Newyddion

Traveline Cymru transport news and updates

Bysiau Stagecoach Yn Y De Yn Defnyddio Cardiau Clyfar. Cynnig Arbennig - Megarider Gold Bellach Yn £19 Yr Wythnos Yn Gyda Megarider Xtra Gold

14 Ebrill 2016

Mae technoleg CERDYN CLYFAR wedi’i chyflwyno ar fysiau yn ne Cymru gan y gweithredwr bysiau Stagecoach, a bydd modd i ddefnyddwyr bysiau ar draws y rhanbarth elwa ar ostyngiadau o hyd at 20% os ydynt yn teithio’n rheolaidd.

Mae’r cynllun cerdyn clyfar, sydd bellach ar waith ar y 314 o fysiau sydd gan y cwmni, yn galluogi teithwyr i storio eu manylion teithio ar gerdyn electronig yn hytrach na defnyddio tocynnau papur. Mae hefyd yn cynnig cyfle i gwsmeriaid dalu am eu teithiau yn ddiffwdan drwy daliadau awtomatig.

Mae’r fenter ddiweddaraf hon yn enghraifft arall o ymrwymiad Stagecoach i sicrhau bod teithio’n haws, yn rhatach ac yn fwy cyfleus i deithwyr.

I gyd-fynd â lansio’r cynllun cardiau clyfar ar fysiau, mae’r cwmni’n cynnig hyd at 20% o ostyngiad rhwng nawr a 31 Awst i gwsmeriaid sy’n cofrestru i ddefnyddio tocyn Megarider Xtra y cwmni. Mae'r tocyn hwnnw'n caniatáu i daliadau gael eu tynnu oddi ar gerdyn credyd neu ddebyd y cwsmer ar ddyddiad y cytunwyd arno bob mis, sy’n golygu na fydd yn rhaid iddynt fynd ati eu hunain i adnewyddu eu tocyn. Caiff tocyn Megarider Xtra y cwsmer ei storio ar gerdyn teithio clyfar Stagecoach, ac mae’n ddilys i’w ddefnyddio nes i’r taliad gael ei ganslo. Mae’r cynnig ar gyfer Megarider Xtra ar gael ar docyn Aur y cwmni, sy’n caniatáu i ddefnyddwyr deithio faint a fynnont ar draws rhwydwaith y de, ac mae’n cyfateb i £19 yr wythnos dros gyfnod o 12 mis o gymharu â’r pris safonol o £24.00 yr wythnos os bydd y tocyn yn cael ei brynu ar y bws.

Meddai Nigel Winter, Rheolwr Gyfarwyddwr Stagecoach yn y de: “Cafodd ein tocynnau clyfar eu cyflwyno’r llynedd ac rydym am atgoffa ein cwsmeriaid bod modd prynu tocynnau clyfar yn hawdd ar-lein, bod modd i aelodau eraill y teulu eu defnyddio, bod modd cael cerdyn newydd yn rhad ac am ddim yn lle rhai sy’n cael eu colli neu’u dwyn (os yw’r cerdyn clyfar wedi’i gofrestru ar-lein) a bod arbedion ardderchog i’w cael gyda’n hystod o gynnyrch Xtra. Mae ein tocynnau clyfar, ynghyd â’n gwefan newydd sy’n cynnwys amseroedd bysiau REAL a chynlluniwr taith hawdd i’w ddefnyddio, yn golygu bod teithio ar y bws yn hawdd gyda Stagecoach yn ne Cymru.

Wrth i ragor o deithwyr dalu ar-lein gyda cherdyn clyfar Stagecoach bydd yn cymryd llai o amser i deithwyr fynd ar y bws, sy’n golygu y bydd y daith yn gynt i’n holl gwsmeriaid.”

Megarider yw enw brand Stagecoach ar gyfer tocynnau teithio wythnosol a misol. Megarider Xtra yw’r tocyn teithio misol sy’n adnewyddu ei hun yn awtomatig. Gall cwsmeriaid ei ddefnyddio a’i ganslo drwy eu cyfrif ar wefan Stagecoach.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i stagecoachbus.com

 

DIWEDD

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon