Newyddion

Traveline News and Updates

First Cymru yn lansio ei Siarter Cwsmeriaid newydd

14 Hydref 2015

Mae’r gweithredwr bysiau First Cymru yn lansio ei Siarter Cwsmeriaid newydd. Bydd tîm First Cymru gan gynnwys Justin Davies, y Rheolwr Gyfarwyddwr, yn lansio’r Siarter yng Ngorsaf Fysiau Abertawe yng nghanol dinas Abertawe ddydd Iau 15 Hydref.

Mae’r ddogfen yn egluro’n union beth y gall cwsmeriaid ei ddisgwyl pan fyddant yn teithio ar un o fysiau First Cymru, a chafodd ei llunio ar y cyd â Bus Users Cymru, sef corff annibynnol sy’n gweithio gyda gweithredwyr bysiau, Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill i wella safonau ar fysiau ledled Cymru.

Bydd y ddogfen, sydd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, i’w gweld ar-lein ar www.firstgroup.com/cymru ac yng ngorsafoedd bysiau First Cymru ac mewn rhai llyfrgelloedd lleol. 

Y syniad y tu ôl i’r Siarter Cwsmeriaid yw bod set glir o ddisgwyliadau’n cael ei rhoi i’r cwsmer a’r cwmni, sy’n golygu bod y cwsmeriaid yn gwybod yn union beth i’w ddisgwyl ac, ar yr adegau prin pan fydd rhywbeth yn mynd o’i le, eu bod yn gwybod beth y bydd y cwmni’n ei wneud i gywiro camgymeriadau.

Mae’r Siarter yn cynnwys gwybodaeth am bopeth y gallai fod angen i gwsmer ei wybod neu y gallai cwsmer ddod ar ei draws wrth deithio ar un o fysiau First, o wybodaeth ynghylch sut i brynu tocyn i wybodaeth ynghylch a oes modd mynd â bwrdd syrffio gyda chi ar fws. Mae hefyd yn cynnwys manylion ynghylch sut y gall cwsmeriaid gysylltu â First os ydynt am wneud sylw neu gwyno.

Meddai Justin Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr First Cymru: “Rydym yn falch o lansio’r Siarter Cwsmeriaid sydd wedi’i diweddaru. Mae’r Siarter yn nodi cyfres o addewidion yr ydym o ddifrif yn eu cylch. Mae cwsmeriaid wrth wraidd ein busnes, a hebddynt ni fyddem yn bodoli. Dyna pam yr ydym wedi ymrwymo’n llwyr o hyd i fodloni eu dymuniadau.”

Ychwanegodd: “Mae’r Siarter Cwsmeriaid hefyd yn helpu’r bobl hynny nad ydynt yn arfer teithio ar fysiau, oherwydd mae’n cynnwys yr holl wybodaeth y mae ei hangen ar rywun i ddal un o fysiau First Cymru. Mae’r Siarter hefyd yn cynnwys manylion ynghylch beth y dylai pobl ei wneud os nad yw’r gwasanaeth yr ydym yn ei ddarparu’n ddigon da. Mae adborth, boed yn gadarnhaol neu’n negyddol, yn bwysig iawn oherwydd mae’n ein galluogi i ddysgu gwersi ar gyfer y tro nesaf.”

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon