Newyddion

Traws Cymru T1

Lansio gwasanaeth bws T1 newydd

07 Awst 2014

Ar 4 Awst 2014, lansiodd y Gweinidog Trafnidiaeth Edwina Hart y gwasanaeth bws T1 newydd rhwng Caerfyrddin, Llanbedr Pont Steffan ac Aberystwyth ym Mhrifysgol Llambed.

Noddir y gwasanaeth gan Lywodraeth Cymru fel rhan o rwydwaith hir TrawsCymru. First Cymru fydd yn cynnal y gwasanaeth a bydd y bysiau’n rhedeg bob awr o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, bedair gwaith bod dydd Sul ac o ganlyniad i ymateb teithwyr, bydd y gwasanaeth gyda’r hwyr yn cael ei wella.

Mae’r amserlen wedi’i threfnu’n benodol i gyd-fynd â chynllun Bwcabus yn Nyffryn Teifi ac ardal Llambed ac i gysylltu â’r gwasanaethau trenau yng Nghaerfyrddin ac Aberystwyth.

Bydd lloriau isel i’w gwneud yn hawdd dringo arnynt, seddi cyfforddus a WiFi am ddim ar yr holl fysiau i sicrhau siwrne hwylus.

Meddai’r Gweinidog: “Y llwybr hwn rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth trwy Lambed yw un o’r prysuraf a phwysicaf yn y Gorllewin, felly rwy’n falch iawn bod arian Llywodraeth Cymru yn golygu y caiff y gwasanaeth hanfodol hwn barhau, a hefyd ei wella o safbwynt cyfleustra, hwyluso mynediad a chysur.

“Yn ogystal â chysylltu’r tair prif dref, bydd yn cysylltu cymunedau gwledig llai yng ngogledd Sir Gâr a de Ceredigion gan greu cyswllt mawr ei angen i bobl â swyddi a gwasanaethau.

Ychwanegodd Rheolwr Gyfarwyddwr First Cymru: “Rydym yn falch o’r cyfle hwn i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu’r gwasanaeth. Mae’r T1 yn wasanaeth pwysig iawn, yn cysylltu cymunedau a phrifysgolion pwysig. Rydym yn rhagweld croeso mawr i’r amserlen newydd a fydd, am y tro cyntaf, yn rhoi’r cyfle i bobl deithio ar ddydd Sul a chyda’r hwyr. Mae hwn yn gam positif iawn ymlaen.”

Meddai aelod bwrdd gweithredol Sir Gaerfyrddin dros wasanaethau trafnidiaeth, y Cyng Colin Evans: “Mae pawb wedi gweithio’n galed i ddiogelu’r gwasanaeth gwerthfawr hwn ac rwyf am weld bod ei ddyfodol yn saff trwy gymorth a defnydd cyhoeddus.”

Dywedodd Margaret Everson o Defnyddwyr Bysiau Cymru, “Mae Defnyddwyr Bysiau Cymru’n falch iawn bod dyfodol y gwasanaeth hwn nawr yn ddiogel. I baratoi ar gyfer y broses dendro, trefnon ni gyfarfodydd ymgynghori ar hyd y llwybr gan ei bod yn bwysig i ddefnyddwyr a darpar ddefnyddwyr y gwasanaeth gael cyfle i ddweud eu dweud. Gwnaethon ni roi cyhoeddusrwydd hefyd i’r digwyddiadau i annog pobl nad ydyn nhw’n defnyddio’r bysiau i ddod a dysgu am y gwasanaeth.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon