Newyddion

Traveline Cymru Logo

Metro Caerdydd: Cynllun i annog pobl i ‘adael eu ceir gartref’

25 Chwefror 2014

Mae cynlluniau ar waith i gyflwyno system drafnidiaeth ranbarthol y bwriedir iddi wella cysylltiadau trafnidiaeth rhwng Caerdydd a de-ddwyrain Cymru. Yn benodol, bydd yn ceisio gwella mynediad i’r brifddinas o Gymoedd Merthyr, Rhymni, Gwent, y Rhondda a Chastell-nedd a bydd yn ceisio annog rhagor o bobl i adael eu ceir gartref a defnyddio’r rhwydwaith newydd. Mae dros 77,000 o bobl yn teithio i Gaerdydd bob dydd i weithio; mae adroddiad diweddar gan yr RAC hefyd yn dangos bod mwyafrif helaeth poblogaeth Cymru a Lloegr sy’n teithio i’r gwaith yn gwneud hynny mewn car yn hytrach na mathau eraill o drafnidiaeth. Gallwch ddarllen mwy am hynny yn ein stori newyddion yma. Disgwylir cynnydd yn nifer y bobl a fydd yn teithio i’r gwaith wrth i’r blynyddoedd fynd rhagddynt, a’r gobaith yw lleihau nifer y defnyddwyr ceir sydd yn y ddinas a’r cyffiniau drwy ddarparu opsiynau gwell o ran trafnidiaeth gyhoeddus i bobl yr ardal.

Gallai’r rhwydwaith cyfan, a fyddai’n cynnwys trenau, bysiau a thramiau, gael ei adeiladu erbyn 2030 a gallai gostio £4 biliwn. Bydd cam cyntaf y gwelliannau’n digwydd rhwng Bae Caerdydd a chanol y ddinas, ac amcangyfrifir y bydd yn costio £18 miliwn. Byddai’r ail gam yn cynnwys gwaith o amgylch Sgwâr Callaghan er mwyn cysylltu’r ardal â gorsaf drenau Caerdydd, a gallai gostio £44 miliwn.

Cafodd y cynllun ei drafod gan uwch-gynghorwyr Caerdydd, a gallai gynnwys datblygu coridor trafnidiaeth i mewn i Rondda Cynon Taf. Mae’r cyfan yn rhan o ymgyrch i wella cysylltiadau yn ardal de Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Graham Hinchey, sef yr aelod cabinet dros gynllunio strategol a thrafnidiaeth, fod lleoedd megis Manceinion a Nottingham wedi dangos bod system fetro ranbarthol yn ffordd “sicr ac amlwg” o gael y sawl sy’n teithio i’r gwaith i roi’r gorau i ddefnyddio eu ceir. Meddai: “Mae tram yn cyfateb i 177 o geir – sy’n cyfateb i dri bws mawr. Gall tram deithio mewn lonydd bysiau, gall deithio ar y ffyrdd, a gall deithio wedyn ar hyd y brif system o draciau trenau. Mae’n debyg mai dyma’r system fwyaf anturus y bydd pobl yn symud iddi o’u ceir.”

Bydd y cyngor llawn yn pleidleisio ddydd Iau 27 Chwefror ynghylch cyllideb a chynllun yr awdurdod ar gyfer sefydlu grŵp gorchwyl ynglŷn â’r metro.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon