Newyddion

Taxi strike in Cardiff

Bydd gwasanaeth bws yn rhedeg drwy’r nos yng Nghaerdydd os bydd y gyrwyr tacsis yn penderfynu bwrw ymlaen â’r streic

13 Ebrill 2016

Bydd penaethiaid gwasanaethau cludiant yn cynnig gwasanaeth bws drwy’r nos yng Nghaerdydd os bydd y gyrwyr tacsis yn penderfynu bwrw ymlaen â’r streic sydd wedi’i chynllunio ar gyfer y mis yma.

Bydd y gwasanaeth yn rhedeg bob hanner awr drwy’r nos ar lwybr X1, sy’n cysylltu Croes Cwrlwys â Phontprennau drwy ganol y ddinas. Ni fydd prisiau uwch yn cael eu codi ar gyfer y bysiau nos – sef, mae’n debyg, y gwasanaeth cyntaf o’i fath yng Nghymru – a bydd swyddog diogelwch yn teithio ar bob cerbyd. Mae Cymdeithas Gyrwyr Cerbydau Hacnai Caerdydd yn cynllunio streic ar bedair noson dros ddau benwythnos y mis yma, mewn protest yn erbyn y camau gweithredu llymach y mae’r cyngor wedi’u cymryd wrth ymdrin â chwynion ynghylch gwasanaethau tacsi.

Bwriedir cynnal y streic gyda’r nos ar 15, 16, 22 a 23 Ebrill. Mae’r bysiau nos eisoes wedi’u trefnu gan reolwyr New Adventure Travel, sy’n gwmni sydd wedi’i leoli yn ardal y dociau yng Nghaerdydd.

Meddai Kevyn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr New Adventure Travel: “Ar ôl clywed am y streiciau y mae’r gyrwyr tacsis yn bwriadu eu cynnal, aethom ati i feddwl sut y gallem helpu ein cwsmeriaid.

“Gyda gwasanaeth X1 yn cysylltu nifer o brif ardaloedd poblog Caerdydd – Trelái, Canton, Albany Road, Llanedern, Pentwyn a Phontprennau – â’r ddinas, bydd ymestyn y gwasanaeth i weithredu am 24 awr ar ddiwrnodau’r streic yn helpu ein cwsmeriaid i barhau â’u cynlluniau ac i beidio â gadael i’r streic beri gormod o anghyfleustra iddynt.

“Bydd modd defnyddio ein tocynnau dyddiol sy’n costio £3 a’n tocynnau wythnosol sy’n costio £10, a gaiff eu gwerthu ar ein gwasanaethau X1 ac X11, ar y bysiau nos yn ystod y cyfnod hwn.” Fel rheol, mae gwasanaeth X1 yn gweithredu rhwng 6am a 9.30pm.

Mae’n debygol y bydd y galw gan deithwyr am y bysiau nos yn gostwng ar ôl i’r tafarnau a’r clybiau nos gau, ond bydd y bysiau’n parhau i redeg bob hanner awr nes y bydd yr amserlen arferol ar gyfer y dydd yn dechrau. Roedd Mr Jones yn cyfaddef y gallai’r bysiau nos golli arian i’w fusnes.

Meddai: “Y rheswm yr ydym yn gwneud hyn yw er mwyn helpu pobl sy’n byw ar hyd llwybr yr X1. Rwy’n gwybod mor anodd yw hi i gyrraedd canol y ddinas, a mynd adref o ganol y ddinas, hyd yn oed pan fydd yr holl dacsis ar gael, felly pan fydd llai o dacsis ar gael neu dim tacsis o gwbl bydd hi’n amhosibl.”

Dywedodd pe bai’r bysiau nos yn llwyddiant byddai New Adventure Travel yn ystyried cynnal y gwasanaeth drwy’r nos ar y llwybr yn rhan o’r drefn arferol.

“Mae Caerdydd yn tyfu drwy’r amser, ac mae llawer yn digwydd yma 24 awr y dydd,” meddai. “Os oes digon o alw am wasanaeth 24 awr, yna byddwn yn ystyried o ddifrif darparu’r gwasanaeth hwnnw saith diwrnod yr wythnos.”

Mae bysiau nos wedi bod yn rhedeg yn Llundain ers sawl blwyddyn. Roedd disgwyl i drenau tanddaearol Llundain ddechrau gweithredu drwy’r nos y llynedd, ond cafodd y cynllun ei ohirio o ganlyniad i ddadl â’r undebau llafur. Mae dinasoedd eraill sydd â gwasanaethau bysiau drwy’r nos yn cynnwys Birmingham, Manceinion a Bryste.

Ffynhonnell wybodaeth: Wales Online

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon