Newyddion

Traveline Cymru Logo

Gwaith datblygu systemau a chyfle i gymryd rhan mewn arolwg ynghylch ein ap

09 Gorffennaf 2014

Mae ein rhaglenni presennol ar gyfer cynllunio taith a dangos amserlenni, ein ap ar gyfer dyfeisiau symudol a’n rhaglenni eraill ar gyfer rheoli data bron yn 5 mlwydd oed. Ar ôl llawer o gynllunio ac ymchwilio, mae ffurfiau modwlar newydd ar yr holl systemau wedi’u harchebu a dylent fod ar waith yn llawn erbyn mis Chwefror 2015.

Bydd y systemau newydd yn fwy hyblyg, byddant yn adlewyrchu technoleg newydd a byddant yn cael eu sbarduno’n bennaf gan anghenion ein cwsmeriaid. Mae cost caffael a chynnal y systemau newydd yn is o lawer na chost cynnal y systemau presennol, a byddwn yn gallu cynnig gwybodaeth am deithio ledled y DU yn hytrach na gwybodaeth am deithio yng Nghymru yn unig.

O safbwynt ein ap ar gyfer dyfeisiau symudol, rydym yn bwriadu cynnal cyfres o grwpiau ffocws a byddem yn croesawu unrhyw gyfraniadau a syniadau, drwy gyfrwng ein harolwg ar-lein, gan bawb sy’n defnyddio’r ap.

Os hoffech chi gymryd rhan, gallwch gael gafael ar yr arolwg yma.

Dim ond ychydig funudau y bydd eu hangen arnoch i gwblhau’r arolwg, ac er mwyn diolch i chi am gymryd rhan byddwn yn rhoi CYFLE’N RHAD AC AM DDIM i chi ennill gwerth £50 o docynnau i’w gwario yn siopau’r stryd fawr (bydd telerau ac amodau’n berthnasol). Bydd yr arolwg yn dod i ben ddydd Sul 27 Gorffennaf 2014.

Does dim gwahaniaeth a ydych yn defnyddio ein ap yn rheolaidd neu wedi’i ddefnyddio unwaith yn unig, byddem yn croesawu unrhyw adborth a allai fod gennych ynghylch eich profiadau o’i ddefnyddio, er mwyn i ni allu parhau i gynnig gwasanaeth sy’n diwallu eich anghenion.

Diolch

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon