Newyddion

Traveline News and Updates

Dweud eich dweud am rwydweithiau cerdded a beicio Caerdydd: ymgynghori ynghylch y Map Llwybrau Presennol

21 Hydref 2015

Mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i gynllunio, gwella a hyrwyddo llwybrau cerdded a beicio ar gyfer teithiau pob dydd. Er mwyn cyflawni’r ddyletswydd hon rhaid i awdurdodau lleol gyhoeddi Map Llwybrau Presennol sy’n dangos y llwybrau addas ar gyfer cerdded neu feicio sy’n bodloni’r safonau a nodwyd yng Nghanllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer Dylunio Teithio Llesol.

Mae fersiwn ddrafft o’r Map Llwybrau Presennol ar gyfer Caerdydd ar gael yn awr, ac mae Cyngor Caerdydd am gael eich barn am addasrwydd y llwybrau a ddangosir ynddi.

Byddai’r Cyngor hefyd yn croesawu eich awgrymiadau ynghylch gwelliannau i lwybrau cerdded a beicio yng Nghaerdydd yn y dyfodol, a fydd yn cyfrannu at ddatblygu’r Map Rhwydwaith Integredig, sef cynllun 15 mlynedd ar gyfer gwella llwybrau cerdded a beicio yn y dyfodol.

Mae manylion am yr ymgynghoriad, gan gynnwys y mapiau ac arolwg ar-lein, ar gael ar www.cardiff.gov.uk/activetravel

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau yw 29 Rhagfyr 2015.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon