r wybodaeth am amserlen pob gwasanaeth ar gael ar ein tudalen Amserlenni.

Mae’r wybodaeth am brisiau tocynnau pob un o wasanaethau First Cymru i’w chael yma.

I gael unrhyw ddiweddariadau byr rybudd am y gwasanaethau, ewch i’n tudalen Problemau Teithio neu dilynwch @FirstCymru ar Twitter.

 

Ar y trên

Gorsaf Reilffordd Llanelli yw’r orsaf drenau agosaf i Ganolfan Gelfyddydau Ffwrnes, ac mae’n gweithredu gwasanaethau yn ôl ac ymlaen i’r gorllewin a chysylltiadau uniongyrchol ag Abertawe a Manceinion.

Gallwch gynllunio eich taith ar droed o’r orsaf i’r lleoliad drwy ddefnyddio ein Cynlluniwr Cerdded.

Mae’r wybodaeth am brisiau tocynnau trên o bob rhan o Gymru i Lanelli i’w chael yma.

I gael unrhyw ddiweddariadau byr rybudd am y gwasanaethau, ewch i wefan Trafnidiaeth Cymru neu dilynwch @transport_wales ar Twitter.

< Pob digwyddiad