Cludiant cymunedol

 

Beth yw cludiant cymunedol? 

Mae gwasanaethau cludiant cymunedol yn wasanaethau lleol a gaiff eu teilwra i anghenion y teithiwr. Maent yn darparu cludiant i bobl a fyddai fel arall dan anfantais oherwydd eu hoedran, eu hanawsterau symud, eu hanabledd neu’u lleoliad, ac maent yn cynnig gwasanaeth o ddrws i ddrws a gaiff ei deilwra’n arbennig. 

Ledled Cymru, mae miloedd o staff a gwirfoddolwyr ym maes cludiant cymunedol yn helpu pobl i barhau’n annibynnol, cymryd rhan yn eu cymunedau a chael mynediad i swyddi a gwasanaethau cyhoeddus hollbwysig. 

Os ydych yn rhywun a fyddai’n elwa o ddefnyddio gwasanaethau cludiant cymunedol yn eich ardal, mae gwybodaeth gan sefydliadau ledled Cymru i’w gweld isod. 
 

 

Y Gymdeithas Cludiant Cymunedol 

Y Gymdeithas Cludiant Cymunedol yw’r elusen genedlaethol sy’n cynrychioli ac yn cynorthwyo darparwyr cludiant cymunedol: miloedd o elusennau lleol a grwpiau cymunedol ledled Cymru a gweddill y DU sy’n darparu gwasanaethau trafnidiaeth sy’n cyflawni diben cymdeithasol ac yn cynnig budd i’r gymuned. 

Gan ddefnyddio adnodd ‘Chwilio am ddarparwr Cludiant Cymunedol’ y Gymdeithas Cludiant Cymunedol, gallwch ddod o hyd i’r gwasanaethau canlynol yn eich ardal leol a chael gafael ar eu manylion cyswllt: 

  • Llwybrau bysiau cymunedol 
  • Cynlluniau ceir cymunedol 
  • Cynlluniau o ddrws i ddrws neu gynlluniau galw’r gyrrwr  
  • Cludiant grŵp  
  • Cludiant i leoliadau iechyd 
  • Shopmobility 
  • Olwynion i’r Gwaith 

 I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y Gymdeithas Cludiant Cymunedol. 

 

Gwasanaethau fflecsi  

Mae fflecsi yn gynllun sy’n cael ei weithredu gan Trafnidiaeth Cymru mewn partneriaeth â chynghorau a gweithredwyr bysiau lleol ac sy’n cymryd lle nifer o wasanaethau bws wedi’u hamserlennu. 

Mae fflecsi yn wasanaeth bws sydd â man cychwyn a man gorffen sefydlog, ond sy’n gallu addasu ei lwybr i gasglu a gollwng teithwyr rywle o fewn parth y gwasanaeth fflecsi hwnnw. Yn hytrach na bod teithwyr yn aros wrth arhosfan bysiau i fws gyrraedd, gallant drefnu taith ymlaen llaw dros y ffôn neu drwy ddefnyddio ap neu wefan fflecsi. Bydd teithwyr yn cael gwybod ble y byddant yn cael eu casglu, a fydd yn agos i’r man lle maent, a byddant yn cael gwybod pryd y bydd y bws yn cyrraedd. 

Ar hyn o bryd, mae gwasanaethau fflecsi yn gweithredu yn y mannau canlynol: 

I drefnu eich taith fflecsi, lawrlwythwch ap fflecsi o’r App Store neu o Google Play. Gallwch drefnu taith dros y ffôn hefyd, drwy ffonio 0300 234 0300 (dydd Llun i ddydd Sadwrn: 7am-8pm; dydd Sul: 9am-5pm).