Newyddion

Traveline Cymru University Student website

Wedi dechrau’r brifysgol? Rydym yma i’ch helpu wrth i chi fynd i bob man fel myfyriwr!

22 Hydref 2015

Gall dechrau’r brifysgol fod yn brofiad brawychus, yn enwedig os ydych wedi symud i dref neu ddinas newydd. Waeth a ydych wedi symud yn ddiweddar ac yn dechrau dod i ddeall ble mae popeth, neu’ch bod yn fyfyriwr sydd wedi ymgartrefu ac sy’n chwilio am ffyrdd gwell o deithio i’r brifysgol, rydych wedi dod i’r man iawn.

Yma yn Traveline Cymru, rydym wedi creu’r wefan Mynd i Bob Man fel Myfyriwr sy’n llawn o’r wybodaeth y mae arnoch ei hangen i ddod o hyd i wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yn eich ardal! O bori drwy’r wefan gallwch gynllunio eich teithiau, dod o hyd i’ch arosfannau bysiau a chael y newyddion diweddaraf am drafnidiaeth.

Ydych chi am ddod o hyd i lwybr bysiau rheolaidd rhwng eich llety a’r campws? Drwy ddefnyddio ein cynlluniwr taith, gallwch chwilio am eich llwybr i weld pa deithiau sydd ar gael a gallwch weld mapiau i’ch helpu i ddychmygu’r daith. Os ydych yn cael noson allan haeddiannol ar ôl bod yn astudio, gallwch ddefnyddio ein gwasanaeth negeseuon testun i gael gwybodaeth am y bws nesaf a fydd yn cyrraedd eich arhosfan agosaf. Mae’r gwasanaeth hwn yn ddelfrydol i’r sawl sydd heb ffôn clyfar! Gellir gweld yr holl wybodaeth hon a llawer mwy ar y wefan Mynd i Bob Man fel Myfyriwr.

Mae eich taith drwy’r brifysgol yn siŵr o fod yn brofiad cyffrous a fydd yn rhoi llawer o foddhad i chi ac mae’n brofiad na fyddwch fyth yn ei anghofio, ac rydym ni yma i helpu i’ch rhoi ar ben ffordd! Cymerwch gip ar y wefan a rhannwch hi â’ch ffrindiau a’ch cydfyfyrwyr gan ddefnyddio’r hashnod #myndibobmanfelmyfyriwr!

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon