Newyddion

Traveline News and Updates

Rhybudd gan Trenau Arriva Cymru ynghylch dirwy am beidio â phrynu tocyn

20 Gorffennaf 2015

Mae rheolwyr Trenau Arriva Cymru wedi rhybuddio y gallai teithwyr sy’n camu ar drenau heb docyn wynebu dirwy o £70 o hyn ymlaen os na fyddant yn ceisio chwilio am aelod o staff er mwyn prynu tocyn.

Yn y gorffennol, byddai teithwyr a oedd yn defnyddio gorsafoedd heb staff ar draws Cymru yn eistedd ar y trên ac yn aros i aelod o staff eu cyrraedd gyda pheiriant tocynnau symudol. Erbyn hyn, fodd bynnag, cyfrifoldeb y teithwyr yw cerdded drwy’r trên i chwilio am yr aelod o staff er mwyn osgoi cael dirwy.

Yn ôl y gweithdrefnau newydd, bydd cwsmeriaid sy’n methu â dod o hyd i aelod o staff yn cael eu trin fel pobl sy’n ceisio osgoi prynu tocyn.

Mae Trenau Arriva Cymru hefyd wedi cynghori cwsmeriaid i ddefnyddio’r peiriannau newydd gwerthu tocynnau sydd ar blatfformau lle nad oes staff, cyn camu ar y trên.

Efallai na fydd anwybyddu peiriant tocynnau oherwydd diffyg amser i brynu tocyn cyn i’r trên gyrraedd yn cael ei dderbyn yn awr fel rheswm dilys dros deithio heb docyn.

Meddai Paul Tapley, Pennaeth Marchnata Trenau Arriva Cymru: “Er bod y rhan fwyaf o’n cwsmeriaid yn talu am eu tocynnau yn y ffordd gywir, rydym yn dal mewn sefyllfa lle nad yw tocynnau gwerth miliynau lawer o bunnoedd yn cael eu prynu oherwydd bod pobl yn cymryd camau bwriadol i osgoi prynu’r tocyn cywir.

“Mae hynny’n annheg i’r teithwyr gonest sy’n talu am eu tocynnau, ac mae’n broblem i’n cwsmer mwyaf, sef Llywodraeth Cymru.”

Ceir rhagor o fanylion yma ar wefan Wales Online.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon