Newyddion

Traveline Cymru Logo

Wythnos Cerdded i’r Ysgol

08 Mai 2014

Rydym yn annog teuluoedd o bob cwr o Gymru i roi cynnig ar gerdded i’r ysgol yn rhan o’r Wythnos Cerdded i’r Ysgol, gan annog rhieni ac athrawon plant ysgol i adael y car gartref a cherdded rhan o’r ffordd neu’r holl ffordd i’r ysgol.

Nod yr Wythnos Cerdded i’r Ysgol, a gynhelir dros gyfnod o bum diwrnod o ddydd Llun 19 Mai i ddydd Gwener 23 Mai, yw hybu manteision cerdded o safbwynt iechyd a’r amgylchedd ymhlith teuluoedd a phobl ifanc.

Meddai ein Rheolwr Cyffredinol, Graham Walter: “Rydym yn falch o gefnogi’r Wythnos Cerdded i’r Ysgol. I bobl ifanc, mae cerdded yn ffordd wych o gadw’n iach ac yn heini. Gall hefyd eu helpu i ddysgu sgiliau hanfodol o ran diogelwch ar y ffordd, rhyngweithio â’u hamgylchedd lleol a datblygu annibyniaeth. Hyd yn oed os bydd plant ysgol a’u rhieni neu’u gofalwyr yn cerdded rhan o’r daith gan deithio gweddill y ffordd ar fws neu drên, rydym yn hyderus y byddant yn elwa.”

Mae Wythnos Cerdded i’r Ysgol yn rhan o Fis Cerdded Cenedlaethol Living Streets – mis sy’n dathlu manteision cerdded.

Mae’r elusen genedlaethol yn dweud bod rhieni sy’n cerdded yn gweld bod y daith i’r ysgol yn llai o straen, mae eu bil tanwydd yn gostwng, mae eu plant yn perfformio’n well yn yr ysgol ac maen nhw a’u plant yn teimlo’n fwy iach ac yn fwy heini. Mae athrawon hyd yn oed wedi dweud bod disgyblion sy’n cerdded i’r ysgol yn talu mwy o sylw ar ôl cyrraedd eu desgiau.

Meddai Tony Armstrong, Prif Weithredwr Living Streets: “Fis Mai yma, rydym yn annog teuluoedd o bob cwr o’r wlad i roi cynnig ar gerdded yn ystod yr Wythnos Cerdded i’r Ysgol.”

“Rydym ni’n credu y byddwch chi’n synnu at faint o wahaniaeth y gall chwa fach o awyr iach ei wneud. Mae’n rhad ac am ddim, mae’n wyrdd ac yn hawdd, ac yn anad dim, mae’n gweithio. Mae angen i ni annog plant i ddechrau cerdded yn awr a sefydlu arferion iach ar gyfer y dyfodol.

“Cymerodd dros 500,000 o ddisgyblion ran yn Wythnos Cerdded i’r Ysgol 2013, ac mae eleni’n argoeli i fod yn ddigwyddiad hyd yn oed yn fwy.”

http://www.jamjar-pr.co.uk/

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon