Newyddion

Traveline Cymru Easter Competition

Cymerwch ran yng nghystadleuaeth Llythyr Newyddion y Pasg Traveline Cymru!

04 Ebrill 2014

I ddiolch i bob un ohonoch sydd wedi tanysgrifio i’n e-lythyr newyddion misol, rydym wedi penderfynu lansio Gwobrau Llythyr Newyddion y Pasg!

Byddwn yn dewis 5 o ddarllenwyr lwcus ein llythyr newyddion ym mis Ebrill i gael gwobr arbennig ar gyfer y Pasg! Y cyfan y bydd angen i chi ei wneud i gael cyfle i ennill gwobr yw agor a darllen ein llythyr newyddion ym mis Ebrill pan fydd yn cyrraedd blwch eich e-bost ddydd Gwener 11 Ebrill!

Os nad ydych wedi cofrestru’n barod ac os hoffech chi gael cyfle i ennill gwobr, ewch i’n hafan a thanysgrifiwch drwy nodi eich cyfeiriad e-bost yn y blwch ‘Cadwch mewn cysylltiad’.

Bydd y gystadleuaeth yn cau ddydd Mercher 16 Ebrill a bydd yr enillwyr lwcus yn cael eu hysbysu drwy e-bost ddydd Iau 17 Ebrill. Bydd y gwobrau’n cael eu hanfon allan cyn dydd Gwener 9 Mai, os bydd yr enillwyr wedi cadarnhau eu cyfeiriad.

Pasg Hapus Iawn i chi i gyd a phob lwc! :)


Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon