Newyddion

Jo Foxall, marketing manager of Traveline Cymru

Traveline Cymru yn cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr Womenspire

18 Mawrth 2016

Mae Traveline Cymru, gwasanaeth gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus Llywodraeth Cymru, wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr Womenspire yng nghategori’r sector cyhoeddus.

Nod gwobrau cyntaf Womenspire, a gynhelir gan Chwarae Teg, yw dathlu cyflawniadau menywod Cymru o bob cefndir sy’n gwneud pethau eithriadol ym mhob agwedd ar eu bywyd bob dydd.

Mae Traveline Cymru yn fusnes yng Nghymru sy’n cyflogi 35 o bobl mewn safle yng nghanol Caerdydd a safle ym Mhenrhyndeudraeth, ac mae 20 o’r 35 sy’n cael eu cyflogi’n fenywod. Enwebwyd y busnes oherwydd ei ymrwymiad i bolisïau a phrosesau sy’n gefnogol i deuluoedd, oherwydd ei raglen o hyfforddiant a chyfleoedd datblygu ac oherwydd y buddsoddiad y mae’n ei wneud yn ei weithwyr.

Meddai Jo Foxall, Rheolwr Marchnata Traveline Cymru:

“Rydym wrth ein bodd o gael ein cynnwys ar y rhestr fer ar gyfer gwobr Womenspire. Fel busnes rydym wedi ymrwymo i alluogi a datblygu ein staff drwy gyfleoedd hyfforddi, prosesau a pholisïau hyblyg.

“Yn aml iawn, dynion sy’n cyflawni’r swyddi rheoli yn y sector trafnidiaeth gyhoeddus, fodd bynnag rydym yn falch o ddweud ein bod yn sefydliad sy’n cyflogi nifer fawr o fenywod ymroddedig, disglair a deallus. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd sy’n galluogi ein holl weithwyr i ffynnu.

“Rydym ni o’r farn bod Chwarae Teg yn sefydliad yng Nghymru sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod sefydliadau’n gweithredu polisïau, megis y rhai yr ydym ni’n eu cynnig, sy’n creu amgylchedd lle gall menywod ffynnu. Rydym yn gobeithio datblygu’n sefydliad y gellir ei ddefnyddio’n enghraifft o arfer gorau.”

Ar hyn o bryd, mae nifer o’r menywod yn nhîm Traveline Cymru yn astudio am gymhwyster yn y tymor hir, megis cymhwyster Marchnata Digidol y Sefydliad Marchnata Siartredig, cymhwyster Arweinyddiaeth y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth a chymwysterau NVQ ym maes gwasanaethau i gwsmeriaid.

Meddai Joy Kent, Prif Weithredwr Chwarae Teg:

“Rydym ni o’r farn bod gwasanaethau cyhoeddus yn elwa o gael eu cynllunio a’u darparu gan weithlu sydd â nifer gytbwys o fenywod a dynion, sy’n adlewyrchu’r bobl y maent yn eu gwasanaethu, felly mae clywed bod Traveline Cymru wedi newid o fod yn weithlu sy’n cynnwys dynion yn bennaf i fod yn weithlu mwy cytbwys yn golygu bod y sefydliad yn ymgeisydd gwych ar gyfer y wobr.

“Yn ogystal, dangosodd Traveline Cymru ymrwymiad cryf i helpu aelodau o staff i gyfrannu’n llawn at y gweithlu drwy ddefnyddio polisïau gweithio hyblyg a gweithio o bell. Roedd y beirniaid yn falch iawn o gael cynnwys Traveline Cymru ar y rhestr fer ar gyfer gwobr Cyflogwr y Flwyddyn yn y Sector Cyhoeddus.”

Y sefydliadau eraill sydd wedi’u cynnwys ar y rhestr fer yng nghategori’r sector cyhoeddus yw Heddlu De Cymru, y DVLA a Phrifysgol Bangor.

Caiff enwau enillwyr yr holl wobrau Womenspire eu cyhoeddi yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ddydd Iau 14 Ebrill 2016 mewn seremoni arbennig, lle bydd y sawl sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol a gwesteion o bob cwr o Gymru yn bresennol.

Ychwanegodd Ms Foxall:

“Rydym yn gobeithio y bydd cyrraedd y rhestr fer yn codi proffil Traveline Cymru fel sefydliad sy’n lle dymunol i unrhyw un weithio ynddo. Rydym yn edrych ymlaen at y seremoni ac yn croesi bysedd y byddwn yn llwyddiannus.”

Business News Wales 

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon