Newyddion

Traveline Cymru News and Updates

Bws Caerdydd yn cynnig teithiau’n rhad ac am ddim i aelodau a chyn-aelodau’r lluoedd arfog ar Sul y Cofio

06 Tachwedd 2015

I nodi Sul y Cofio, mae Bws Caerdydd yn cynnig teithiau’n rhad ac am ddim i’r sawl sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog.

Bydd cwsmeriaid sy’n teithio i wasanaethau Sul y Cofio arbennig ar 8 Tachwedd ac sy’n gwisgo eu lifrau milwrol neu’n sy’n gallu profi eu bod wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog yn cael teithio am ddim (ac eithrio gwasanaethau parcio a theithio).

Bydd y sawl sydd â cherdyn teithio rhatach Cymru gyfan yn dal i orfod dilysu’r daith ar beiriant tocynnau’r bws.

Mae’r gweithredwr bysiau’n cynnig y cyfle i deithio’n rhad ac am ddim er mwyn anrhydeddu milwyr lleol a thalu teyrnged i’w haberth.

Meddai Richard Davies, Cyfarwyddwr Gweithrediadau a Masnach Bws Caerdydd: “Mae gan lawer o’n cwsmeriaid a’n staff berthnasau a ffrindiau sy’n aelodau neu’n gyn-aelodau o’r lluoedd arfog ac a fydd yn teithio i wahanol ddigwyddiadau Sul y Cofio y dydd Sul hwn, ac rydym yn falch o allu dangos ein cefnogaeth yn y modd hwn.

“Roeddem am ddangos arwydd bach o’n diolchgarwch am eu blynyddoedd o wasanaeth, a chwarae rhan yn y weithred o gofio’r rhai a fu farw ar faes y gad.”

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon