Newyddion

BayTrans Visit Wales Year of Adventure

Ar fws i fwynhau antur!

11 Chwefror 2016

Roedd digon o ddŵr yn llifo dros Sgŵd Gwladus heddiw i groesawu deg o fyfyrwyr twristiaeth o Brifysgol y Drindod Dewi Sant yn Abertawe, a oedd wedi teithio ar y bws ‘Clipiwr’ X55 o Abertawe i ardal y rhaeadrau yng Nghwm Nedd i fwynhau antur. Roedd y myfyrwyr wedi cynnal gweithdy’n ddiweddar ar y cyfleoedd y mae trafnidiaeth gyhoeddus yn eu cynnig i ymwelwyr sy’n chwilio am antur.

Mae Andrew Campbell, Pennaeth yr Ysgol Dwristiaeth a Lletygarwch yn y Brifysgol, yn falch iawn o’r enghraifft hon o theori gweithdy’n cael ei rhoi ar waith mewn modd sy’n cyfoethogi dealltwriaeth y myfyrwyr. Mae’n gwerthfawrogi’r cydweithio rhwng y Brifysgol a BayTrans. Roedd Elin, sy’n hanu o Fetws-y-coed ac sy’n 20 oed heddiw, yn un o’r myfyrwyr a gymerodd ran. Meddai: “Roedd yn ddiwrnod allan llawn antur ac yn brofiad annisgwyl, oherwydd nid oedd yr un ohonom yn sylweddoli bod yr ardal wych hon sy’n llawn rhaeadrau’n bodoli mor agos i Abertawe. Roedd hi mor hawdd teithio yno ar y bws ac roedd gweld yr holl ddŵr yn llifo ar ôl y glaw trwm yn fonws; byddaf yn bendant yn sôn wrth fy ffrindiau am ein hantur heddiw.”

 


 

Darparu bysiau i fwynhau gweithgareddau antur yng nghymoedd Castell-nedd Port Talbot yw cyfraniad BayTrans i Flwyddyn Antur 2016 Croeso Cymru. Yn ddiweddar, sicrhaodd y Bartneriaeth gyllid drwy’r rhaglen Adfywio Castell-nedd Port Talbot sy’n rhan o Bartneriaeth Cynllun Datblygu Gwledig Cymru. Yn ystod y ddwy flynedd nesaf, bydd y Bartneriaeth yn annog rhagor o bobl i ymweld â’r cymoedd gan ddefnyddio’r cysylltiadau ardderchog sydd ar gael o ran trafnidiaeth gyhoeddus. Mae Swyddog y Bartneriaeth, John Davies, yn gobeithio y bydd ei lwyddiant diweddar wrth gael llawer o ymwelwyr tramor i ddefnyddio bysiau ym mro Gŵyr yn cael ei efelychu yn y cymoedd.

Mae gwasanaeth rhif X55 rhwng Abertawe a Chastell-nedd yn un o rwydwaith o wasanaethau cyflym ‘Clipiwr Cymru’, a chafodd ei ymestyn yn ddiweddar i ardal y rhaeadrau ym Mhontneddfechan. Gall bysiau ‘Clipiwr’ fynd ag ymwelwyr i raeadrau eraill hefyd; gallant fynd â nhw’n syth i Barc Gwledig Margam; a gallant eu cludo i ystod eang o weithgareddau antur a llwybrau cerdded yn y cymoedd. Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr First Cymru, Justin Davies, ei fod yn disgwyl i’r bysiau ‘Clipiwr’ helpu i adfywio twristiaeth yn y cymoedd drwy gynnig ffordd hawdd o fwynhau antur i’r sawl nad oes ganddynt gar neu nad ydynt am ddefnyddio eu car.

DIWEDD

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â John Davies drwy ffonio 07967 389329 neu ebostio johnbaytrans@btinternet.com 

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon