Prisiau tocynnau trên

 

Prynu tocynnau trên  

Nid ydym yn cynnig cyfleusterau prynu tocynnau drwy wefan neu ap Traveline Cymru ar hyn o bryd. Fodd bynnag, wrth ddefnyddio ein Cynlluniwr Taith i chwilio am deithiau trên, fe welwch chi fotwm ‘Prynu tocynnau trên’ ar waelod blwch y canlyniadau chwilio. 

Bydd clicio ar y botwm hwn yn mynd â chi i system archebu tocynnau Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru lle gallwch brynu eich tocyn, waeth pa gwmni trenau yr ydych yn ei ddefnyddio. Gallwch ddewis cael eich tocynnau trwy’r post, eu casglu o beiriant tocynnau neu’u lawrlwytho fel tocyn cod bar ar ddyfais symudol. 

Gallwch hefyd brynu eich tocynnau trên oddi wrth Wasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru yn y ffyrdd canlynol: 

  • Ar ddyfais symudol/ap: Gallwch brynu tocynnau a’u lawrlwytho i ap Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru ar gyfer dyfais symudol, neu ddewis eu casglu o beiriant tocynnau hyd at 5 munud cyn i’r trên adael. Gellir lawrlwytho’r ap o’r App Store neu Google Play. 
  • Dros y ffôn: Gallwch ffonio Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru ar 0333 3211 202 a dewis cael eich tocynnau drwy’r post neu’u casglu o beiriant tocynnau. Mae’r llinellau ar agor rhwng 08:00 a 22:00 o ddydd Llun i ddydd Sadwrn a rhwng 09:00 a 17:00 ar ddydd Sul. 
  • Yn yr orsaf: Gallwch brynu tocynnau yn un o swyddfeydd tocynnauneu beiriannau tocynnau Trafnidiaeth Cymru. Dim ond tocynnau ar gyfer y diwrnod hwnnw y bydd y peiriannau tocynnau’n eu gwerthu. 
  • Ar y trên: Mae’n rhaid i chi brynu eich tocyn cyn i chi fynd ar y trên, oni bai nad oes swyddfa neu beiriant tocynnau yn yr orsaf. 

 

 

Cardiau rheilffordd 

Mae yna bob math o gardiau rheilffordd sy’n caniatáu i chi brynu tocyn trên am bris rhatach, ac maent fel rheol yn rhoi gostyngiad o 1/3 ar bris tocyn i oedolyn. Mae rhai cardiau rheilffordd yn caniatáu i chi’n unig gael tocyn rhatach, tra bydd cardiau eraill yn rhoi gostyngiad i’r bobl sy’n teithio gyda chi hefyd. 

Nid oes cyfyngiad ar sawl gwaith y gallwch ddefnyddio eich cerdyn rheilffordd, er mai dim ond y tu allan i oriau brig y gellir defnyddio rhai cardiau rheilffordd. Fel rheol, gallwch brynu cerdyn rheilffordd sy’n ddilys am flwyddyn, ond mae rhai yn cynnig opsiwn 3 blynedd. 

Mae Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru hefyd yn cynnig cyfres o gardiau rheilffordd ar gyfer teithio ar lwybrau penodol ar draws eu rhwydwaith. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru. 

 

 

Defnyddio Cerdyn Teithio Rhatach Cymru ar drenau 

Os oes gennych Gerdyn Teithio Rhatach gan awdurdod lleol yng Nghymru, gallwch deithio am ddim ar lawer o drenau Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru ar wahanol adegau drwy gydol y flwyddyn. 

Gallwch deithio rhwng: 

  • Wrecsam a Phont Penarlâg 
  • Machynlleth a Phwllheli (Rheilffordd Arfordir y Cambrian) – rhwng mis Hydref a mis Mawrth yn unig 
  • Llandudno a Blaenau Ffestiniog (Rheilffordd Dyffryn Conwy)
  • Amwythig a Llanelli/Abertawe (Rheilffordd Calon Cymru) – rhwng mis Hydref a mis Mawrth yn unig 

Bydd angen i chi gael tocyn rhad ac am ddim o’r swyddfa docynnau cyn i chi deithio. Os nad oes swyddfa docynnau yn yr orsaf neu os yw’r swyddfa ar gau, gallwch gael tocyn gan y Casglwr Tocynnau ar y trên.  

Gallwch hefyd gael 1/3 oddi ar bris tocynnau ar gyfer rhwydwaith Caerdydd a’r Cymoedd ar ôl 09:30 o ddydd Llun i ddydd Gwener ac unrhyw bryd ar benwythnosau a gwyliau banc. 

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru. 

 

 

Dolenni cyswllt defnyddiol: