Newyddion

Traveline Cymru 0300 number

Traveline Cymru yn cyflwyno rhif ffôn rhatach 0300

01 Ebrill 2016

Mae Traveline Cymru wedi newid ei rif ffôn o 0871 i 0300 er mwyn iddi fod yn rhatach i’w gwsmeriaid yng Nghymru ddefnyddio ei wasanaethau.

O heddiw ymlaen, bydd gwasanaeth gwybodaeth Llywodraeth Cymru am drafnidiaeth gyhoeddus yn symud i 0300 200 22 33, a bydd cost ffonio’r rhif hwn yr un faint â chost ffonio rhifau daearyddol sy’n dechrau â 01 neu 02.

Caiff galwadau i rifau 0300 eu cynnwys yn aml mewn munudau rhad ac am ddim, cynlluniau disgownt neu fwndeli, yn yr un modd â galwadau daearyddol. Felly, byddant yn aml yn rhad ac am ddim.

Mae gwasanaeth ffôn Traveline Cymru, a ddarperir gan ei ganolfan alwadau ddwyieithog yn y gogledd, yn rhannu gwybodaeth am gynllunio teithiau a gwybodaeth am lwybrau ac amserlenni ar gyfer pob gwasanaeth bws a thrên yng Nghymru.

Mae’r ganolfan alwadau, a ddathlodd ei phen-blwydd yn 10 oed yn 2015, wedi ymdrin â thros 2.8 miliwn o alwadau yn ystod y degawd diwethaf, sef bron un alwad i bob person sy’n byw yng Nghymru.

Er gwaethaf ymddangosiad technolegau digidol a symudol Traveline Cymru, mae’r ganolfan alwadau’n dal i ymdrin â 90,000 o alwadau’r flwyddyn.

Meddai Graham Walter, Rheolwr Gyfarwyddwr Traveline Cymru: “Rydym wedi newid i rif 0300 oherwydd ein bod am sicrhau bod ein cwsmeriaid yn gallu defnyddio ein gwasanaethau am bris mor rhad ag sy’n bosibl.

“Cafodd rhifau 0300 eu creu gan Ofcom i gyd-fynd â’r rhifau lleol 01 a 02, a chodir tâl yn yr un modd amdanynt. Hynny yw, mae galwad i rif 03 yn costio’n union yr un faint â galwad i rif 01 neu 02. Mae’r gost yr un fath o ffôn symudol hyd yn oed, a gall galwadau fod yn rhad ac am ddim os oes gan y sawl sy’n ffonio becyn munudau’n rhan o’i gontract.

“Mae’r newid yn golygu y bydd y 90,000 o alwadau’r flwyddyn y mae ein canolfan alwadau’n ymdrin â nhw yn rhatach i’n cwsmeriaid, ac mae’n rhaid bod hynny’n beth da o safbwynt sicrhau bod ein gwasanaethau’n fwy hygyrch.”

Meddai Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: “Mae Traveline Cymru yn ddolen gyswllt hollbwysig i bobl Cymru o safbwynt darparu gwybodaeth i deithwyr, a bydd newid i rif 0300 yn golygu y bydd ei wasanaethau’n fwy hygyrch fyth. Er i wasanaethau digidol Traveline Cymru gael eu cyflwyno, mae cyfran helaeth o gwsmeriaid Traveline Cymru yn dal yn hoff o ddefnyddio’r ffôn i ymholi ynghylch teithio, yn enwedig y sawl sy’n perthyn i grwpiau a warchodir a chymunedau gwledig ar draws Cymru. Bellach, bydd y cwsmeriaid hyn yn gallu defnyddio gwasanaethau am bris mor rhad ag sy’n bosibl, sy’n beth hynod o gadarnhaol, a’n gobaith yw y bydd y newid yn denu mwy fyth o bobl i ddefnyddio’r gwasanaeth gwerthfawr hwn.”

Cwmni dielw yw Traveline Cymru, sy’n seiliedig ar bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru ac awdurdodau lleol Cymru. Mae’n darparu gwybodaeth am lwybrau, prisiau tocynnau ac amserlenni ar gyfer pob gwasanaeth bws a thrên yn y wlad drwy ei wefan ddwyieithog, ei ganolfan alwadau a’i gyfres o wasanaethau i ddefnyddwyr ffonau symudol.

 

Diwedd

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon