Newyddion

Traveline news and updates

Streic ar y rheilffyrdd yn effeithio ar wasanaethau trên de Cymru dros Ŵyl y Banc mis Awst

13 Awst 2015

Oherwydd yr anghydfod ag undeb rheilffyrdd yr RMT, bydd streiciau rheilffyrdd yn cael eu cynnal ddydd Sul 23 Awst a rhwng dydd Sadwrn 29 Awst a 31 Awst, sef dydd Llun Gŵyl y Banc, a byddant yn effeithio’n sylweddol ar wasanaethau First Great Western.

Sut y bydd y streiciau’n effeithio ar fy nhaith i?

Mae cwmni First Great Western wedi cadarnhau y bydd yn rhedeg y gwasanaethau canlynol yn ardal de Cymru:

  • Paddington Llundain – Caerdydd drwy Parkway Bryste: un trên yr awr i’r ddau gyfeiriad.
  • Caerdydd – Taunton: dim ond rhwng Temple Meads Bryste a Taunton y bydd gwasanaethau’n rhedeg. Gall cwsmeriaid newid yng ngorsaf Temple Meads Bryste er mwyn dal trenau i Parkway Bryste a de Cymru. 

Gall cwsmeriaid ddefnyddio gwasanaeth rhif 100 Greyhound rhwng Abertawe a Chaerdydd (pris tocyn diwrnod i oedolyn yw £5.50). Bydd tocynnau tymor yn cael eu derbyn ar y llwybr hwn. Gellir cael gafael ar ragor o wybodaeth yma.

Bydd gwasanaethau Trenau Arriva Cymru yn derbyn tocynnau First Great Western ar ddiwrnodau’r streiciau ar y llwybrau canlynol:

  • Caerfyrddin - Abertawe
  • Abertawe - Casnewydd 
  • Casnewydd - Henffordd
  • Casnewydd - Cheltenham 

Mae cwmni Arriva Trains Wales yn disgwyl y bydd ei wasanaethau rhwng Caerdydd ac Abertawe yn brysur ac mae’n bwriadu ychwanegu rhagor o gapasiti a gwasanaethau lle bo modd.

Derbyn tocynnau

Dydd Sul 23 Awst
Os oes gennych docynnau i deithio ddydd Sul 23 Awst, bydd eich tocyn yn cael ei dderbyn hefyd ar wasanaethau First Great Western ddydd Sadwrn 22 Awst. Yn ogystal, bydd y sawl sydd â thocynnau Advance yn cael teithio ar y gwasanaeth olaf cyn y trên yr archebwyd tocyn ar ei gyfer neu’r gwasanaeth cyntaf ar ôl y trên hwnnw.

Os yw eich taith yn cynnwys llinell lle nad yw First Great Western yn bwriadu cynnig unrhyw wasanaeth o gwbl ddydd Sul 23 Awst, gallwch hefyd deithio ar unrhyw wasanaethau First Great Western sy’n rhedeg y tu allan i’r oriau brig ddydd Llun 24 Awst. 

Dydd Sadwrn 29 Awst i ddydd Llun 31 Awst 
Os oes gennych docynnau ar gyfer dydd Sadwrn 29 Awst, dydd Sul 30 Awst neu ddydd Llun 31 Awst, gallwch deithio ar unrhyw un o’r diwrnodau hynny. Yn ogystal, bydd y sawl sydd â thocynnau Advance yn cael teithio ar y gwasanaeth olaf cyn y trên yr archebwyd tocyn ar ei gyfer neu’r gwasanaeth cyntaf ar ôl y trên hwnnw.

Os yw eich taith yn cynnwys llinell lle nad yw First Great Western yn bwriadu cynnig unrhyw wasanaeth o gwbl ddydd Llun 31 Awst, gallwch hefyd deithio ar unrhyw wasanaethau First Great Western sy’n rhedeg y tu allan i’r oriau brig ddydd Mawrth 1 Medi.

Bydd cwsmeriaid sy’n dewis peidio â theithio’n gallu cael ad-daliad llawn. 

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch pa wasanaethau y bydd y streiciau’n effeithio arnynt, ewch i wefan First Great Western yma.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon