Newyddion

Richard Workman new Chair of Board of Directors

Richard Workman yn cael ei benodi’n Gadeirydd y Bwrdd Cyfarwyddwyr

17 Tachwedd 2014

Mae Richard Workman wedi cael ei benodi’n Gadeirydd newydd Bwrdd Cyfarwyddwyr Traveline Cymru.

Roedd Richard yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Technegol gyda Chyngor Sir Caerfyrddin, a dechreuodd ar ei swydd ddydd Iau 6 Tachwedd yn dilyn ymddeoliad ein Cadeirydd blaenorol, Alan Kreppel, a fu yn y swydd ers 2006. Mae hon yn swydd am dymor penodol o dair blynedd, a bydd yn golygu bod Richard yn cadeirio Bwrdd Traveline Cymru, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r diwydiant bysiau, Trenau Arriva Cymru, grwpiau cwsmeriaid ac awdurdodau lleol.

Yn rhan o’i rôl newydd, bydd Richard yn gyfrifol am ddarparu arweiniad a chyfeiriad i’r Bwrdd Cyfarwyddwyr a sicrhau bod cyfrifoldeb y Bwrdd am waith llywodraethu cyffredinol, materion gweithredol pwysig a chyfeiriad strategol yn cael ei gyflawni.

Meddai ein Rheolwr Gyfarwyddwr, Graham Walter, “Mae gan Richard wybodaeth unigryw a chyflawn am drafnidiaeth gyhoeddus a materion sy’n ymwneud ag awdurdodau lleol, ac mae’n deall bod angen i deithwyr gael gwybodaeth gywir a’r wybodaeth ddiweddaraf am drafnidiaeth gyhoeddus; bydd hynny o fudd mawr iddo yn y swydd hon. Roedd y Bwrdd am ddod o hyd i rywun sydd â’r gallu nid yn unig i gadeirio cyfarfodydd ond hefyd i gynnig her adeiladol a chymorth i’r sefydliad wrth iddo ddechrau ar y cam nesaf yn y broses ddatblygu.”

Meddai Richard, “Yn sgîl fy mhrofiad o weithio fel Cyfarwyddwr Gwasanaethau Technegol yng Nghyngor Sir Caerfyrddin a gyda Llywodraeth Cymru a gweithredwyr trafnidiaeth yn ystod yr un mlynedd ar ddeg diwethaf, rwy’n awyddus i adeiladu ar y gwaith ardderchog a wnaed hyd yn hyn gan Traveline Cymru i sicrhau bod aelodau’r cyhoedd yn cael yr holl wybodaeth y mae ei hangen arnynt i wneud dewisiadau deallus a chynaliadwy ynghylch teithio.”

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon