Newyddion

Heart of Wales train line

Gwasanaethau ychwanegol ar gyfer y sawl sy’n teithio i’r gwaith ar reilffordd Calon Cymru

16 Ebrill 2015

Mae’r sawl sy’n teithio i’r gwaith bob bore ar reilffordd Calon Cymru, sy’n rhedeg drwy Rydaman a Dyffryn Tywi, wedi cael rhywfaint o newyddion da oherwydd bydd gwasanaethau ychwanegol ar gael yn y boreau. Mae’r gwasanaethau newydd yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru, ac mae’r amseroedd wedi’u cyhoeddi yn amserlen Trenau Arriva Cymru, y mae disgwyl iddi ddechrau ddydd Sul 17 Mai 2015.

Darganfu arolwg gan Fforwm Rheilffordd Calon Cymru fod galw mawr am wasanaethau newydd yn ogystal â newidiadau i amserlenni, er mwyn gwasanaethu’r sawl sy’n teithio i’r gwaith yn well.

Yn ogystal, bydd y gwasanaethau newydd ar gyfer teithiau rhwng Llanymddyfri ac Abertawe yn creu 20 o swyddi newydd ar gyfer staff ar drenau ac yn y depo. Meddai’r Gweinidog Trafnidiaeth Edwina Hart wrth gyhoeddi’r gwasanaethau ychwanegol, “Mae’r buddsoddiadau hyn yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus, sy’n ffordd hanfodol i lawer o bobl, gan gynnwys rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, gael swyddi a gwasanaethau. Dangosodd yr arolwg gan Fforwm Rheilffordd Calon Cymru yn glir beth yw manteision y gwasanaethau gwell ac ychwanegol hyn i’r sawl sy’n teithio i’r gwaith ac i fusnesau lleol, twristiaeth a myfyrwyr prifysgol.”

Meddai Mansel Williams, Cadeirydd Fforwm Rheilffordd Calon Cymru, “Mae’r gwasanaethau newydd hyn yn newyddion ardderchog ac maent yn darparu gwasanaeth hanfodol i drigolion, y sawl sy’n teithio i’r gwaith, twristiaid a myfyrwyr yn yr ardal. Rwyf wrth fy modd bod y Gweinidog a Trenau Arriva wedi gallu dod o hyd i ffordd o ddarparu’r trenau ychwanegol hyn a fydd, rwy’n siŵr, yn rhoi hwb mawr i’r economi leol. Rydym wrth ein bodd bod ein pwyllgor wedi gallu dechrau a chyflawni’r broses sydd wedi arwain at ganlyniad mor gadarnhaol.”

Gallwch ddarllen rhagor am y stori hon yn southwalesguardian.co.uk

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon