Newyddion

Arriva Trains Wales trial video ticket machines

Trenau Arriva Cymru – y gweithredwr cyntaf yn y DU i dreialu peiriannau tocynnau sy’n defnyddio cyswllt fideo

07 Hydref 2015

Trenau Arriva yw’r gweithredwr trenau cyntaf yn y DU i dreialu peiriannau tocynnau sy’n defnyddio cyswllt fideo â swyddfa docynnau lle ceir staff.

Mae Trenau Arriva Cymru wedi addasu peiriannau tocynnau yn Llanelli, Pontypridd a Dociau’r Barri er mwyn i deithwyr ac aelod o staff allu gweld ei gilydd ar sgrîn pan fydd angen help, yn enwedig pan na fydd staff ar gael yn y gorsafoedd hynny.

Mae’r swyddfeydd archebu tocynnau yn Llanelli a Phontypridd yn cau tua amser cinio, ac nid oes staff o gwbl yng ngorsaf Dociau’r Barri. Os bydd y cyfnod treialu’n llwyddiant, mae Trenau Arriva Cymru yn gobeithio cyflwyno’r cyfleuster mewn llawer o orsafoedd eraill.

Mae’r grŵp teithwyr Railfuture South Wales wedi croesawu’r datblygiad arloesol hwn gan Drenau Arriva Cymru, ond dywedodd na ddylai’r dechnoleg fideo fod yn esgus i leihau’r graddau y caiff swyddfeydd archebu tocynnau mewn gorsafoedd eu staffio, sy’n rhywbeth y mae Trenau Arriva Cymru wedi mynnu nad yw’n bwriadu ei wneud.

Meddai Lynne Milligan, cyfarwyddwr gwasanaethau cwsmeriaid Trenau Arriva Cymru: “Cafodd y tair gorsaf beilot eu dewis yn ofalus ar sail nifer y bobl sy’n eu defnyddio a’u horiau agor presennol, er mwyn treialu’r cysyniad a chael adborth gan gwsmeriaid. Nid oes gennym unrhyw gynlluniau i leihau’r graddau y caiff gorsafoedd eu staffio.”

Ar hyn o bryd, mae’r sawl sy’n defnyddio’r cyfleuster yn cael eu cysylltu â’r swyddfa archebu tocynnau yng ngorsaf Caerdydd Canolog. Os bydd y syniad o ddarparu cymorth trwy gyfleuster fideo’n cael ei gyflwyno ar draws Cymru a’r Gororau, un opsiwn posibl fyddai trosglwyddo galwadau i swyddfeydd archebu tocynnau Trenau Arriva Cymru, yn hytrach nag i orsaf Caerdydd Canolog yn unig. Byddai hynny’n galluogi staff yn y canolbarth, er enghraifft, i ateb ymholiadau fideo o’r Cymoedd neu’r gogledd yn ystod oriau brig pan fo swyddfa archebu tocynnau Caerdydd Canolog yn brysur.

I ddarllen rhagor am y stori, ewch i wefan Wales Online.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon