Newyddion

Traveline Cymru Logo

Cystadleuaeth Sul y Mamau Bws Caerdydd

21 Mawrth 2014

Mae Bws Caerdydd wedi lansio cystadleuaeth unigryw er mwyn talu teyrnged i famau ar draws Caerdydd.

Mae’r gweithredwr bysiau lleol yn rhoi cyfle unigryw i aelodau’r cyhoedd enwi bws ar ôl eu mam ar Sul y Mamau eleni.

Caiff y sawl sy’n dymuno dangos yn gyhoeddus gymaint y maent yn gwerthfawrogi eu mam eu hannog i gymryd rhan yn y gystadleuaeth ‘Diolch, Mam’ er mwyn cael enw eu mam ar fws penodol am wythnos a chael neges bersonol i’w mam ar y sgriniau sydd ar y bysiau.

Bydd y fam ffodus hefyd yn ennill tusw o flodau ac yn cael cyfle i gael tynnu ei llun gyda’i bws personol.

Meddai Carys Roberts, Cynorthwy-ydd Marchnata Bws Caerdydd: “Mae mamau’n gofalu am bobl eraill bob dydd heb ofyn am unrhyw beth yn ôl. Felly, roeddem am roi cyfle i bobl Caerdydd ddangos yn gyhoeddus ar Sul y Mamau eleni gymaint y maent yn gwerthfawrogi eu mamau. Drwy ein cystadleuaeth unigryw ni, gall un enillydd lwcus ddangos i bawb yng Nghaerdydd bod ei fam/ei mam yn golygu llawer iddo/iddi.”

I gymryd rhan yn y gystadleuaeth, anfonwch neges sy’n cynnwys eich enw, eich manylion cyswllt a’r rheswm pam yr ydych am ddiolch i’ch mam yn gyhoeddus (mewn llai na 50 gair) i’r cyfeiriad canlynol: win@cardiffbus.com erbyn dydd Llun 24 Ebrill 2014.

Ddydd Sul 30 Mawrth, bydd Bws Caerdydd hefyd yn rhannu rhai o’r negeseuon Sul y Mamau drwy ei gyfrifon Facebook a Twitter, gan ddefnyddio’r hashnod #thankyoumum.

Ceir rhagor o fanylion ar wefan Bws Caerdydd.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon