Newyddion

Bridgend buses

Bysiau newydd ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr yn cael croeso swyddogol

14 Chwefror 2014

Datganiad I'r Wasg

Bysiau newydd ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr yn cael croeso swyddogol

Ymunodd Carwyn Jones, yr Aelod Cynulliad dros Ben-y-bont ar Ogwr, â chynrychiolwyr Bus Users Cymru, Cymdeithas Cŵn Tywys y Deillion a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yr wythnos diwethaf i groesawu’r buddsoddiad a wnaed gan First Cymru mewn gwasanaethau bysiau lleol ym Mhen-y-bont ar Ogwr a’r cyffiniau.

Mynychodd Mr Jones a gwahoddedigion eraill ddigwyddiad ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a chafodd gyfle i weld rhai o’r bysiau newydd y mae’r cwmni wedi’u prynu i’w defnyddio yn yr ardal. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae First wedi buddsoddi £4.56 miliwn mewn 31 o fysiau newydd ar gyfer de-ddwyrain Cymru.

Cafodd tri cherbyd eu harddangos i’r gwesteion eu gweld: dau fws Optare Versa – un a brynwyd yr haf diwethaf i’w ddefnyddio ar wasanaeth X2 (rhwng Porth-cawl a Chaerdydd) ac un a brynwyd i’w ddefnyddio ar wasanaeth 63 (rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a Phorth-cawl) – ac un cerbyd ADL Enviro 200. Roedd y bws Enviro 200 yn un o 14 o fysiau a gyrhaeddodd ychydig cyn y Nadolig i’w defnyddio ar wasanaethau 32/36 ym Maesteg ac ar wasanaethau 12 a 22 ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Er bod y bysiau ADL Enviro 200 ychydig yn wahanol i’r modelau Optare Versa, mae pob cerbyd newydd yn cynnwys seddi lledr, ac maent hefyd yn galluogi’r cwsmeriaid i gael mynediad i fand eang di-wifr yn rhad ac am ddim ar y bws wrth iddynt deithio. Yn ogystal, mae tu mewn pob un o’r bysiau newydd ychydig yn fwy hyblyg (o’u cymharu â’r bysiau hŷn sydd yn fflyd First), ac mae hynny’n cynnig mwy o opsiynau i gwsmeriaid sydd â bagiau siopa ar olwynion a chadeiriau gwthio, ac yn sicrhau hefyd bod lle i gwsmeriaid mewn cadair olwyn sy’n dymuno teithio ar y bysiau.

Yn ogystal, mae’r bysiau newydd yn well i’r amgylchedd na’r bysiau blaenorol. Mae gan bob un ohonynt injan Cummins Euro 5 EEV sy’n cynnig perfformiad rhagorol gan gynhyrchu llai o sŵn a llai o allyriadau.

Meddai Justin Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr First Cymru, wrth sôn am y bysiau: “Mae’r bysiau hyn yn ychwanegiad ardderchog at ein fflyd, ac maent yn golygu bod teithio o gwmpas yr ardal yn brofiad llawer mwy pleserus i’n cwsmeriaid. Yn ogystal â’r ffaith eu bod yn cynnwys seddi lledr, mae tu mewn y cerbydau’n fwy hyblyg o lawer gan fod seddi sy’n plygu ar y ddwy ochr ym mhen blaen y cerbydau. Mae hynny’n golygu bod mwy o le ar gael i bobl sy’n teithio gyda bygis neu fagiau siopa ar olwynion, heb fod angen i’r rheini fynd â’r lle a ddarperir ar gyfer cadeiriau olwyn. Mae band eang di-wifr ar gael ar bob bws hefyd, sy’n golygu y gall ein cwsmeriaid fynd ar y we, edrych ar negeseuon e-bost ac ymateb iddynt, neu wneud rhywfaint o siopa ar-lein hyd yn oed, wrth iddynt deithio o gwmpas yr ardal.”

Meddai Carwyn Jones, yr Aelod Cynulliad dros Ben-y-bont ar Ogwr, wrth sôn am yr hyn a welodd: “Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol gan First Cymru, ac rwy’n siŵr y bydd y teithwyr sy’n defnyddio’r gwasanaeth yn elwa’n fawr ohono.”

Meddai’r Cynghorydd Mel Nott, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr: “Mae hwn yn newydd da i gymunedau ym mhob rhan o Gwm Llynfi, ac rwy’n falch o weld First Cymru yn gwneud buddsoddiad mor sylweddol yn rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.”


I gael rhagor o wybodaeth am First Cymru neu weld neu lawrlwytho amserlenni ar gyfer gwasanaethau bysiau lleol, mewngofnodwch ar
www.firstgroup.com/cymru.

Mae First ar Twitter a Facebook hefyd -
www.twitter.com/FirstCymru a www.Facebook.com/FirstCymruBuses.



Mae’r cwmni hefyd wedi creu ap ar gyfer ffonau clyfar Apple ac Android. Mae’r ap yn darparu gwybodaeth am fysiau, gan gynnwys amserlenni, mapiau o lwybrau, prisiau tocynnau, gwybodaeth am unrhyw beth sy’n amharu ar wasanaethau lleol, a newyddion y cwmni. Mae’r ap ar gael i’w lawrlwytho’n rhad ac am ddim o siopau apiau Apple ac Android.

 

DIWEDD


 

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon