Newyddion

Bws Arfordir Llyn Coastal Bus service

Cyflwyno gwasanaeth Bws Arfordir Llŷn

25 Chwefror 2016

Mae Bws Arfordir Llŷn yn wasanaeth bysiau newydd a fydd yn rhedeg ar hyd arfordir y gogledd-orllewin o fis Mawrth. Bydd y gwasanaeth yn dilyn amserlen benodol a bydd hefyd yn cynnig gwasanaeth hyblyg mewn ardaloedd gwledig.

Bydd dau fws yn gwasanaethu 5 lleoliad penodol, sef Aber-soch, Porth Neigwl, Aberdaron, Porthor a Nefyn. Mae’r daflen wybodaeth sydd ar gael yma yn dangos yr amseroedd y bydd y bysiau’n gadael pob un o’r lleoedd hyn. Gall teithwyr ddal y bws, os oes lle ar gael arno, heb gadw lle o flaen llaw. Gellir cludo teithwyr sydd heb gadw lle o’r lleoedd penodol hyn neu gellir eu codi mewn unrhyw leoliad diogel ar hyd y daith dim ond iddynt wneud arwydd ar y bws i stopio. Bydd teithwyr sydd wedi cadw lle yn cael blaenoriaeth.

Mae hwn yn wasanaeth hyblyg, sy’n golygu y gall teithwyr sydd wedi cadw lle o flaen llaw deithio’n ôl ac ymlaen o unrhyw fan sydd yn y rhan o’r map sydd wedi’i lliwio’n binc.

Bydd y gwasanaeth ar gael o 24 Mawrth tan 30 Hydref 2016.

I gael yr holl fanylion am y gwasanaeth yn ogystal â gwybodaeth am sut i gadw sedd, ewch i’r wefan www.bwsarfordirllyn.co.uk.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon